– Senedd Cymru am 2:59 pm ar 4 Hydref 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar brosiect coridor yr M4. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad—Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Mae'r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr oedi yn yr ymchwiliad lleol cyhoeddus i goridor yr M4 o amgylch Casnewydd o ganlyniad uniongyrchol i gamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU.
Nid oes llawer o amser cyn dyddiad dechrau arfaethedig yr ymchwiliad, felly penderfynais ryddhau datganiad ysgrifenedig ddoe i roi gwybod i’r holl randdeiliaid cyn gynted â phosibl. Fel y dywedais wrth Aelodau yma ar 21 Mehefin, mae'n hanfodol bod y broses hon yn gwbl dryloyw. Yn yr ysbryd hwn, mae'n iawn ac yn briodol bod y mater yn cael ei drafod gyda’r Aelodau cyn gynted ag y bo modd.
Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi cyflwyno methodoleg ddiwygiedig o ran y dull newydd a ddefnyddir ganddynt i ragweld twf traffig, y cyfeirir ato fel TEMPro 7, a hynny heb ymgynghori. Gan fy mod i’n awyddus i sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â phrosiect yr M4 yn seiliedig ar yr wybodaeth fwyaf cywir, cadarn a chyfoes, mae’n rhaid i mi yn awr ganiatáu digon o amser i gynnal adolygiad o’r modd y cyflwynir adroddiadau sy'n cefnogi’r cynigion a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016.
Gan ddibynnu ar ganlyniad fy adolygiad, bydd yr ymchwiliad, a oedd i fod i ddechrau ar 1 Tachwedd, yn dechrau heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth y flwyddyn nesaf. Er mwyn tegwch a thryloywder, caiff yr adroddiadau ar y mater hwn eu rhannu â'r holl randdeiliaid cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl. Fel y nodais o’r blaen, byddai amserlen yr ymchwiliad yn para tua phum mis ac yn archwilio pob agwedd ar brosiect yr M4, yn ogystal â'r holl ddewisiadau amgen a awgrymwyd.
Rwy’n ymwybodol iawn o'r amrywiaeth o safbwyntiau ynglŷn â’r prosiect. Byddai ymchwiliad yn caniatáu i’r safbwyntiau hyn gael eu clywed, ac y tu allan i'r broses honno, rwy'n awyddus i barhau i archwilio pob cyfle i leihau effeithiau negyddol a gwneud y mwyaf o fanteision trawsbynciol y buddsoddiad sylweddol hwn.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi mynegi ei dymuniad i weld y gwaith ar brosiect yr M4 yn dechrau cyn gynted ag y bo modd. Felly mae'n hynod siomedig bod yr Adran Drafnidiaeth wedi methu ag ymgysylltu â ni ynglŷn â’r diwygiadau hyn cyn iddynt gael eu cyflwyno, gan orfodi’r oedi anffodus hwn. Er ein bod yn bwrw ymlaen â'n cynlluniau metro ar gyfer y gogledd a'r de, mae angen ateb ar y problemau hirsefydlog a pharhaus sy'n gysylltiedig â'r M4 o amgylch Casnewydd, a hwnnw’n ateb sy'n cyflenwi systemau trafnidiaeth integredig a chynaliadwy ar gyfer y tymor hir.
Mae’r asesiadau hyd yn hyn yn dangos mai ein prosiect arfaethedig ar gyfer yr M4 yw'r unig ateb rhesymol. Ond mae’n iawn ac yn briodol bod y cynigion yn cael eu profi o ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r dewis cywir i bobl Cymru.
Nid yw'r broblem wedi diflannu. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn i ddarparu ateb hirdymor a chynaliadwy i'r problemau traffig parhaus ar y rhan hon o'r M4. Yn amodol ar gymeradwyaeth fy adolygiad a’m hymchwiliad, gellir parhau i gyflwyno prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn 2021.
Dai Lloyd.
Diolch, Lywydd, ond mae’n rhaid i mi ddweud, nid yw hwn yn newyddion da. Fel rŷch chi wedi cyfeirio ato eisoes, rŷch chi’n hynod siomedig—a allaf i jest ddatgan fy mod i’n hynod, hynod siomedig? Fe wnaethoch chi gyfeirio yn eich ateb blaenorol nad oedd rhai ohonom ni yma yn y Cynulliad diwethaf—roeddwn i yma yn y Cynulliad cyn diwethaf, a gallaf eich sicrhau chi, roeddem ni’n trafod problemau’r M4 bryd hynny. Roeddem ni hefyd, gyda llaw, yn trafod yr angen i drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe—nid oes yna ddim byd yn symud ymlaen yn y lle yma.
Rwy’n deall y cyhoeddiad, ond pam mae’n rhaid dilyn Llundain? Esboniwch i mi a phawb arall a oedd yn styc mewn ciw ar yr M4 rownd Casnewydd y bore yma: pam mae’n rhaid aros am benderfyniad o Lundain sydd wedi glanio ar eich desg yn ddisymwth a nawr mae’n rhaid i chi ymateb drwy oedi? Pam mae’n rhaid dilyn lein Llundain ar hyn? Ac, yn y bôn, sut y gwnaeth hyn ddigwydd? Yn y bôn, sut digwyddodd hyn? Mae pobl yn dweud wrthym ni—sydd eisiau Cymru annibynnol—ein bod ni’n gryfach am ein bod ni’n sownd i Loegr, achos mae yna gydweithio ac mae’r ddwy Lywodraeth—un pen i’r M4 a’r pen arall i’r M4—yn cydweithio, cydlynu, a phob math o ‘gyd-’ arall. Wel, yn amlwg, nid yw hynny’n digwydd. Mae’n rhaid i chi ofyn, felly: sut ydym ni’n elwa o fod yn sownd i Loegr? Dyna’r math o—.
Mae emosiynau yn rhedeg ychydig bach yn uchel pan fyddwch chi’n cael penderfyniad fel hyn. Mae pobl wedi bod yn disgwyl blynyddoedd am welliant, i rywbeth gael ei wneud i’r M4. Rwy’n gwybod, eich llwybr du chi—wrth gwrs, fuasai yna ddim pres ar ôl petasem ni’n mynd ar ôl hynny—y llwybr glas, ac, wrth gwrs, mae gennych chi adolygiad. Gallech chi feddwl y buasai’r adolygiad hwnnw’n edrych i mewn i’r holl bwysau a sut i fesur pethau ac na fyddai angen oedi rhagor. Mae pobl wedi bod yn aros ac aros am flynyddoedd.
Wrth basio, fel plaid, fe wnaethom ni gyhoeddi ein comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru ddoe. Rwy’n gwybod ein bod wedi cytuno ar NICW, ond mae’n rhaid imi ddweud rwy’n credu bod ein NICW ni’n gryn wahanol i’ch NICW chi, ac rydym ni eisiau gweld corff pwerus sy’n gallu cael buddsoddiad, denu ariannu, gweithredu a chynllunio, a gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth ac yn aros yn y sector gyhoeddus—buasai’n gallu trefnu a darparu isadeiledd fel M4 newydd ar ba bynnag lwybr y mae pawb yn cytuno arno yn y pen draw. Mae’n amser i weithredu.
Fel rydw i’n ei ddweud, mae yna oedi ac mae nifer o bethau sydd ddim wedi cael eu gwneud dros y blynyddoedd, megis mynd i’r afael â’r M4 rownd Casnewydd, megis trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe. Nawr, fedrwn ni drin a thrafod, mi allwn ni feio pwy bynnag arall ochr draw i’r M4, ond o’ch ochr chi, rydych chi’n credu ein bod ni’n gryfach gan fod yn rhaid gwrando ar Lundain. Buaswn i’n anghytuno efo chi ar hynny. Rwy’n credu y buasai’n well i ni afael yn y busnes ein hunain a mynd amdani, ond, wrth gwrs, rydych chi’n perthyn i wahanol weledigaeth i fi yn fanna. Ond esboniwch i fi sut mae’r trefniant presennol yma yn ein cryfhau ni, pan fo’n pobl ni yng Nghymru yn dal i aros i bethau digwydd. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau. Mae'n amlwg nad yw’r un ohonom ni’n hapus o gwbl â'r hyn yr ydym wedi’i ddysgu yr wythnos hon. Ond rwy’n dychmygu bod modurwyr sy'n defnyddio'r M4 yn rheolaidd yn gwbl gandryll oherwydd yr oedi pellach hwn—oedi diangen ac oedi y gellid ei osgoi. Pe baem ni heb ddewis gohirio cychwyn yr ymchwiliad lleol cyhoeddus yn ymwneud â’r M4 tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, fan bellaf, yna, fwy na thebyg, byddai’r arolygydd wedi gohirio’r ymchwiliad ei hun.
O ran y broses—ac rwy’n credu bod yr Aelodau, ac, rwy’n credu, y cyhoedd, yn haeddu esboniad am hyn. Gadewch imi fod yn glir: nid wy’n credu bod unrhyw gynllwyn ar ran Llywodraeth y DU yn erbyn Cymru yn hyn o beth, ond rwyf i o’r farn bod yna flerwch. Yr hyn sy’n digwydd fel arfer, yr arfer cyffredin, yw y byddwn ni’n cael gwybod un flwyddyn cyn i’r data gael eu cyhoeddi—un flwyddyn. Mae hynny’n ein galluogi ni wedyn i graffu—gan fod hon yn broses ddwys, hynod gymhleth—ar y data newydd. Mae hefyd yn effeithio ar holl ranbarthau Lloegr, ac felly, ar Highways England. Maen nhw mewn sefyllfa debyg i ni; dim ond ychydig wythnosau a roddwyd iddynt cyn i’r data gael eu cyhoeddi. Rhoddwyd tri diwrnod o rybudd i ni—blwyddyn fel rheol—a hynny heb ymgynghori ar y newidiadau ychwaith. Do, rhoddwyd ryw syniad i ni yn y gwanwyn y byddai data TEMPro yn cael eu diweddaru, ond methodd yr Adran Drafnidiaeth ag ymgysylltu â ni o ran cwmpas y newidiadau.
Fel y dywedais, ar gyfer diwygiadau blaenorol i ddata traffig, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi ymgynghori â ni tua blwyddyn ymlaen llaw. Nid wyf yn credu ei bod yn dderbyniol rhoi tri diwrnod o rybudd i ni gan wybod yn iawn beth fyddai’r canlyniadau i ranbarth cyfan o’r DU. Fel rheol, mae'r berthynas yn un iach, ond, yn yr achos hwn, mae rhywbeth wedi mynd o'i le. Hoffwn wybod beth aeth o'i le. Felly, byddaf yn cyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol fis nesaf, fel y mae fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi sôn.
O ran y berthynas sydd gennym â Llywodraeth y DU, rwyf o’r farn ein bod yn gryfach gyda'n gilydd fel gwlad. Wedi dweud hynny, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y penderfyniadau a wneir gan yr Adran Drafnidiaeth, neu, o ran hynny, unrhyw adran arall yn Llywodraeth y DU, yn parchu’r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, a’r amserlen y mae disgwyl i brosiectau—prosiectau mawrion megis yr M4—weithredu oddi mewn iddi.
Roedd yr Aelod yn tynnu sylw at yr angen i drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe—yn bendant; rwy’n cytuno yn llwyr. Ac eto, byddwn i’n datgan nad yw Cymru, yn y gorffennol, wedi cael ei chyfran deg o ran buddsoddiad drwy Network Rail. Mae’n rhaid i hynny newid hefyd. Ac mae’n rhaid i ni sicrhau y cytunir ar y rhaglenni ariannu dethol hynny gan Network Rail o fewn cyfnod rheoli 6, fel bod gennym ni system gwbl integredig—system sydd yn wirioneddol addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, nid dim ond yn y de, ond yn y gogledd a phob man rhwng y de a’r gogledd hefyd.
Yn gyntaf oll, byddaf yn dweud fy mod yn croesawu'n fawr ddatganiad cynnar Ysgrifennydd y Cabinet i ni ddoe. Roedd yn hynod ddefnyddiol, rwy’n credu, er mwyn galluogi Aelodau i grynhoi’r datganiad ddiwrnod cyn eich bod chi’n gwneud y datganiad i'r Siambr. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n fodel, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch chi’n parhau i’w ddefnyddio, ac, mewn gwirionedd, y bydd cydweithwyr eraill yn y Cabinet yn dysgu o’r arfer da hwnnw.
O edrych ar eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi’n dweud eich bod yn siomedig bod yr Adran Drafnidiaeth wedi methu ag ymgysylltu â chi ynglŷn â’r diwygiadau hyn cyn iddynt gael eu cyflwyno. Nawr, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi dweud ei bod wedi egluro i’ch swyddogion ar ddechrau'r flwyddyn hon y byddent yn diweddaru rhagamcanion. Nawr, er gwaethaf yr atebion a roddoch i Dai Lloyd, y gwnes i eu clywed, byddwn yn gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet: a yw eich swyddogion yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn hyn o beth? Ond, ni waeth pwy ddywedodd beth a phryd, gwnaed yr wybodaeth am y fethodoleg ddiwygiedig yn gyhoeddus, o’r hyn a ddeallaf, ym mis Gorffennaf, fisoedd yn ôl. Os nad yw hynny'n wir, byddwn i'n hoffi deall hynny, hoffwn wir. Ond byddwn i’n gofyn pryd y cawsoch chi wybod am y newid hwn—rwy’n credu ichi ddweud tri neu bedwar diwrnod yn ôl—dim ond er mwyn cael eglurhad. Ond byddwn i yn dweud, wyddoch chi—nid wy’n deall yn iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, pam na sylwodd eich swyddogion ar hyn ym mis Gorffennaf pan ddaeth yr wybodaeth hon yn gyhoeddus, a byddwn i wedi meddwl y byddai hynny wedi bod yn arfer cyffredin. I mi, mae hyn yn codi, rwy’n credu, y mater—y mater pwysig iawn—sef, pa mor dda mae swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion yr Adran Drafnidiaeth yn cydweithio â'i gilydd.
Mae'n ymddangos bod rhyw ddiffyg cyfathrebu yma. A byddwn i’n gofyn yr un cwestiwn i Lywodraeth y DU hefyd, ond nid yw'n ymddangos i mi ei bod y tu hwnt i allu swyddogion y ddwy Lywodraeth, sy’n gweithio ar brosiect, i siarad yn rheolaidd â’i gilydd. Rwy'n siŵr y byddech chi’n cytuno â mi ar hynny ac rydych chi wedi dweud wrth y siaradwr blaenorol y byddech chi’n ymchwilio i hynny; rwy'n credu y byddai gan bawb ddiddordeb yn y canlyniad. Gallaf ofyn hefyd a fydd y diwygiadau yn effeithio ar unrhyw gynllun arall o gwbl ledled Cymru. A fydd y fethodoleg ddiwygiedig yn cael ei chymhwyso i gynlluniau arfaethedig eraill hefyd?
Rydych chi hefyd yn dweud yn eich datganiad heddiw eich bod am
'sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â phrosiect yr M4 yn seiliedig ar yr wybodaeth fwyaf cywir, cadarn a chyfoes' ac mae hynny’n ymddangos yn gwbl resymol a synhwyrol i mi. Rydych chi’n mynd ymlaen i ddweud bod yn rhaid i chi yn awr ganiatáu digon o amser i adolygu, a'ch bod yn mynd ymlaen o'r fan honno. Felly, rwyf yn dymuno deall y 'rheidrwydd'. Nid yw'n bwynt gwleidyddol yma, ond yr hyn yr wyf eisiau ei ddeall yw—. I mi, mae'n rhesymegol, pan fydd prosiect yn cael ei ddatblygu, eich bod yn defnyddio'r model sy'n bresennol ar y pryd. Felly pam nad yw’r model ar y pryd yn cymryd blaenoriaeth o ran y mater hwn? Rwy'n siŵr bod cydweithwyr ar draws y Siambr hon, ac aelodau'r cyhoedd, fel yr ydych chi’n dweud, sy’n cael eu dal mewn tagfeydd ar yr M4, yn awyddus i ddeall hynny hefyd. Nawr, os oes gwahaniaeth o ran canlyniadau’r rhagolygon gwreiddiol a chanlyniadau’r rhagolygon diwygiedig, pa bryd fydd yr wybodaeth honno ar gael yn gyhoeddus? Sut y caiff ei hesbonio? Sut y bydd y gwahaniaethau yn cael eu hesbonio? A fyddwch chi’n rhoi gwybod i’r Siambr hon neu a fydd hyn yn rhan o'r ymchwiliad cyhoeddus? A sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd hefyd? Yn olaf, pa wahaniaeth yn y rhagolwg fyddai’n newid eich cynllun ar gyfer y llwybr du? Neu efallai, os byddaf yn geirio’r cwestiwn hwnnw mewn ffordd wahanol hefyd, i ba raddau y bydd y gwahaniaethau rhwng y ddau fodel yn effeithio ar eich cynllun presennol ar gyfer newid?
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud ar y cychwyn, yn hytrach na chael fy llongyfarch, roeddwn mewn gwirionedd yn ofni y byddai pobl yn fy nwrdio am gyhoeddi datganiad ysgrifenedig cyn rhoi datganiad llafar yn y Siambr. Felly, rwy'n falch bod yr Aelod mewn gwirionedd yn cydnabod gwerth o ran y ffaith fy mod wedi gwneud hynny, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried yn y dyfodol. Unwaith eto, rwy’n mynd yn ôl i sôn am drefn y digwyddiadau a arweiniodd at y penderfyniad i ohirio cychwyn yr ymchwiliad lleol cyhoeddus tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, fan bellaf. Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod swyddogion yr Adran Drafnidiaeth, yn gynharach eleni, yn y gwanwyn, wedi awgrymu wrth fy swyddogion i y byddai diweddariad yn digwydd i'r data TEMPro. Er gwaethaf ymdrechion fy swyddogion i, yn anffodus ni wnaeth swyddogion yr Adran Drafnidiaeth eu cynnwys nhw yn yr achos dros TEMPro 7, o ran y datblygiad neu o ran unrhyw ymgynghori. Dyna beth achosodd yr oedi, oherwydd bod y data a gynhyrchwyd bryd hynny—a byddaf yn ateb yr union gwestiynau maes o law, a oedd yn gofyn am y dulliau a'r ystadegau sy'n cael eu defnyddio—yn codi cwestiynau am yr achos busnes a gyflwynwyd gennym ar gyfer y llwybr du. Byddai TEMPro 7 yn effeithio ar yr holl gynlluniau ffyrdd mawr o ran gwerth am arian. Felly, bydd yn rhaid inni edrych ar yr achos dros lawer o'n cynlluniau seilwaith. Y rheswm dros hyn oedd—ac mae’r Aelod yn dweud y dylid defnyddio’r model sydd ar gael ar y pryd. Mae hynny'n hollol gywir. Ond, felly hefyd mae'n rhaid defnyddio'r data cyfredol, nid data sydd gyda ni ers blynyddoedd. Yn anffodus, ymddengys mai rhan o'r broblem â'r data sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y rhagolygon hyn, yn rhan o’r model hwn, yw nad ydynt yn cydnabod yr holl CDLlau sy'n cael eu cyflwyno. Felly, yn anffodus, mae'n ymddangos bod y model sydd wedi’i ddefnyddio—ac mae hyn er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi gallu dweud wrth yr Adran Drafnidiaeth, 'Dyma’r data, dyma’r hyn yr ydym yn ei ddefnyddio a dyma yw ein model ni, dyma’r llif o bobl a ragwelir, dyma yw twf y boblogaeth'—yn anffodus, ni wnaethant ddefnyddio’r data hynny. Hoffwn i wybod pam na wnaethant ddefnyddio'r data hynny.
Yn bwysicach ar gyfer y prosiect hwn, mae angen i mi ddeall goblygiadau defnyddio data nad ydynt yn gyfredol nac yn gywir, oherwydd, o ran yr adolygiad y bydd yn rhaid ei gynnal, bydd angen i ni asesu a ydym ni’n diwygio ffigurau TEMPro 7 i ystyried mewn gwirionedd y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Bydd y gwaith hwnnw'n digwydd yn gyflym, ac, wrth gwrs, yn dilyn yr adolygiad, byddaf yn gwneud y data a’n model yn gyhoeddus, a byddaf yn sicrhau eu bod yn cael eu cyhoeddi. Rwy'n credu bod hynny ond yn deg i bawb sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn, yn gefnogwyr ac yn wrthwynebwyr. Nid yw ond yn deg y dylai pawb gael y dystiolaeth fwyaf cywir a diweddar â phosibl.
Rwy'n canmol Ysgrifennydd y Cabinet am gyhoeddi ei ddatganiad ar y cyfle cyntaf. Ond onid oes eironi penodol ein bod ni’n ei ganmol am gyflymu datganiad ynglŷn ag oedi pellach o ran y prosiect ei hun? Mae hyn yn hynod siomedig. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i'r ymchwiliad ystyried y rhagolygon gorau sydd ar gael, ond ni fydd holl dystiolaeth yr ymchwiliad yn ymwneud â rhagolygon traffig, ac nid wyf yn gweld pam mae angen gohirio’r ymchwiliad at y diben hwn. Efallai y bydd angen ei ohirio ar ryw adeg er mwyn ailddechrau nes ymlaen os nad yw'r rhagolygon ar gael ar yr adeg iawn. Beth bynnag, byddai'n bosibl cymryd tystiolaeth a chael rhagor o wrandawiadau os bydd angen unrhyw ddiwygiadau.
Yr hyn sy'n hollol angenrheidiol yw ein bod yn bwrw ymlaen â'r prosiect hwn cyn gynted â phosibl. Mae'n ymddangos i mi, fel y nododd Dai Lloyd, ein bod wedi bod yn siarad am hyn ers cyn cof, a'r rhwystr mwyaf sydd wedi bod ar yr M4 yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf yw Llywodraeth Cymru ei hun, oherwydd gallai fod wedi bwrw ymlaen â hyn flynyddoedd yn ôl.
Yr hyn a wyddom ni yw bod gormod o draffig ar yr M4 erbyn hyn, a bydd hyn yn gwaethygu yn y dyfodol. Nid yw'r rhagolygon traffig yn debygol o ddod i’r casgliad bod y llifau traffig sydd gennym heddiw am leihau. Felly, mae'n ymddangos i mi fod hyn enghraifft arall o oedi a dewis peidio mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r her.
Ond gallem ni wneud defnydd o'r amser sydd bellach ar gael i wneud rhagor o waith ar y llwybr glas, a fyddai'n berthnasol i'r ymchwiliad. Rydym ni, o ran ein rhan yn UKIP, wedi estyn llaw cyfeillgarwch i’r Llywodraeth i ddweud y byddwn ni yn barod i sicrhau bod y llwybr du yn digwydd os mai’r llwybr du, ar ddiwedd y dydd, yw'r unig lwybr sydd ar gael, gan fod y llwybr du yn well na dim llwybr o gwbl. Ond mae’n well gennym y llwybr glas o hyd. Gellid gwneud astudiaeth ddichonoldeb briodol, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Hyd yn hyn, mae’n ymddangos mai’r Athro Stuart Cole sydd wedi bod yn gwneud pob dim ei hun. Rwyf am ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, felly, a fydd ef yn manteisio ar yr oedi er mwyn hwyluso hynny.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud, yn gyntaf ac yn bennaf, fod angen i ni allu argyhoeddi nid yn unig yr arolygydd annibynnol, ond hefyd bobl Cymru fod y prosiect hynod bwysig hwn yn angenrheidiol? Y ffordd yr ydym ni’n gwneud hynny yw ein bod yn creu dadl ar sail tystiolaeth. Os na allwn argyhoeddi'r arolygydd mai’r gwir amdani yw bod gormod o geir ar y ffordd bresennol, ac os na allwn argyhoeddi'r arolygydd fod y llwybr du yn angenrheidiol, yna byddwn ni’n colli'r ddadl. Byddwn yn colli'r achos, a bydd y cyfle unigryw unwaith mewn oes hwn yn diflannu. Felly, mae'n hollol gywir, o gofio bod newidiadau yn TEMPro 7 sy'n ymwneud â nifer y teithiau a wneir fesul unigolyn, a’i fod yn darparu rhagolygon o ran y boblogaeth, ein bod yn edrych yn fanwl iawn ar beth yw’r newidiadau hynny ac a ydynt yn gywir ai peidio—a ydynt yn ddigon cywir— mewn gwirionedd i gyfiawnhau bwrw ymlaen â nhw. Nid wyf o’r farn, yn seiliedig ar yr hyn yr wyf wedi’i ganfod hyd yn hyn, eu bod yn ddigon cyfredol, ond bydd angen i ni eu hadolygu ac yna fwrw ymlaen yn seiliedig ar y data mwyaf cyfredol. Nid wyf yn credu mewn gwirionedd y byddai’n deg o gwbl i unrhyw un sy’n gysylltiedig â hyn, o ystyried yr angerdd y mae’r mater hwn yn ei ennyn ac o ystyried y swm sylweddol o arian, ruthro i gynnal ymchwiliad yn seiliedig ar ddata amheus. Rwy’n credu bod yn rhaid i ni ddod i benderfyniad sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy'n credu y byddai’r arolygydd yn cytuno mewn gwirionedd. Felly, byddai’r arolygydd, yn ôl pob tebyg, yn dymuno gohirio'r ymchwiliad cyhoeddus lleol os ydym ni’n bwrw ymlaen. Ond rwy’n cydnabod bod hyn yn hynod rwystredig i’r 100,000 o bobl a mwy sy'n teithio ar yr M4 bob dydd. Yn 2014, roedd y ffordd hyd at 95 y cant yn llawn. Yn syml, nid yw’n gallu ymdopi pan fydd damweiniau’n digwydd. Gwelsom hynny yr wythnos ddiwethaf, pan gafwyd tagfeydd enfawr o ganlyniad i ddamwain. Gwelsom hynny y bore yma, mewn gwirionedd, er nad oedd hynny ar yr M4. Ond dyna beth sy'n digwydd pan nad oes gennych rwydwaith ffyrdd sy'n ddigon cadarn.
Gwyddom fod y llwybr du yn cael ei ystyried fel y dewis gorau posibl, yn seiliedig ar ein hasesiad ni. O ran y llwybr glas, rwy’n credu efallai bod yr Aelod yn ymwybodol fy mod i’n cychwyn asesiad newydd o'r llwybr glas. Felly, rhoddir sylw i hynny eto yn yr ymchwiliad. O ran y llwybr glas, yn ôl yr hyn sydd wedi’i archwilio hyd yn hyn, a’r hyn sydd wedi’i gyflwyno hyd yn hyn, mae arnaf ofn mai dim ond ychydig bach o liniaru fyddai ar yr M4, a hefyd byddai’n gwaethygu’r problemau ar ffyrdd lleol. O ystyried y byddai'n costio rhwng £600 miliwn a £800 miliwn, ni fyddai'n cynnig gwerth da am arian, yn enwedig mewn cyfnod o gyllidebau cyfyngedig.
O ran y rhaglen newydd, hoffwn amlinellu'r amserlen y byddwn ni’n ei dilyn nawr wrth weithredu, oherwydd dywedais wrth gyfrannu’n gynharach ein bod yn dal i ddisgwyl gallu agor y ffordd liniaru yn hydref 2021. Yn ystod mis Mawrth eleni, cyhoeddwyd gorchmynion statudol drafft a datganiad amgylcheddol. Erbyn 31 Mawrth y flwyddyn nesaf, wrth aros am yr adolygiad presennol sy'n cael ei gynnal, bydd yr ymchwiliad lleol cyhoeddus yn dechrau. Yn ystod haf 2017, a hyd nes derbynnir adroddiad gan arolygydd, bydd penderfyniad yn cael ei wneud o ran a ddylid gwneud y gorchmynion a bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu. Os felly, yn ystod gwanwyn 2018 bydd gwaith yn dechrau ar adeiladu'r draffordd. Rwy'n ymwybodol o'r broses statudol barhaus. Ond ceir nifer o gamau y gellir eu cymryd i sicrhau ein bod yn cadw at y dyddiad hwnnw yn hydref 2021 ar gyfer gorffen y gwaith, megis gweithio cyfochrog a chynllunio ychwanegol gyda chwmnïau cyfleustodau i hwyluso’r gwaith cynllunio ac adeiladu manwl, ac i liniaru'r oedi a achoswyd gan yr adolygiad angenrheidiol o ddata newydd yr Adran Drafnidiaeth.
Rwy’n cydnabod yr anhawster i Lywodraeth Cymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU ar brosiect yr M4, ac rwy’n sylweddoli ei fod yn anffodus, i ddweud y lleiaf, ond a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am y sgil-effeithiau posibl? A yw hyn hefyd yn golygu gohirio’r gwaith sy’n gallu cael ei wneud ar yr A55 a'r A494 yn y gogledd? Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn, mae’r gwelliannau a’r buddsoddiad ar gyfer y ffyrdd hynny yn flaenoriaeth i’r Aelodau yn y rhanbarth, yn ogystal â’r cyhoedd hefyd. Mae gan fethodoleg ddiwygiedig yr Adran Drafnidiaeth y potensial i greu llawer o bryder, a byddwn i’n annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i liniaru a mynd i'r afael â’r pryder hwnnw.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i godi pryderon ynglŷn â goblygiadau’r hawl hwn ledled Cymru. Fel rwyf wedi’i amlinellu eisoes, ceir goblygiadau y mae'n rhaid i ni eu hystyried. Wedi dweud hynny, rwy’n benderfynol o fwrw ymlaen â'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y gwaith sy'n angenrheidiol i liniaru’r pwysau ar yr A55 a'r A494 yn y gogledd. Byddwn yn bwrw ymlaen â’r ymgynghori hynny ym mis Mawrth 2017, felly rwy'n falch ein bod o leiaf yn gallu ymrwymo i'r gwaith hwnnw. Bydd y gwaith hwnnw'n cydredeg â'r ymchwiliad lleol cyhoeddus ar gyfer yr M4. Ac mae'n dal i fod yn weledigaeth gennym ni fel Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym rwydwaith ffyrdd modern sy'n ategu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig.
Rwy'n credu bod y dicter a fynegwyd gan Neil Hamilton a Dai Lloyd yn gwbl anghywir. Mae'n gwbl hanfodol, os ydym ni am fwrw ymlaen â buddsoddiad cyfalaf sylweddol iawn, ein bod ni’n gwneud hynny ar sail gwybodaeth gywir. Felly, rwy’n cymeradwyo penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i ohirio pethau er mwyn ystyried y data diweddaraf, sicrhau eu bod yn gywir, a’n galluogi ni i wneud penderfyniadau rhesymegol. Gobeithio y bydd adleoli'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i Gasnewydd yn rhoi gwell gwybodaeth ystadegol i ni yn y dyfodol, oherwydd mae’n amlwg bod hynny’n fater sydd wedi’i godi gan lawer o randdeiliaid mewn cysylltiad â hyn ac mewn cysylltiad â materion eraill.
Mae’n debyg mai un o'r pethau yr wyf am wybod mewn gwirionedd ydyw a yw Llywodraeth y DU yn parhau i fynnu y dylem ni fod yn bwrw ymlaen â phrosiect yr M4 yn seiliedig ar ddata anghywir. Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf i, mae’r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan yr Adran Drafnidiaeth—y TEMPro 7 hwn—yn rhagweld llai o draffig ar yr M4 nag sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn deall a yw hynny'n gywir, ac os felly, pa effaith gaiff hynny ar ein dyfodol. Rwy’n gobeithio, wrth gwrs, nad yw'r rhagolygon hyn yn seiliedig ar y bleidlais drychinebus i adael yr Undeb Ewropeaidd, a allai arwain at chwalu’r economi yn llwyr os caiff ei wneud yn anghywir. Yn hytrach, rwy’n gobeithio mai’r neges yn y rhagolygon hyn yw bod angen i bob un ohonom ni newid ein hymddygiad yng ngoleuni'r newid yn yr hinsawdd, a pheidio â defnyddio'r car ar gyfer teithiau byrion ond defnyddio dulliau eraill o gludiant. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi egluro: beth yw sefyllfa bresennol Llywodraeth y DU, ar wahân i'w hymddiheuriadau dwys na wnaethant eich hysbysu bod yr wybodaeth ddiweddaraf ar ei ffordd?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn—pwynt hollbwysig ei bod yn gwbl hanfodol, wrth i ni sôn am y fath swm mawr o arian, ein bod yn buddsoddi ar sail tystiolaeth ac ar sail data cyfredol a chywir. Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw awgrym ynghylch a ddylem ni symud ymlaen ar sail gwybodaeth ddiweddaraf yr Adran Drafnidiaeth. Byddai gennyf i ddiddordeb mawr i wybod ai hynny yw eu safbwynt neu a ydynt yn derbyn bod y data y maent wedi’u darparu yn peri anhawster mawr i’r prosiect hwn. Mae un peth yn sicr—y bydd goblygiadau i’r model presennol os na ymchwilir i achosion y data, fel y nododd yr Aelod, sy’n ymddangos yn amheus iawn, a chwestiynu’r achosion hynny hefyd. Y model a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru yw’r model sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer teithio byw hefyd. Felly mae angen i ni sicrhau bod pob penderfyniad a wneir yn cael ei wneud ar sail y rhaglen fodelu orau posibl. Efallai’n wir y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu ei model ei hun.
Bydd y datganiad hwn heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn peri siom a gofid i bawb sydd wedi profi oedi i amser eu taith oherwydd tagfeydd ar yr M4, gan gynnwys fi fy hun, sy'n teithio bron pedair gwaith yr wythnos. Os wyf yn gadael cyn 07:00, mae'n dal i gymryd mwy na 40 munud i mi deithio o Gasnewydd i'r lle hwn. Duw â helpo'r rhai hynny sy'n dod ar ôl hanner awr wedi saith ac yn treulio mwy nag awr ar yr M4 dim ond i gyrraedd Caerdydd, sydd ond 10 i 12 milltir. Mae hynny mewn gwirionedd yn golygu tagfeydd bob dydd.
Dim ond pythefnos ar ôl i raglen lywodraethu Llafur—[Torri ar draws.] Dim ond pythefnos ar ôl i raglen lywodraethu Llafur wneud ymrwymiad i adeiladu ffordd liniaru ar yr M4, maent wedi ei roi, unwaith eto, o’r neilltu. Mae hyn yn ffaith. Mae seilwaith trafnidiaeth gwael a diffyg capasiti yn golygu nad yw coridor de Cymru yn addas at y diben ac mae’n annog busnesau lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i beidio â buddsoddi yng Nghymru. Felly pam mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dewis anwybyddu'r dystiolaeth sy'n bodoli eisoes ynglŷn â’r angen am ffordd liniaru ac wedi dewis gohirio'r ymchwiliad cyhoeddus? Mae CBI Cymru, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, y Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianyddol a Siambr Fasnach De Cymru i gyd wedi galw am benderfyniad cyflym i gael ei wneud yn hyn o beth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ceisio rhoi'r bai ar yr Adran Drafnidiaeth. Mae'n honni bod yr adran ond wedi rhoi gwybod iddo am y materion newydd o ran rhagamcanu maint y traffig, dridiau cyn eu cyflwyno. Mae'r adran yn gwadu hyn ac yn dweud ei bod wedi rhybuddio swyddogion Cymru o’r newid hwn yn gynharach eleni. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i gyhoeddi'r holl ohebiaeth rhwng ei swyddogion a'r Adran Drafnidiaeth i egluro'r mater hwn? Cyflwynwyd newidiadau i'r system rhagolygu traffig yn ystod yr haf. Felly pam mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd cymaint o amser i gyhoeddi'r oedi cyn dechrau’r ymchwiliad cyhoeddus?
Dwyrain De Cymru, y Cynulliad hwn, digwyddiadau chwaraeon a busnesau: mae cannoedd o filoedd, nid degau o filoedd, o bobl yn teithio ar yr M4, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae angen cwblhau’r gwaith ar yr M4 cyn gynted â phosibl—nid yw 2021 yn ddigon da yma. Bydd annibynadwyedd y rhan hon o'r ffordd yn gynyddol yn cynhyrchu costau ychwanegol ac yn golygu ansicrwydd i fusnesau, yn niweidio twristiaeth ac yn achosi rhwystredigaeth i fodurwyr. Unwaith eto, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi siomi’r cyhoedd yng Nghymru. Diolch.
Wel, wir. Nid wyf yn siŵr ble i ddechrau, ar wahân i ddweud fy mod eisoes wedi amlinellu'r hyn a ddigwyddodd ddiwedd mis Gorffennaf. Mae’n ymddangos bod yr Aelod o’r farn y gallech chi yn ôl pob tebyg wneud cyfrifiadau gyda chyfrifiannell Casio ac abacus, a hynny mewn ychydig eiliadau, ar gyfer prosiect sy’n hynod feichus. Ni ellir gwneud hyn dros nos, ac fel rwyf eisoes wedi dweud, fel arfer—fel arfer—bydd swyddogion yr Adran Drafnidiaeth yn ymgysylltu â ni flwyddyn ymlaen llaw. Ar yr achlysur hwn, rhoddwyd tridiau o rybudd i ni. Yn ystod y cyfnod rhwng diwedd mis Gorffennaf a heddiw, roedd yn rhaid i’m i swyddogion graffu ar y data. Roedd yn rhaid iddynt wneud llwyth o gyfrifiadau, roedd yn rhaid iddynt asesu'r data, ac yna daeth yn amlwg nad oedd y data, fel yr amlygodd fy ffrind a’m cydweithiwr Jenny Rathbone, yn cefnogi'r achos ar gyfer ffordd liniaru fel y gwnaeth y data blaenorol—data mwy cywir yn fy marn i—gefnogi'r achos. O ystyried hynny, ceisiwyd cyngor cyfreithiol o ran y tebygolrwydd y caiff yr ymchwiliad cyhoeddus ei ohirio neu, yn wir, y caiff yr achos ei dderbyn ar gyfer adeiladu ffordd liniaru. Yr ateb a gawsom oedd bod gohiriad yn debygol, ac yn syml nad oedd achos i’w gael. Nawr, dywedodd yr Aelod, 'Pam wnaethoch chi anwybyddu'r dystiolaeth, a pham na ddechreuwch chi adeiladu?' Wel, y gwir amdani yw bod yr Adran Drafnidiaeth wedi rhoi tystiolaeth i ni na ellir ei hanwybyddu, oherwydd os ydym ni’n ei hanwybyddu, ni chaiff ei adeiladu. Fy mhwynt i yw: mae angen i ni nawr sicrhau bod y data’n gywir, gan nad yw’r Adran Drafnidiaeth wedi gwneud hynny yn amlwg. Ac nid wyf yn meddwl—fel rwy’n dweud, nid cynllwyn ydyw, rwy’n credu, fwy na thebyg, mai anallu ydyw. Ond y gwir amdani yw bod Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi gwneud cam nid yn unig â’r lle hwn, ond â phobl Cymru—â’r 100,000 o bobl a mwy sy'n defnyddio'r M4 o ddydd i ddydd. Nawr, gwn fod yr Aelod mewn tagfeydd am amser hir yn ddyddiol wrth ddefnyddio'r M4, ond felly hefyd y mae'r degau o filoedd o bobl sy'n gobeithio y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus lleol hwn yn dechrau ar 1 Tachwedd ac a fydd yn awr, yn anffodus, yn gorfod aros tan fis Mawrth o bosibl cyn ei fod yn bwrw ymlaen. Ond mae hynny o ganlyniad i’r Adran Drafnidiaeth yn peidio ag ymgysylltu â ni fel y dylent fod wedi gwneud ac fel y maent wedi gwneud yn y gorffennol. A dylai'r Adran Drafnidiaeth yn sicr—yn sicr—o ystyried maint y prosiect hwn, o ystyried y cyhoeddusrwydd a roddwyd i’r prosiect hwn, fod wedi cydnabod bod angen iddi roi mwy na thridiau o rybudd i Lywodraeth Cymru.
Ie, yn amlwg, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig iawn, iawn bod y sylfaen dystiolaeth ar gyfer y penderfyniad pwysig iawn hwn mor gadarn â phosibl. Felly, a gaf i ofyn, wrth ystyried y fethodoleg ddiwygiedig y mae Llywodraeth y DU bellach wedi’i chyhoeddi ynghylch y twf traffig a ragwelir yn y dyfodol, efallai y gallai Llywodraeth Cymru hefyd ystyried yn ehangach fethodolegau sy'n ymwneud â’r penderfyniad hwn? Er enghraifft, mae WelTAG, rwy’n credu, wedi bod yn destun llawer o feirniadaeth, wrth iddynt ragfynegi arbediad amser ar gyfer taith car unigol ar y ffordd, ac yna lluosi hynny er mwyn cael budd economaidd honedig. Roedd gennyf dipyn o ddiddordeb, felly, yn yr hyn yr oeddech chi’n ei ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn ag edrych efallai ar fformiwla y gellid ei defnyddio yng Nghymru, a allai, yn amlwg, gymryd i ystyriaeth amgylchiadau penodol yma yng Nghymru, ac rwy’n credu, efallai, rai o’r elfennau sy’n ysgogi strategaeth a pholisi yn Llywodraeth Cymru, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a datblygu cynaliadwy fel egwyddor ganolog.
Felly, o ystyried y darlun ehangach hwnnw, ac yn enwedig o ran beirniadu WelTAG, a fyddech chi’n ystyried y ffactorau hynny a newidiadau posibl o ran eich ystyriaeth, wrth symud ymlaen, â’r mater hwn?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt hollol hanfodol, ac mae'n bwynt a godwyd o'r blaen gan ein cyfaill a'r Aelod dros Lanelli, Lee Waters. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, mewn gwirionedd, bod WelTAG, yn y gorffennol, yn system a oedd yn ymwneud yn wreiddiol â modelu priffyrdd, ac felly yn aml yn tueddu i gefnogi datblygiadau ffyrdd. Bellach, cafodd newidiadau eu gwneud i sicrhau ei fod yn agnostig o ran modd. Ac mae’r newidiadau hynny bellach hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y ffaith bod modelau trafnidiaeth sy’n cael eu datblygu gan ddefnyddio’r dull hwn hefyd wedi ymgorffori cynlluniau cerdded a beicio. Ond rwy’n dal yn bryderus, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd gyda diwygiadau’r Adran Drafnidiaeth, ynglŷn â defnyddio system sydd wedi ein siomi ar yr achlysur hwn, neu o leiaf o ran mabwysiadu perthynas nad yw wedi ein gwasanaethu ar yr achlysur hwn. Felly rwy’n ystyried dyfeisio model Cymru ar gyfer seilwaith yn y dyfodol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad ysgrifenedig ddoe, ac am heddiw. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn bwysig iawn i ni gael rhybudd ymlaen llaw. Ac rwy’n cytuno â’m cydweithiwr Jenny Rathbone ynglŷn â phwysigrwydd data, a data a thystiolaeth gyfredol. Ond mae’n rhaid i mi ddweud, gwnaeth fy nghalon suddo wrth ddarllen hwn, a phan glywais am y peth ddoe, oherwydd mae hwn yn fater na fydd yn diflannu. Dywedais ym mis Mehefin y dylem ni fod wedi mynd i’r afael â’r mater hwn, flynyddoedd lawer yn ôl, ac rydym ni’n dal i geisio mynd i’r afael ag ef.
Mae'n rhwystredig iawn fod hyn wedi’i ddal yn ôl gan Lywodraeth y DU, heb ymgynghoriad, ac mae hynny'n resynus. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlinellu'r amserlen pan gafodd wybod am hyn, sydd, i mi, yn anfaddeuol. Ond a allwch chi roi sicrwydd na fydd hyn yn byrhau’r ymchwiliad, na fydd ar draul dyfnder yr ymgynghoriad, a sicrhau pobl bod ffordd liniaru ar gyfer yr M4 yn flaenoriaeth ganddo? A allai ef bwyso ar Lywodraeth y DU ynglŷn â hyn, a chyfleu barn y Cynulliad o ran cyn lleied y mae wedi ymgynghori â ni?
Gallaf. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau, a dweud bod fy nghalon innau hefyd wedi suddo pan ddaeth y mater hwn—canlyniadau’r ffaith bod yr Adran Drafnidiaeth wedi methu ag ymgysylltu â ni yn gynharach, neu wedi methu ag ymgynghori â ni—i’r amlwg? Gallaf gadarnhau na fydd hyn yn byrhau’r ymchwiliad. Rwy'n credu ei bod yn hollol gywir a theg bod pob unigolyn a phob sefydliad sydd â buddiant yn y pwnc hwn yn gallu cyflwyno eu hachos a chael eu clywed. A byddwn, wrth gwrs, yn cyhoeddi ein model diwygiedig cyn gynted ag y bo hynny'n bosibl, fel yr wyf eisoes wedi eich sicrhau.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.