Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 4 Hydref 2016.
Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau. Mae'n amlwg nad yw’r un ohonom ni’n hapus o gwbl â'r hyn yr ydym wedi’i ddysgu yr wythnos hon. Ond rwy’n dychmygu bod modurwyr sy'n defnyddio'r M4 yn rheolaidd yn gwbl gandryll oherwydd yr oedi pellach hwn—oedi diangen ac oedi y gellid ei osgoi. Pe baem ni heb ddewis gohirio cychwyn yr ymchwiliad lleol cyhoeddus yn ymwneud â’r M4 tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, fan bellaf, yna, fwy na thebyg, byddai’r arolygydd wedi gohirio’r ymchwiliad ei hun.
O ran y broses—ac rwy’n credu bod yr Aelodau, ac, rwy’n credu, y cyhoedd, yn haeddu esboniad am hyn. Gadewch imi fod yn glir: nid wy’n credu bod unrhyw gynllwyn ar ran Llywodraeth y DU yn erbyn Cymru yn hyn o beth, ond rwyf i o’r farn bod yna flerwch. Yr hyn sy’n digwydd fel arfer, yr arfer cyffredin, yw y byddwn ni’n cael gwybod un flwyddyn cyn i’r data gael eu cyhoeddi—un flwyddyn. Mae hynny’n ein galluogi ni wedyn i graffu—gan fod hon yn broses ddwys, hynod gymhleth—ar y data newydd. Mae hefyd yn effeithio ar holl ranbarthau Lloegr, ac felly, ar Highways England. Maen nhw mewn sefyllfa debyg i ni; dim ond ychydig wythnosau a roddwyd iddynt cyn i’r data gael eu cyhoeddi. Rhoddwyd tri diwrnod o rybudd i ni—blwyddyn fel rheol—a hynny heb ymgynghori ar y newidiadau ychwaith. Do, rhoddwyd ryw syniad i ni yn y gwanwyn y byddai data TEMPro yn cael eu diweddaru, ond methodd yr Adran Drafnidiaeth ag ymgysylltu â ni o ran cwmpas y newidiadau.
Fel y dywedais, ar gyfer diwygiadau blaenorol i ddata traffig, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi ymgynghori â ni tua blwyddyn ymlaen llaw. Nid wyf yn credu ei bod yn dderbyniol rhoi tri diwrnod o rybudd i ni gan wybod yn iawn beth fyddai’r canlyniadau i ranbarth cyfan o’r DU. Fel rheol, mae'r berthynas yn un iach, ond, yn yr achos hwn, mae rhywbeth wedi mynd o'i le. Hoffwn wybod beth aeth o'i le. Felly, byddaf yn cyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol fis nesaf, fel y mae fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi sôn.
O ran y berthynas sydd gennym â Llywodraeth y DU, rwyf o’r farn ein bod yn gryfach gyda'n gilydd fel gwlad. Wedi dweud hynny, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y penderfyniadau a wneir gan yr Adran Drafnidiaeth, neu, o ran hynny, unrhyw adran arall yn Llywodraeth y DU, yn parchu’r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, a’r amserlen y mae disgwyl i brosiectau—prosiectau mawrion megis yr M4—weithredu oddi mewn iddi.
Roedd yr Aelod yn tynnu sylw at yr angen i drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe—yn bendant; rwy’n cytuno yn llwyr. Ac eto, byddwn i’n datgan nad yw Cymru, yn y gorffennol, wedi cael ei chyfran deg o ran buddsoddiad drwy Network Rail. Mae’n rhaid i hynny newid hefyd. Ac mae’n rhaid i ni sicrhau y cytunir ar y rhaglenni ariannu dethol hynny gan Network Rail o fewn cyfnod rheoli 6, fel bod gennym ni system gwbl integredig—system sydd yn wirioneddol addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, nid dim ond yn y de, ond yn y gogledd a phob man rhwng y de a’r gogledd hefyd.