Part of the debate – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 4 Hydref 2016.
Diolch am yr ymateb yna, Weinidog y Cabinet, ac am eich datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf. Diolch i chi, Lywydd, hefyd, am ganiatáu’r cwestiwn brys fel y gellid craffu ar y datganiad yn gynnar.
Fel Ceidwadwyr Cymreig, ni fyddai gennym unrhyw wrthwynebiad i gyrff a noddir neu gyrff o fewn y Llywodraeth yn manteisio i’r eithaf ar eu cyfleoedd i wella’r holl weithgareddau gweithredol, gan gynnwys gweithgareddau masnachol. Rwy'n cofio codi’r union bwynt hwn gydag un o'ch rhagflaenwyr yn y Cynulliad diwethaf. Mae hefyd yn galonogol gweld bod un neu ddau o'r dewisiadau ger eich bron yn cydnabod nad y dewis gorau i Cadw yw ei fod wedi ei gladdu o fewn y Llywodraeth o reidrwydd, a bod yn rhaid iddo weithredu o leiaf yn rhannol ar hyd braich, er mwyn cael mynediad at gymorth ariannol. Pe byddai’r Llywodraeth Cymru flaenorol wedi gwrando arnom ni yn y Cynulliad blaenorol, efallai y byddai Cadw, yr amgueddfa a'r comisiwn brenhinol eisoes wedi darganfod gwelliannau i'w harferion partneriaeth parhaus.
Am y dewisiadau i uno y mae fy nghwestiynau yn eu hanfod, ac rwy’n credu bod angen eu hateb yn gynnar yn y broses hon. A dyma nhw: pa wersi wnaeth Llywodraeth Cymru eu dysgu o’r ymgais a fethodd i arfer ei dymuniad i uno Cadw a'r comisiwn brenhinol? Sut byddech chi’n goresgyn statws siarter frenhinol yr amgueddfa? A fyddai angen i chi ddefnyddio deddfwriaeth i uno unrhyw weithgareddau'r cyrff y cyfeirir atynt yn adroddiad PwC? Os cewch chi arweiniad cynnar gan y Cynulliad hwn, sydd yn y fantol, y byddai uno swyddogaethau yn annerbyniol i ni, a fyddech chi’n gwneud datganiad cynnar y byddai'r dewis penodol hwnnw yn cael ei dynnu yn ôl? Ac yn olaf, gan edrych ar fodelau ar gyfer gwell gweithio mewn partneriaeth, a allwch chi ddweud wrthym pwy y byddwch chi’n ymgynghori â nhw i sicrhau nad oes unrhyw gorff neu bartner penodol yn gryfach na’r lleill? Diolch.