Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 4 Hydref 2016.
Un defnydd allai fod gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ar gyfer ein hetholiadau. Credwyd bod hyn wedi gweddnewid cyfranogiad pleidleiswyr ymhlith pobl iau yn yr Alban pan newidiwyd y gyfraith ar gyfer refferendwm yr Alban. Byddai hefyd yn caniatáu i ni hyrwyddo mewn modd gwych iawn, yn y grŵp oedran 14 i 18 oed, y cysyniad hollol newydd o addysg dinasyddiaeth a chyfranogiad pleidleiswyr. Mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni ei wneud; mae’n rhaid i ddinasyddion fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau, hefyd, o ran parhau democratiaeth iach, ac mae addysg yn allweddol i hynny.