Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 4 Hydref 2016.
Mae'n gwbl allweddol i hynny. Pan fyddaf yn cyfarfod â phobl ar garreg y drws, ac maen nhw’n dweud wrthyf nad ydynt yn pleidleisio, rwy’n gofyn iddyn nhw ailadrodd yr hyn y maen nhw newydd ei ddweud ond heb ddefnyddio eu llais. Ac rwy’n dweud, 'Wel, dyna chi, nid oes gennych lais os nad ydych chi’n pleidleisio. Pe byddech yn dweud wrthyf, "Rwy’n pleidleisio, ond pam y dylwn i bleidleisio drosoch chi?"—yna mae gwleidyddion yn cymryd sylw’. Mae'n drist ein bod ni wedi gweld gostyngiad, ers canol y 1990au byddwn i'n dweud, mewn cyfranogiad pleidleiswyr, ac os ydym ni’n onest fel gwleidyddion, mae'n anodd iawn deall y rheswm neu'r rhesymau am hynny. Rydym ni’n gwybod bod y nifer a bleidleisiodd yn uchel yn yr Alban yn y refferendwm annibyniaeth. Ond un o'r pethau yr ydym ni wedi ei wneud, er enghraifft, yw ariannu gwefan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr a Chlwb Democratiaeth Cymru, 'Ble dylwn i bleidleisio?' Fe'i lansiwyd ym mis Mawrth eleni. Mae'n galluogi myfyrwyr ac eraill i ddod o hyd i'r orsaf bleidleisio y cawsant eu cofrestru ynddi ac roedd yn cynnwys 10 o'r 22 ardal awdurdod lleol, sy’n cynnwys tua 47 y cant o etholwyr Cymru.