– Senedd Cymru ar 4 Hydref 2016.
Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy’n galw ar Suzy Davies i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.
Diolch yn fawr, Lywydd. Jest rhowch eiliad i fi ffeindio fe.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i uno elfennau o Amgueddfa Cenedlaethol Cymru â Cadw? EAQ(5)0053(EI)
Rwyf wedi ymrwymo i alluogi ein sefydliadau treftadaeth a diwylliannol i sicrhau bod eu perfformiad masnachol y gorau y gall fod. Rwy’n credu y gellir cyflawni hyn trwy archwilio strwythurau newydd posibl a chymryd y camau angenrheidiol i wireddu'r manteision y gellir eu cael drwy integreiddio gwell.
Diolch am yr ymateb yna, Weinidog y Cabinet, ac am eich datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf. Diolch i chi, Lywydd, hefyd, am ganiatáu’r cwestiwn brys fel y gellid craffu ar y datganiad yn gynnar.
Fel Ceidwadwyr Cymreig, ni fyddai gennym unrhyw wrthwynebiad i gyrff a noddir neu gyrff o fewn y Llywodraeth yn manteisio i’r eithaf ar eu cyfleoedd i wella’r holl weithgareddau gweithredol, gan gynnwys gweithgareddau masnachol. Rwy'n cofio codi’r union bwynt hwn gydag un o'ch rhagflaenwyr yn y Cynulliad diwethaf. Mae hefyd yn galonogol gweld bod un neu ddau o'r dewisiadau ger eich bron yn cydnabod nad y dewis gorau i Cadw yw ei fod wedi ei gladdu o fewn y Llywodraeth o reidrwydd, a bod yn rhaid iddo weithredu o leiaf yn rhannol ar hyd braich, er mwyn cael mynediad at gymorth ariannol. Pe byddai’r Llywodraeth Cymru flaenorol wedi gwrando arnom ni yn y Cynulliad blaenorol, efallai y byddai Cadw, yr amgueddfa a'r comisiwn brenhinol eisoes wedi darganfod gwelliannau i'w harferion partneriaeth parhaus.
Am y dewisiadau i uno y mae fy nghwestiynau yn eu hanfod, ac rwy’n credu bod angen eu hateb yn gynnar yn y broses hon. A dyma nhw: pa wersi wnaeth Llywodraeth Cymru eu dysgu o’r ymgais a fethodd i arfer ei dymuniad i uno Cadw a'r comisiwn brenhinol? Sut byddech chi’n goresgyn statws siarter frenhinol yr amgueddfa? A fyddai angen i chi ddefnyddio deddfwriaeth i uno unrhyw weithgareddau'r cyrff y cyfeirir atynt yn adroddiad PwC? Os cewch chi arweiniad cynnar gan y Cynulliad hwn, sydd yn y fantol, y byddai uno swyddogaethau yn annerbyniol i ni, a fyddech chi’n gwneud datganiad cynnar y byddai'r dewis penodol hwnnw yn cael ei dynnu yn ôl? Ac yn olaf, gan edrych ar fodelau ar gyfer gwell gweithio mewn partneriaeth, a allwch chi ddweud wrthym pwy y byddwch chi’n ymgynghori â nhw i sicrhau nad oes unrhyw gorff neu bartner penodol yn gryfach na’r lleill? Diolch.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a hefyd croesawu cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i wella perfformiad masnachol llawer o'n sefydliadau treftadaeth ac amgylchedd hanesyddol. O ran Cadw, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelodau heddiw bod 2016, a dweud y gwir, ar y trywydd iawn i fod y flwyddyn fwyaf llwyddiannus yn ei hanes. Mae'n rhan o Lywodraeth Cymru, ond penderfyniad a wnes i yn gynnar yn fy swyddogaeth flaenorol oedd sicrhau bod gweithgareddau masnachol Cadw yn cyd-fynd mwy â Croeso Cymru ac amcanion y Flwyddyn Antur a Blwyddyn y Chwedlau. O ganlyniad i'r gwaith hwn, Gorffennaf 2016 oedd y mis gorau yn hanes Cadw. Roedd incwm yn fwy na £160,000 yn uwch nag ym mis Gorffennaf 2015, a bron i £400,000 yn uwch o'i gymharu â phedwar mis cyntaf y llynedd. Rwy'n falch o allu dweud bod nifer yr ymwelwyr 14,000 yn fwy ym mis Gorffennaf eleni o’i gymharu â'r llynedd. Y rheswm yr wyf yn datgan y ffeithiau hyn yw oherwydd eu bod yn dangos yr hyn y gellir ei wneud pan fydd sefydliadau’n cydweithio'n agosach o ran gweithgarwch hyrwyddo a marchnata. Mae'r grŵp llywio a ffurfiwyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Cadw, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn ogystal â chynrychiolwyr undebau llafur y gweithlu a gyflogir ar draws yr ystadau, a hefyd y comisiwn brenhinol a'r llyfrgell genedlaethol. Bydd y grŵp llywio yn nodi sut y gellir cyfansoddi Cymru Hanesyddol orau fel y gall wireddu potensial masnachol ein gwasanaeth amgylchedd hanesyddol, Cadw, ac, wrth gwrs, Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn effeithiol. Bydd y grŵp llywio yn ystyried amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer Cymru Hanesyddol a gafodd eu gwerthuso yn yr adroddiad ‘Investing in the future to protect the past’, y mae'r Aelod yn ymwybodol a baratowyd gan PwC yn gynharach eleni. Hysbyswyd yr adroddiad hwnnw, a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, gan grŵp llywio a gadeiriwyd gan y Farwnes Randerson. Mae'r grŵp llywio yn cael ei gadeirio gan Justin Albert o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hyn. Mae ganddo wybodaeth anhygoel am y sector a dealltwriaeth wych o ystâd treftadaeth Cymru, ond yn annibynnol ar y sefydliadau sy'n cael eu hystyried yn rhan o'r ymarfer hwn.
O ran pa un a oes angen deddfwriaeth arnom ai peidio, wel, bydd hynny’n cael ei ystyried yn rhan o'r argymhellion y bydd y grŵp llywio yn eu gwneud yn y pen draw. O ran ymgysylltu ehangach, fy mwriad yw cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn 2017, ar ôl i’r grŵp llywio adrodd yn ôl.
Mae hwn yn gyfle priodol i ni allu gwyntyllu rhai pryderon sydd wedi dod i law ynglŷn â’r cwestiwn yma o dreftadaeth Cymru. Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o nifer ohonyn nhw. Rwy’n siŵr ei fod o’n cael yr un un math o e-byst ag yr wyf i’n eu cael. A allaf i jest ddatgan yn y lle cyntaf fy mod i’n credu bod amgueddfa genedlaethol Cymru yn hanfodol i’n diffinio ni fel cenedl? Yn y dyddiau du yna cyn i ni gael y Cynulliad yma roeddem ni’n edrych ar amgueddfa genedlaethol Cymru fel ymgorfforiad o un o bileri ein cenedl ni, ac wedyn mae’n hanfodol bwysig. Rydym ni isio sicrwydd na fydd yna ddim byd yn digwydd sydd yn mynd i danseilio dyfodol ein hamgueddfa genedlaethol ni.
Felly, un o’r cwestiynau ydy: a allwch chi, yn y pen draw, sicrhau annibyniaeth yr amgueddfa genedlaethol wrth iddi fynd rhagddi dros y blynyddoedd nesaf? Mae hwnnw’n bwynt hanfodol bwysig. Rydym ni’n deall y materion ariannol, ond mae yna hefyd rai yn meddwl, fel finnau, y byddai’n haws, efallai, petaem ni’n rhoi mwy o ryddid i fudiadau fel yr amgueddfa genedlaethol i ddarparu eu rhaglenni busnes eu hunain—yn fwy cyfoethog, felly, nag y maen nhw wedi eu gwneud i fyny at rŵan—yn lle mynd yn syth at drio cael rhyw gynllun mawr sy’n mynd i ddod â phawb at ei gilydd ac efallai beryglu’r annibyniaeth yma rwy’n sôn amdani hi.
A allech chi hefyd olrhain yn union beth ydych chi’n gweld fel cyfrifoldeb treftadaeth Cymru? Achos, wrth gwrs, mae yna bryderon allan yn fanna, o bob rhan o Gymru, ynglŷn â’r diffyg trafodaeth sydd wedi bod hyd yn hyn. Fe wnes i ofyn wythnos diwethaf am ddadl yn fan hyn i ni allu gwyntyllu rhai o’r pryderon yma, efo mwy o amser a mwy o egni, efallai, nag ydym ni’n gallu eu rhoi mewn cwestiwn brys, ac rwyf dal i ddisgwyl am y ddadl yna. Mae yna bryderon am y perig gwirioneddol a allai ddatblygu i rai o’n mudiadau a’n sefydliadau mwyaf gwerthfawr ni fel cenedl.
Ac, yn y pen draw, a fyddech chi’n cytuno y buasai hi’n syniad da petaem ni’n gallu cael ymchwiliad i’r holl fater o dreftadaeth Cymru yn y pwyllgor diwylliant? A fyddech chi fel Gweinidog yn cefnogi’r syniad yna er mwyn i ni fynd i’r afael â’r pryderon sydd yn chwyrlïo o gwmpas? Diolch yn fawr.
Yn gryno, i'r cwestiwn olaf, byddwn. Nid oedd yr Aelod yn bresennol yn 2013, ac nid oedd Cadeirydd y pwyllgor newydd yn aelod o'r pwyllgor hwnnw yn 2013 ychwaith, pryd y bu ymchwiliad i amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Nid yw'r weledigaeth yr wyf i wedi ei hamlinellu ar gyfer Cymru Hanesyddol yn weledigaeth un person neu un blaid. Mae'n weledigaeth sy'n dod o bob plaid a oedd yn bresennol yn y Siambr hon yn y Cynulliad blaenorol. Argymhellodd yr ymchwiliad hwnnw nifer o newidiadau i'r system bresennol. Roedd yn cynnwys aelodau o'r tair plaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd, er nad UKIP. Ond daeth yn amlwg yn ystod yr ymchwiliad hwnnw, ac rwy'n mynd i ddarllen ychydig o adrannau o'r dystiolaeth a roddwyd, bod angen gwneud mwy i sicrhau cynaliadwyedd y sector amgylchedd hanesyddol. Roedd hynny’n gwbl eglur o'r cychwyn cyntaf. Po fwyaf y dystiolaeth a oedd yn dod i mewn, y mwyaf yr oeddem yn cael ein hargyhoeddi bod angen newid.
Gwlad fach yw Cymru ac mae angen i’w sefydliadau treftadaeth arweiniol weithio ar y cyd os yw’n mynd i fod ar ei mwyaf effeithiol o ran gwasanaethu pobl Cymru.
Nid fy ngeiriau i, geiriau prif weithredwr yr amgueddfa genedlaethol. Aeth ymlaen i ddweud bod yr amgueddfa o’r farn bod y gwerth ychwanegol a gyflawnir trwy brosiectau cyllid a rennir a phrosiectau cydweithredol gydag awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector yn allweddol bwysig.
Ac rwy’n cytuno. Yn yr argymhellion, un o'r argymhellion oedd y dylai Llywodraeth Cymru roi mecanweithiau ar waith i sicrhau gwell cydweithio i hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol. Rwy'n cytuno. Argymhelliad arall: dylai Llywodraeth Cymru archwilio dewisiadau i drosglwyddo'r cyfrifoldeb am hyrwyddo asedau awdurdodau lleol i Cadw. Mae hynny'n mynd hyd yn oed ymhellach na'r hyn a awgrymwyd ar gyfer Cymru Hanesyddol. Argymhelliad arall: dylai Llywodraeth Cymru archwilio'r posibilrwydd o sefydlu sefydliad treftadaeth cenedlaethol sy'n seiliedig ar aelodaeth i hyrwyddo safleoedd hanesyddol. Ac argymhelliad arall eto: dylai Llywodraeth Cymru archwilio'r posibilrwydd o sefydlu corff ambarél cynrychioliadol fel English Heritage i gynrychioli sefydliadau anllywodraethol yn y trydydd sector a'r sector preifat. Dyma’n union yr hyn yr ydym ni wedi bwrw ymlaen ag ef gyda rhaglen Cymru Hanesyddol.
Nawr, o ran y sylwadau a wnaed gan y pwyllgor ar y pryd, ac er nad yw’r Aelodau Plaid Cymru a oedd ar y pwyllgor hwnnw gyda ni mwyach—Lindsay Whittle, a hefyd Rhodri Glyn Thomas, ac ef, fel yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol, yw llywydd y llyfrgell genedlaethol erbyn hyn—dywedasant,
Rydym yn teimlo bod yn rhaid cael mwy o synergedd mewn gweithgareddau hyrwyddo... Rydym yn cefnogi'r farn...bod potensial aruthrol ar gyfer dull mwy cydgysylltiedig o hyrwyddo. Rydym yn teimlo bod cyfle i fod yn feiddgar ac yn greadigol.
Rydym yn bod yn feiddgar. Rydym yn dymuno bod yn greadigol.
O ran y cyfrifoldebau, rwy’n credu bod hwn yn sicr yn fater i’r grŵp llywio ei ystyried. O ran hunaniaeth, gadewch i mi fod yn hollol eglur, yn rhan o'r weledigaeth, mai pwysigrwydd Cymru Hanesyddol yw cynnal annibyniaeth, hunaniaeth, cywirdeb a dibenion craidd y sefydliadau cenedlaethol. Cydnabyddir hynny’n llwyr. Amcan Cymru Hanesyddol yw eu galluogi i harneisio eu harbenigedd cyfunol, a’u hadnoddau, i sicrhau’r refeniw masnachol mwyaf posibl er budd ein treftadaeth yn ogystal â’r economi, a chymunedau hefyd. Mae gennym ni raglen. Mae llawer o Aelodau yn ymwybodol ohoni—rhaglen Cyfuno. Mae honno’n ceisio dod â rhai o'n sefydliadau diwylliannol mawr at ei gilydd â’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu i drechu tlodi. Dyna’n union sy'n cael ei gyflawni drwy'r amgueddfa genedlaethol, yn gweithio mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol. Dyna’n union fydd yn cael ei gyflawni gan Cymru Hanesyddol.
Weinidog, rwy’n meddwl ein bod ni i gyd eisiau mwy o gydweithio yn y sector treftadaeth. Rwy’n credu bod hynny'n rhywbeth a fyddai'n dda bawb ohonom, yn enwedig o ran mentrau marchnata. Ond, wyddoch chi, rydym ni’n wynebu rhai ffeithiau caled iawn yma. Mae'r amgueddfa genedlaethol wedi bod yn gorff annibynnol ers y 1920au, wedi’i sefydlu gan siarter frenhinol. Y rheswm y sefydlwyd y sefydliadau mawreddog hyn gennym fel cyrff annibynnol yw fel eu bod yn gallu sefyll i fyny i’r wladwriaeth a chael rheolaeth dros yr hyn sydd allan yno yn y dychymyg artistig, sy'n eithaf heriol. Fy nghwestiwn syml i chi yw, os bydd yr amgueddfa ac orielau cenedlaethol yn colli rheolaeth dros ei weithgareddau masnachol, sut mae'n mynd i gynnal, yn annibynnol ar ddewisiadau’r Llywodraeth, arddangosfeydd bywiog a dewis o arddangosion arbennig y mae’n eu datblygu? Rydym ni eisoes wedi clywed gan Dai Lloyd am y rhan a chwaraewyd o ran datblygu’r dychymyg cenedlaethol. Mae'r holl gwestiynau hyn yn dod i lawr i faterion sylfaenol o sut yr ydym ni’n dychmygu ein hunain a sut yr ydym ni’n profi cydlyniad yr hyn sy'n dod allan, yn aml, o’r sefydliad. Sut bydd annibyniaeth yr ysbryd artistig yn cael ei gadw os, i bob pwrpas, bydd yr amgueddfa, drwy Cadw, yn dod yn rhan o'r Llywodraeth?
Nid wyf yn credu bod neb yn awgrymu y bydd yr amgueddfa genedlaethol yn dod yn rhan o'r Llywodraeth. Dim o gwbl. Mae hyn yn mynd i amddiffyn cynaliadwyedd, hunaniaeth ac annibyniaeth yr amgueddfa, ond sicrhau ein bod yn dod â’r arbenigedd sy'n angenrheidiol at ei gilydd i wireddu potensial llawer o'n sefydliadau. Rwyf wedi siarad am y cynnydd i nifer yr ymwelwyr â safleoedd Cadw. Nid wyf yn fodlon â nhw ar hyn o bryd. Mae wedi bod y flwyddyn orau erioed. Hon yw’r flwyddyn orau i ni ei gweld erioed i Cadw, yn rhannol oherwydd y newidiadau hynny a gafodd eu gwneud, a'r penderfyniad i ddenu pobl newydd i safleoedd Cadw. Ond hoffwn weld nifer yr ymwelwyr yn cynyddu ymhellach. Pam? Oherwydd ei fod yn dda i'r economi, mae'n dda i hyfforddi sgiliau, mae'n dda i wirfoddoli, mae'n dod â chymunedau at ei gilydd. Mae hefyd yn dda i’r sector treftadaeth ac i addysg. Nid wyf yn credu y dylai siarteri brenhinol weithredu fel mesur ataliol pan fo gennych chi bartneriaid parod yn y sefydliadau hynny sydd eisiau dod at ei gilydd i ddod ag arbenigedd ac adnoddau at ei gilydd er budd pawb, a dyna’n union fydd y grŵp llywio yn ei ystyried. Ac, fel yr wyf wedi dweud eisoes, mae’r grŵp llywio yn cynnwys ffigyrau uwch o’r sefydliadau cenedlaethol hynny sydd, hyd yma, wedi bod yn rhan o grwpiau eraill, o dan arweiniad y Farwnes Randerson, ac sydd wedi cefnogi, hyd yn hyn, dod at ei gilydd ar sail fwy cydweithredol.
Yn amlwg, Weinidog, ceir pryder yn y sector, ac mae’n ymddangos bod y pryder hwnnw wedi cyrraedd mewnflychau e-bost yr Aelodau. A wnaiff y Gweinidog yn siŵr, pan fydd yn myfyrio ar argymhellion annibynnol adroddiad gan gyn-Weinidog y Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn myfyrio ar adroddiad grŵp llywio annibynnol y mae wedi ei sefydlu, ei fod yn rhoi buddiannau defnyddwyr wrth galon hyn ac nid unrhyw ffiniau sefydliadol a buddiannau proffesiynol? Yn amlwg, mae angen sicrhau bod pobl yn cyd-fynd ag unrhyw newid a gwrando ar holl ddadleuon pobl ar y rheng flaen, ond rwy’n meddwl bod angen i bobl ymlacio ychydig a gwrando ar yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud, a gadael i'r prosesau yr ydych chi wedi eu cyflwyno fynd rhagddynt.
Mae'r Aelod yn llygad ei le: mae hyn yn ymwneud â defnyddwyr—hynny yw, pobl Cymru yr ydym ni’n eu gwasanaethu ac y mae’n rhaid i'r sefydliadau eu gwasanaethu hefyd. Mae hefyd yn ymwneud â’r bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sefydliadau. Y pryder mwyaf y gellir ei achosi yw ansicrwydd swyddi, a nod hyn yw sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sefydliadau hynny, fel bod y swyddi hynny sydd yno ar hyn o bryd yn cael eu diogelu, ond hefyd bod cyfleoedd i lawer mwy o bobl ymuno â sector sy'n gallu denu pobl ar draws yr ystod oedran, o bob demograffeg. Rwy'n falch ein bod wedi mynd â’r gwaith mor bell. Rwy’n gobeithio y bydd y grŵp llywio yn croesawu’r agenda hon ac yn cyflwyno ateb creadigol iawn a beiddgar iawn i'r hyn sy’n broblem yr wyf yn meddwl bod pawb yn y Siambr hon wedi ei chydnabod—bod yn rhaid cael mwy o gydweithredu ac integreiddio o ran yr hyn y maen nhw’n ei wneud.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.