Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 4 Hydref 2016.
Mae hwn yn gyfle priodol i ni allu gwyntyllu rhai pryderon sydd wedi dod i law ynglŷn â’r cwestiwn yma o dreftadaeth Cymru. Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o nifer ohonyn nhw. Rwy’n siŵr ei fod o’n cael yr un un math o e-byst ag yr wyf i’n eu cael. A allaf i jest ddatgan yn y lle cyntaf fy mod i’n credu bod amgueddfa genedlaethol Cymru yn hanfodol i’n diffinio ni fel cenedl? Yn y dyddiau du yna cyn i ni gael y Cynulliad yma roeddem ni’n edrych ar amgueddfa genedlaethol Cymru fel ymgorfforiad o un o bileri ein cenedl ni, ac wedyn mae’n hanfodol bwysig. Rydym ni isio sicrwydd na fydd yna ddim byd yn digwydd sydd yn mynd i danseilio dyfodol ein hamgueddfa genedlaethol ni.
Felly, un o’r cwestiynau ydy: a allwch chi, yn y pen draw, sicrhau annibyniaeth yr amgueddfa genedlaethol wrth iddi fynd rhagddi dros y blynyddoedd nesaf? Mae hwnnw’n bwynt hanfodol bwysig. Rydym ni’n deall y materion ariannol, ond mae yna hefyd rai yn meddwl, fel finnau, y byddai’n haws, efallai, petaem ni’n rhoi mwy o ryddid i fudiadau fel yr amgueddfa genedlaethol i ddarparu eu rhaglenni busnes eu hunain—yn fwy cyfoethog, felly, nag y maen nhw wedi eu gwneud i fyny at rŵan—yn lle mynd yn syth at drio cael rhyw gynllun mawr sy’n mynd i ddod â phawb at ei gilydd ac efallai beryglu’r annibyniaeth yma rwy’n sôn amdani hi.
A allech chi hefyd olrhain yn union beth ydych chi’n gweld fel cyfrifoldeb treftadaeth Cymru? Achos, wrth gwrs, mae yna bryderon allan yn fanna, o bob rhan o Gymru, ynglŷn â’r diffyg trafodaeth sydd wedi bod hyd yn hyn. Fe wnes i ofyn wythnos diwethaf am ddadl yn fan hyn i ni allu gwyntyllu rhai o’r pryderon yma, efo mwy o amser a mwy o egni, efallai, nag ydym ni’n gallu eu rhoi mewn cwestiwn brys, ac rwyf dal i ddisgwyl am y ddadl yna. Mae yna bryderon am y perig gwirioneddol a allai ddatblygu i rai o’n mudiadau a’n sefydliadau mwyaf gwerthfawr ni fel cenedl.
Ac, yn y pen draw, a fyddech chi’n cytuno y buasai hi’n syniad da petaem ni’n gallu cael ymchwiliad i’r holl fater o dreftadaeth Cymru yn y pwyllgor diwylliant? A fyddech chi fel Gweinidog yn cefnogi’r syniad yna er mwyn i ni fynd i’r afael â’r pryderon sydd yn chwyrlïo o gwmpas? Diolch yn fawr.