Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch. Ar y pwynt hwnnw’n unig. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda fy mwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, ynglŷn â sut y gallwn annog mwy o nyrsys mewn hyfforddiant i ddod i lefydd fel Llwynhelyg nad ydynt yn cael eu gweld yn draddodiadol fel mannau lle bydd nyrsys yn hyfforddi. A phe baem yn cael rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â beth fydd cynlluniau’r Llywodraeth yn y dyfodol, gallem symud ymlaen gyda rhai o’r cynlluniau hynny a chynyddu nifer y nyrsys sydd ar gael ar gyfer rhai mannau sy’n anodd recriwtio iddynt o bryd i’w gilydd.