Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 5 Hydref 2016.
Un o’r ardaloedd yn sicr ar gyfer blaenoriaeth, fe fyddwn i’n tybio, gan y Llywodraeth yw eich parthau menter. Yn sir Benfro, o gwmpas y Cleddau, mae gennych chi barth menter lle mae’n rhaid talu toll i fynd o un rhan o’r parth menter i ran arall, a thalu toll arall i ddod yn ôl. Rwy’n sôn, wrth gwrs, am y doll ar bont Cleddau, sydd yn pontio’r ddwy ran o ardal fenter y ddwy Gleddau. A ydych chi’n bwriadu o hyd fel Llywodraeth i droi’r bont yna yn gefnffordd—i’w thryncio, mewn geiriau eraill? Os ydych chi yn bwriadu, fel oedd y bwriad cynt, i gario ymlaen gyda’r system yna, ym mha ffordd, felly, y byddwch chi’n cael gwared ar y tollau?