Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 4 Hydref 2016.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a hefyd croesawu cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i wella perfformiad masnachol llawer o'n sefydliadau treftadaeth ac amgylchedd hanesyddol. O ran Cadw, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelodau heddiw bod 2016, a dweud y gwir, ar y trywydd iawn i fod y flwyddyn fwyaf llwyddiannus yn ei hanes. Mae'n rhan o Lywodraeth Cymru, ond penderfyniad a wnes i yn gynnar yn fy swyddogaeth flaenorol oedd sicrhau bod gweithgareddau masnachol Cadw yn cyd-fynd mwy â Croeso Cymru ac amcanion y Flwyddyn Antur a Blwyddyn y Chwedlau. O ganlyniad i'r gwaith hwn, Gorffennaf 2016 oedd y mis gorau yn hanes Cadw. Roedd incwm yn fwy na £160,000 yn uwch nag ym mis Gorffennaf 2015, a bron i £400,000 yn uwch o'i gymharu â phedwar mis cyntaf y llynedd. Rwy'n falch o allu dweud bod nifer yr ymwelwyr 14,000 yn fwy ym mis Gorffennaf eleni o’i gymharu â'r llynedd. Y rheswm yr wyf yn datgan y ffeithiau hyn yw oherwydd eu bod yn dangos yr hyn y gellir ei wneud pan fydd sefydliadau’n cydweithio'n agosach o ran gweithgarwch hyrwyddo a marchnata. Mae'r grŵp llywio a ffurfiwyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Cadw, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn ogystal â chynrychiolwyr undebau llafur y gweithlu a gyflogir ar draws yr ystadau, a hefyd y comisiwn brenhinol a'r llyfrgell genedlaethol. Bydd y grŵp llywio yn nodi sut y gellir cyfansoddi Cymru Hanesyddol orau fel y gall wireddu potensial masnachol ein gwasanaeth amgylchedd hanesyddol, Cadw, ac, wrth gwrs, Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn effeithiol. Bydd y grŵp llywio yn ystyried amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer Cymru Hanesyddol a gafodd eu gwerthuso yn yr adroddiad ‘Investing in the future to protect the past’, y mae'r Aelod yn ymwybodol a baratowyd gan PwC yn gynharach eleni. Hysbyswyd yr adroddiad hwnnw, a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, gan grŵp llywio a gadeiriwyd gan y Farwnes Randerson. Mae'r grŵp llywio yn cael ei gadeirio gan Justin Albert o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hyn. Mae ganddo wybodaeth anhygoel am y sector a dealltwriaeth wych o ystâd treftadaeth Cymru, ond yn annibynnol ar y sefydliadau sy'n cael eu hystyried yn rhan o'r ymarfer hwn.
O ran pa un a oes angen deddfwriaeth arnom ai peidio, wel, bydd hynny’n cael ei ystyried yn rhan o'r argymhellion y bydd y grŵp llywio yn eu gwneud yn y pen draw. O ran ymgysylltu ehangach, fy mwriad yw cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn 2017, ar ôl i’r grŵp llywio adrodd yn ôl.