6. 3. Datganiad: Prosiect Coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:09, 4 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, byddaf yn dweud fy mod yn croesawu'n fawr ddatganiad cynnar Ysgrifennydd y Cabinet i ni ddoe. Roedd yn hynod ddefnyddiol, rwy’n credu, er mwyn galluogi Aelodau i grynhoi’r datganiad ddiwrnod cyn eich bod chi’n gwneud y datganiad i'r Siambr. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n fodel, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch chi’n parhau i’w ddefnyddio, ac, mewn gwirionedd, y bydd cydweithwyr eraill yn y Cabinet yn dysgu o’r arfer da hwnnw.

O edrych ar eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi’n dweud eich bod yn siomedig bod yr Adran Drafnidiaeth wedi methu ag ymgysylltu â chi ynglŷn â’r diwygiadau hyn cyn iddynt gael eu cyflwyno. Nawr, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi dweud ei bod wedi egluro i’ch swyddogion ar ddechrau'r flwyddyn hon y byddent yn diweddaru rhagamcanion. Nawr, er gwaethaf yr atebion a roddoch i Dai Lloyd, y gwnes i eu clywed, byddwn yn gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet: a yw eich swyddogion yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn hyn o beth? Ond, ni waeth pwy ddywedodd beth a phryd, gwnaed yr wybodaeth am y fethodoleg ddiwygiedig yn gyhoeddus, o’r hyn a ddeallaf, ym mis Gorffennaf, fisoedd yn ôl. Os nad yw hynny'n wir, byddwn i'n hoffi deall hynny, hoffwn wir. Ond byddwn i’n gofyn pryd y cawsoch chi wybod am y newid hwn—rwy’n credu ichi ddweud tri neu bedwar diwrnod yn ôl—dim ond er mwyn cael eglurhad. Ond byddwn i yn dweud, wyddoch chi—nid wy’n deall yn iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, pam na sylwodd eich swyddogion ar hyn ym mis Gorffennaf pan ddaeth yr wybodaeth hon yn gyhoeddus, a byddwn i wedi meddwl y byddai hynny wedi bod yn arfer cyffredin. I mi, mae hyn yn codi, rwy’n credu, y mater—y mater pwysig iawn—sef, pa mor dda mae swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion yr Adran Drafnidiaeth yn cydweithio â'i gilydd.

Mae'n ymddangos bod rhyw ddiffyg cyfathrebu yma. A byddwn i’n gofyn yr un cwestiwn i Lywodraeth y DU hefyd, ond nid yw'n ymddangos i mi ei bod y tu hwnt i allu swyddogion y ddwy Lywodraeth, sy’n gweithio ar brosiect, i siarad yn rheolaidd â’i gilydd. Rwy'n siŵr y byddech chi’n cytuno â mi ar hynny ac rydych chi wedi dweud wrth y siaradwr blaenorol y byddech chi’n ymchwilio i hynny; rwy'n credu y byddai gan bawb ddiddordeb yn y canlyniad. Gallaf ofyn hefyd a fydd y diwygiadau yn effeithio ar unrhyw gynllun arall o gwbl ledled Cymru. A fydd y fethodoleg ddiwygiedig yn cael ei chymhwyso i gynlluniau arfaethedig eraill hefyd?

Rydych chi hefyd yn dweud yn eich datganiad heddiw eich bod am

'sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â phrosiect yr M4 yn seiliedig ar yr wybodaeth fwyaf cywir, cadarn a chyfoes' ac mae hynny’n ymddangos yn gwbl resymol a synhwyrol i mi. Rydych chi’n mynd ymlaen i ddweud bod yn rhaid i chi yn awr ganiatáu digon o amser i adolygu, a'ch bod yn mynd ymlaen o'r fan honno. Felly, rwyf yn dymuno deall y 'rheidrwydd'. Nid yw'n bwynt gwleidyddol yma, ond yr hyn yr wyf eisiau ei ddeall yw—. I mi, mae'n rhesymegol, pan fydd prosiect yn cael ei ddatblygu, eich bod yn defnyddio'r model sy'n bresennol ar y pryd. Felly pam nad yw’r model ar y pryd yn cymryd blaenoriaeth o ran y mater hwn? Rwy'n siŵr bod cydweithwyr ar draws y Siambr hon, ac aelodau'r cyhoedd, fel yr ydych chi’n dweud, sy’n cael eu dal mewn tagfeydd ar yr M4, yn awyddus i ddeall hynny hefyd. Nawr, os oes gwahaniaeth o ran canlyniadau’r rhagolygon gwreiddiol a chanlyniadau’r rhagolygon diwygiedig, pa bryd fydd yr wybodaeth honno ar gael yn gyhoeddus? Sut y caiff ei hesbonio? Sut y bydd y gwahaniaethau yn cael eu hesbonio? A fyddwch chi’n rhoi gwybod i’r Siambr hon neu a fydd hyn yn rhan o'r ymchwiliad cyhoeddus? A sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd hefyd? Yn olaf, pa wahaniaeth yn y rhagolwg fyddai’n newid eich cynllun ar gyfer y llwybr du? Neu efallai, os byddaf yn geirio’r cwestiwn hwnnw mewn ffordd wahanol hefyd, i ba raddau y bydd y gwahaniaethau rhwng y ddau fodel yn effeithio ar eich cynllun presennol ar gyfer newid?