2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 4 Hydref 2016.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Tybed a all y Prif Weinidog ddweud wrthym pa un a yw’n gwybod pa mor hir mae'n ei gymryd i deithio o Aberdaron ym Mhen Llŷn i Ysbyty Glan Clwyd os ydym yn cymryd yn ganiataol nad oes traffig a dim tywydd garw.
Byddai honno'n daith, rwy’n tybio, o oddeutu dwy awr, yn dibynnu ar y traffig, wrth gwrs.
Ie, nid yw hynny’n bell o’i le, Brif Weinidog—mae'n cymryd tua dwy awr. [Torri ar draws.] Mae'r ymateb pan fydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiwn yn gywir yn ddiddorol iawn. [Chwerthin.] Brif Weinidog, byddai dwy awr mewn ambiwlans, rwy'n siŵr y byddech chi’n cytuno â mi, yn llawer rhy hir. Nawr, mae’n bosibl y byddwch yn ymwybodol o gynigion i ganoli llawdriniaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd, gan roi’r gorau iddynt yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Wel, mae'n gweithredu ar ddau safle a dweud y gwir—mae'n gweithredu yn Ysbyty Maelor Wrecsam hefyd. Nawr, mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd yn un o'r goreuon yn y byd, ac nid dim ond fi sy’n dweud hynny—data cyhoeddedig sy'n dangos hynny. A allwch chi ddweud wrthym, felly, Brif Weinidog, pam mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu cael gwared ar wasanaeth o'r radd flaenaf o Ysbyty Gwynedd?
Dim o gwbl—rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ganolfan arbenigol. Mae wedi digwydd ar draws weddill Cymru, ac mae'n bwysig bod pobl sy'n byw yn ardal Betsi Cadwaladr yn gallu cael uned fasgwlaidd arbenigol gref iawn. Nid wyf yn credu mai pa un a ddylid cael uned arbenigol yw’r cwestiwn, ond ble y dylid ei lleoli. Ac rwy’n deall y pwyntiau sydd wedi eu gwneud, yn enwedig gan ei chyd-aelod, yr Aelod dros Arfon, y dylid rhoi rhagor o ystyriaeth i edrych ar safleoedd eraill ac nid Glan Clwyd yn unig. Ond, wedi dweud hynny, mae'r cyngor iechyd cymuned wedi cefnogi'r cynigion, fel yr wyf ar ddeall, hyd yn hyn. Bydd y bwrdd yn ystyried y mater ymhellach yn ei gyfarfod ym mis Hydref, a gallai hwnnw fod yn gyfle i'r rhai sy'n anhapus gyda'r penderfyniad hyd yn hyn i leisio eu barn.
Dim ond i fod yn eglur, Brif Weinidog, eich Llywodraeth chi fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol am hyn, ac mae gennym ni wasanaeth ardderchog eisoes, ac mae wedi’i leoli yn Ysbyty Gwynedd. Nawr, pan gollodd Ysbyty Brenhinol Morgannwg ei wasanaeth llawdriniaeth fasgwlaidd, y canlyniad oedd bod gwasanaethau eraill yno yn annichonadwy. Nawr, mae clinigwyr wedi codi pryderon difrifol gyda mi am ddiogelwch gorfodi modelau gofal iechyd trefol ar ardaloedd gwledig, ac mae eich Llywodraeth chi yn gorfodi un model addas i bawb ar draws y wlad gyfan. Os bydd Ysbyty Gwynedd yn colli ei llawdriniaeth fasgwlaidd, bydd yn gwneud yr ysgol feddygol ym Mangor, yr ydym ni ei heisiau, yn llawer llai dichonadwy. Bydd hefyd yn golygu bod pobl o Ynys Môn, Pen Llŷn a mannau eraill, yn teithio’n llawer rhy bell i gael llawdriniaeth hanfodol a allai achub aelod o’r corff neu fywyd. A wnewch chi, felly, ymrwymo heddiw, Brif Weinidog, i ddiogelu’r gwasanaeth fasgwlaidd o'r radd flaenaf yn Ysbyty Gwynedd?
Rydym ni eisiau diogelu’r gwasanaeth fasgwlaidd o’r radd flaenaf i Betsi Cadwaladr i gyd. Byddwn yn ystyried yr holl sylwadau a wneir, a bydd y bwrdd iechyd yn ei ystyried nesaf. Mae’n rhaid i mi ddweud, mae hi'n gwneud y pwynt am atebion trefol mewn ardaloedd gwledig, ac, mae'n ddrwg gen i, ond mae hynny weithiau’n cael ei ddefnyddio fel 'gwasanaeth ychydig yn waeth i ardaloedd gwledig nag mewn ardaloedd trefol', ac rwy’n anghytuno. Rwy'n credu y dylai pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig gael mynediad at y gwasanaethau gorau sydd ar gael. Rwy'n cofio’r ddadl hon am lawdriniaeth y colon a'r rhefr ym Mronglais. Rwy’n ei chofio—ei bod yn mynd i adael, y byddai llawdriniaeth canser y colon a’r rhefr yn gadael Bronglais, ac, o ganlyniad, y byddai pethau'n llawer gwaeth. Doedden nhw ddim. Roedden nhw’n well o lawer. Fe wnaeth cyfraddau goroesi wella'n sylweddol, er bod yn rhaid i bobl deithio i Gaerdydd, mae cymaint â hynny’n wir. Felly, bydd yn rhaid i'r bwrdd ystyried y materion hyn yn ofalus iawn. Rwy’n deall y pwynt y mae hi'n ei wneud, ac mae ei chyd-aelod wedi gwneud yn union yr un pwyntiau, wrth gwrs, fel yr Aelod dros Arfon, y byddwn yn disgwyl iddi eu gwneud. Mae’n rhaid i'r bwrdd ystyried y pwyntiau sy'n cael eu gwneud, a bydd Gweinidogion yn ystyried unrhyw sylwadau, ond ni fyddem yn dianc y ffaith fod angen canolfan arbenigol. Y cwestiwn wedyn yw ble y dylid ei lleoli.
Ar ran arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Brif Weinidog, mae cael gweld meddyg teulu yn dod yn fwy a mwy o broblem i gymunedau ledled Cymru, ac mae hyn yn arbennig o wir i bobl sy'n gweithio. A allwch chi ddweud wrthym beth yw canran y meddygfeydd teulu ledled Cymru sy’n cynnig apwyntiadau ar ôl 6 p.m. ar hyn o bryd?
Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cynnig apwyntiadau ar o leiaf un noson yr wythnos. Ond a gaf i ddweud wrth arweinydd dros dro y Ceidwadwyr Cymreig fod ei blaid wedi gwneud cyhoeddiadau heddiw a fydd yn ei gwneud yn llawer mwy anodd i recriwtio meddygon—nid yn unig i Loegr, lle y gwnaed y cyhoeddiad, ond ar draws y DU gyfan? Pa fath o neges mae ei blaid yn ei rhoi i feddygon sydd eisiau dod i'r DU i weithio pan fo’i Brif Weinidog ei hun yn dweud y bydd staff yma o dramor yn y cyfnod interim tan y bydd modd hyfforddi rhagor o feddygon o Brydain, a phan ddywedodd Damian Green bod croeso i feddygon tra bydd eu hangen—tra bydd eu hangen. Wel, mae gen i ofn na all ei chael hi bob ffordd. Ni all ar y naill law gwyno nad oes digon o feddygon pan fo’i blaid ei hun yn Llundain yn gwneud popeth yn ei gallu i wneud yn siŵr nad yw meddygon yn dod yma yn y lle cyntaf.
Wel, mae’n amlwg yn bryd i’r Prif Weinidog gymryd cyfrifoldeb am y GIG yng Nghymru. Mae’n amlwg ei fod eisiau trafod Lloegr i dynnu’r sylw oddi wrth ei fethiannau ei hun. Felly, gadewch i mi roi'r ateb i fy nghwestiwn gwreiddiol iddo: dim ond 29 y cant o feddygfeydd teulu ledled Cymru sy’n cynnig apwyntiadau ar ôl 6 p.m. ar hyn o bryd, sy’n ystadegyn gwarthus o ystyried y flaenoriaeth a roddodd eich Llywodraeth i gael mynediad at feddygon teulu yn y Cynulliad diwethaf. Ym maniffesto 2011, dywedodd Llafur Cymru y byddai’n ei gwneud yn ofynnol i feddygon teulu
‘wneud meddygfeydd yn fwy hygyrch i bobl sy'n gweithio’.
Roedd y maniffesto hefyd yn dweud y byddai'n
‘annog rhaglen o archwiliadau iechyd blynyddol, o dan arweiniad meddygon teulu, nyrsys practis, fferyllwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, i bawb dros 50 oed’.
Rydym ni wedi clywed eich Llywodraeth yn addo lawer gwaith y byddech yn diwygio'r ffordd y mae pobl ledled Cymru yn cael mynediad at wasanaethau iechyd o ddydd i ddydd, ac eto yn 2016 nid ydym wedi gweld unrhyw welliant pendant. Pam y gwnaethoch chi droi eich cefn ar yr ymrwymiad o archwiliadau iechyd blynyddol wyneb yn wyneb gyda meddygon teulu i bawb dros 50 oed?
Wel, gadewch i ni gael ffigurau. Yn 2015, roedd 97 y cant—97 cant—neu 440 o feddygfeydd, yn cynnig apwyntiadau ar unrhyw adeg rhwng 5 a 6.30 yr hwyr ar o leiaf dau ddiwrnod gwaith. Dyna'r realiti: yr un canran â 2014. Dyna realiti'r ffigurau. Nid wyf yn gwybod o ble mae ei ffigurau ef yn dod.
Wel, nid wyf yn gwybod o ble mae'r Prif Weinidog yn cael ei ffigurau, ac ni atebodd yr ail gwestiwn ynghylch pam y gwnaeth droi ei gefn ar yr archwiliadau iechyd ar gyfer pobl dros 50 oed.
Nawr, roedd eich rhaglen lywodraethu ddiweddar yn dweud y bydd yn gwella mynediad at feddygfeydd teulu unwaith eto, gan ei gwneud yn haws cael apwyntiad. Wel, mae pobl Cymru wedi clywed hyn i gyd o'r blaen, gennych chi a chan Lywodraethau Llafur blaenorol. Yn amlwg, rydych chi wedi methu â gwella'r sefyllfa yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Pam ar y ddaear y dylai pobl Cymru ymddiried ynoch chi y tro hwn? Felly, os yw eich Llywodraeth eisiau gwella hygyrchedd meddygfeydd teulu, pa feincnodau strategol wnewch chi eu rhoi ar waith nawr i wella hygyrchedd erbyn 2021, o ystyried nad ydych chi wedi cyhoeddi unrhyw dargedau o gwbl yn y rhaglen lywodraethu bresennol?
Rydym ni wedi cyflawni, a chydnabuwyd hynny gan bobl Cymru ym mis Mai. Nid yw’n ddim gwahanol i’w arweinydd. Mae fel gwylio pryfyn yn taro ei hun yn erbyn ffenestr dro ar ôl tro heb wneud unrhyw gynnydd o gwbl. Wel, gadewch i mi eich helpu gyda mwy o ffigurau. Yn 2015, roedd 82 y cant—373 o feddygfeydd—ar agor am oriau craidd dyddiol o 8 a.m. tan 6.30 p.m. o ddydd Llun i ddydd Gwener—cynnydd o 80 y cant yn 2014, ar ben—ar ben—y mynediad y soniais amdano’n gynharach. Y gwir yw ei fod wedi cael ei ffigurau’n anghywir, a’n bod ni wedi cyflawni ein haddewidion.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf yng nghynhadledd y Blaid Lafur, dywedodd Diane Abbott, Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid yn San Steffan, bod y bobl a bleidleisiodd dros Brexit wedi gwneud hynny i raddau helaeth gan eu bod eisiau gweld llai o bobl o dramor ar y strydoedd. Onid yw'n credu bod hyn yn athrod ar y 62 y cant o bobl ym Mlaenau Gwent a bleidleisiodd dros Brexit, y 60 y cant yn Nhorfaen, ac, yn wir, y 55 y cant ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bleidleisiodd dros Brexit?
Wel, ni allaf fod yn atebol am sylwadau a wnaed gan bobl eraill. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw nad wyf yn credu bod pobl wedi pleidleisio i weld meddygon yn cael eu halltudio, sef yr hyn y mae’r Torïaid eisiau ei wneud heddiw.
Nid oes unrhyw feddyg yn mynd i gael ei alltudio. Mae hynny’n beth hurt i'w ddweud. Ond yn sicr ni fyddent yn—[Torri ar draws.] Yn sicr ni fyddent yn—[Torri ar draws.] Yn sicr ni fyddent yn—[Torri ar draws.] Yn sicr ni fyddent yn cael eu halltudio o dan Lywodraeth Lafur gan ei bod yn eglur o gynhadledd y Blaid Lafur nad yw'r Blaid Lafur yn credu mewn unrhyw reoliadau mewnfudo o ddifrif o gwbl. Yn wir, dywedodd llefarydd ar ran Jeremy Corbyn bod ganddo agwedd ddigyffro at y posibilrwydd o fwy o fewnfudo ac nad yw'n credu mewn ei leihau. Mae’n debyg bod cynorthwywyr Mr Corbyn wedi dweud nad yw lleihau mewnfudo yn amcan a bod Jeremy Corbyn yn credu mai'r ffordd orau o ymdrin â mewnfudo ar draws Ewrop yw cysoni cyflogau ym mhob gwlad. O ystyried mai £100 yr wythnos yw’r cyflog cyfartalog yn Rwmania ac £80 yr wythnos ym Mwlgaria, a yw'r Prif Weinidog yn credu bod hwn yn bolisi call ar gyfer rheoli mewnfudo?
Wel, rwy’n gweld nawr bod arweinydd UKIP yn barod iawn i amddiffyn y Torïaid. Hynny yw, gofynnwyd i Damian Green sawl gwaith—fe’i gwelais—gan Andrew Neil, 'A ydych chi’n dweud y bydd meddygon yn cael eu halltudio?', ac nid oedd yn fodlon ateb y cwestiwn. Yr hyn a ddywedodd oedd, 'Mae croeso iddyn nhw tra bod eu hangen'. Yna, wrth gwrs, aeth yn ei flaen i ddweud, 'Wel, wrth gwrs, ni fyddai unrhyw alltudio o dan Lywodraeth Lafur’, fel pe byddai hynny’n rhywbeth drwg—rhywbeth drwg. Mae ef eisiau alltudio pobl, mae'n ymddangos i mi.
Y gwir amdani yw ein bod ni yng Nghymru yn rhoi croeso i feddygon. Rydym ni’n rhoi croeso i bobl sy'n dod ac yn byw yn ein gwlad yn flynyddol. Byddem ni hyd yn oed yn rhoi croeso iddo fe, pe byddai’n dewis byw yng Nghymru, hefyd. [Chwerthin.]
Nid oeddwn i’n sylweddoli bod y Prif Weinidog yn eithafwr. [Aelodau'r Cynulliad: 'O'.] Nid oes unrhyw bosibilrwydd i unrhyw un gael ei alltudio o Gymru na'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i Brexit, oherwydd, fel y gŵyr y Prif Weinidog yn iawn, mae hawliau'r rhai sydd yma eisoes wedi eu diogelu o dan rwymedigaethau cytundeb presennol Prydain nad ydynt yn berthnasol i'r UE. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn derbyn i’r wlad hon yn y dyfodol y rhai yr ydym ni eu hangen ac y gallwn ddewis pwy sy'n dod yma. A dyna yw hanfod pŵer unrhyw genedl sofran.
Os ystyriwyd bod rhoi croeso iddo, pe byddai’n dewis byw yng Nghymru, yn arwydd o fod yn eithafwr, yna ymddiheuraf yn hynny o beth, ond mae croeso iddo fyw yn ein gwlad os yw’n dewis gwneud hynny, serch hynny. Ond un peth y gallaf ei ddweud wrtho yw hyn: mae angen meddygon arnom ni. Nid oes gwasanaeth iechyd yn unrhyw le yn y byd datblygedig nad yw'n recriwtio meddygon o wledydd eraill. Y gwir amdani yw bod chwarter ein staff meddygol yn dod o dramor, a'r neges sydd wedi ei rhoi heddiw yw, 'Os nad ydych chi’n dod o'r DU, peidiwch â dod i'r DU, nid oes croeso i chi, oherwydd os cewch chi swydd byddwch yn colli’r swydd honno cyn gynted ag y bydd rhywun arall yn dod ymlaen, er y gallai gymryd 10 neu 15 mlynedd i wneud hynny'. Byddwn yn parhau i recriwtio meddygon da ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru tra bod eraill yn ceisio creu sefyllfa lle mae llai a llai o feddygon ar gael i drin ein pobl.