2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2016.
10. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyfranogiad pleidleiswyr, yn arbennig pobl ifanc? OAQ(5)0184(FM)
Rydym ni’n parhau i weithio gyda'n partneriaid i annog pobl i gofrestru, yn gyntaf oll, ac i bleidleisio cyn yr etholiadau llywodraeth leol yn 2017. Gan dybio bod Bil Cymru, wrth gwrs, yn foddhaol cyn belled ag y mae’r sefydliad hwn yn y cwestiwn, a’i fod yn cael cymeradwyaeth seneddol, byddwn mewn sefyllfa i ystyried y defnydd gorau o bwerau newydd mewn materion etholiadol.
Un defnydd allai fod gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ar gyfer ein hetholiadau. Credwyd bod hyn wedi gweddnewid cyfranogiad pleidleiswyr ymhlith pobl iau yn yr Alban pan newidiwyd y gyfraith ar gyfer refferendwm yr Alban. Byddai hefyd yn caniatáu i ni hyrwyddo mewn modd gwych iawn, yn y grŵp oedran 14 i 18 oed, y cysyniad hollol newydd o addysg dinasyddiaeth a chyfranogiad pleidleiswyr. Mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni ei wneud; mae’n rhaid i ddinasyddion fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau, hefyd, o ran parhau democratiaeth iach, ac mae addysg yn allweddol i hynny.
Mae'n gwbl allweddol i hynny. Pan fyddaf yn cyfarfod â phobl ar garreg y drws, ac maen nhw’n dweud wrthyf nad ydynt yn pleidleisio, rwy’n gofyn iddyn nhw ailadrodd yr hyn y maen nhw newydd ei ddweud ond heb ddefnyddio eu llais. Ac rwy’n dweud, 'Wel, dyna chi, nid oes gennych lais os nad ydych chi’n pleidleisio. Pe byddech yn dweud wrthyf, "Rwy’n pleidleisio, ond pam y dylwn i bleidleisio drosoch chi?"—yna mae gwleidyddion yn cymryd sylw’. Mae'n drist ein bod ni wedi gweld gostyngiad, ers canol y 1990au byddwn i'n dweud, mewn cyfranogiad pleidleiswyr, ac os ydym ni’n onest fel gwleidyddion, mae'n anodd iawn deall y rheswm neu'r rhesymau am hynny. Rydym ni’n gwybod bod y nifer a bleidleisiodd yn uchel yn yr Alban yn y refferendwm annibyniaeth. Ond un o'r pethau yr ydym ni wedi ei wneud, er enghraifft, yw ariannu gwefan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr a Chlwb Democratiaeth Cymru, 'Ble dylwn i bleidleisio?' Fe'i lansiwyd ym mis Mawrth eleni. Mae'n galluogi myfyrwyr ac eraill i ddod o hyd i'r orsaf bleidleisio y cawsant eu cofrestru ynddi ac roedd yn cynnwys 10 o'r 22 ardal awdurdod lleol, sy’n cynnwys tua 47 y cant o etholwyr Cymru.
Diolch i’r Prif Weinidog.