Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 28 Medi 2016.
Roeddwn eisiau canolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar y trallod personol sy’n cael ei achosi i fusnesau a theuluoedd ffermio. Rwy’n credu bod busnesau ffermio yn unigryw yn y ffaith nad yw’r ffermwr yn mynd allan i weithio am wyth ac yn dychwelyd am chwech. Mae’r teulu cyfan yn rhan o’r busnes, gan gynnwys plant, a phan fydd problem ar y fferm, mae’n effeithio ar y teulu cyfan.
Lywydd, cysylltodd ffermwr â fy swyddfa yr wythnos diwethaf a siaradodd gyda fy rheolwr swyddfa ac roedd y ffermwr yn ei ddagrau. Roedd yn sgwrs emosiynol gyda fy rheolwr swyddfa, i’r fath raddau nes iddi effeithio ar fy rheolwr swyddfa yn ogystal.
Roeddwn i’n meddwl mai’r hyn yr hoffwn ei wneud heddiw oedd darllen detholiad o lythyr a anfonodd ataf, ac a fydd yn ôl pob tebyg yn cymryd y rhan fwyaf o’r amser sydd gennyf. Ond roeddwn yn meddwl ei fod yn ddarn pwerus. Mae’n dweud, ac rwy’n dyfynnu:
Fferm fechan ydym ni ac mae gennym fuches gaeedig sydd, yn anffodus, yn colli ei hanifeiliaid yn gyflym oherwydd lledaeniad TB gwartheg. Nid ydym wedi prynu unrhyw wartheg ers 65 mlynedd ac nid oes gwartheg gan neb o’n cymdogion cyfagos felly nid yw’n bosibl ei fod yn lledaenu o fuwch i fuwch.
Cawsom ein hachos cyntaf o TB chwe blynedd yn ôl, a gobeithiem na fyddai rhaid i ni fynd drwy’r dinistr hwn byth eto. Ar ôl prawf rheolaidd, roedd gennym wartheg adweithiol y bu’n rhaid eu lladd, yn anffodus; gwartheg a oedd yn gyflo ers peth amser oedd y rhain, ond o dan reoliadau lles anifeiliaid ni chânt deithio os ydynt i fod i fwrw lloi o fewn 28 diwrnod felly rhaid eu lladd ar y fferm. Fodd bynnag, bydd y llo bach yn mygu’n araf y tu mewn i’r groth—ffordd greulon a barbaraidd o farw, a’r digwyddiad mwyaf emosiynol y gallai neb fod yn dyst iddo.
Bydd yr un drefn o ladd ar y fferm yn digwydd os yw’r fuwch wedi rhoi genedigaeth i’w llo newydd o fewn y 7 diwrnod diwethaf. Bydd y fuwch sydd wedi adweithio i brawf TB yn cael ei saethu, gan adael y llo newydd-anedig yn amddifad.
Unwaith eto, mae hwn yn brofiad echrydus o emosiynol yn enwedig os mai chi yw’r person sydd wedi magu’r fuwch ers iddi gael ei geni, a hefyd wedi helpu cenedlaethau o’i blaen i ddod i’r byd. Er nad yw’n ymddangos ein bod yn cael gwared ar y clefyd, rydym fel pe baem yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd, ond heb fynd i’r afael ag atal TB.
Yn Lloegr, pan fydd buwch yn cael prawf TB a’r llo i fod i’w eni o fewn 28 diwrnod, caniateir i’r fuwch aros ar y fferm a’i chadw ar wahân i weddill y fuches, bydd y llo’n cael ei eni’n naturiol a’r fam yn cael ei symud 7 diwrnod ar ôl rhoi genedigaeth.
Ac yn Iwerddon, os oes gan fuches wartheg sydd wedi adweithio i brawf TB, bydd pob mochyn daear o fewn radiws o dri chilometr i’r fferm honno yn cael ei ddifa. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dysgu o brofiad gwledydd cyfagos sy’n dangos bod angen dull deublyg o ymdrin â’r clefyd mewn bywyd gwyllt er mwyn llwyddo i ddileu TB gwartheg.
Nawr, i mi, wrth ddarllen hwn, nid wyf yn credu mai’r undebau a’r sefydliadau eraill yn unig yw hyn, ond profiad go iawn ffermwr sydd wedi dioddef y clefyd hynod o greulon hwn. Nid yw ffermwyr eisiau gweld difa bywyd gwyllt er ei fwyn ei hun, ond yr hyn rydym ei angen yw opsiwn sy’n ystyried yr holl opsiynau i ddileu’r clefyd creulon hwn. Hoffwn ddweud yn syml wrth Ysgrifennydd y Cabinet: peidiwch â throi eich cefn ar amaethyddiaeth yng Nghymru a theuluoedd Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at gyfraniad cadarnhaol gan Ysgrifennydd y Cabinet pan fydd yn ymateb.