7. 6. Dadl UKIP Cymru: HS2 a’r Rhwydwaith Rheilffordd yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:32, 5 Hydref 2016

Wel, diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl yma, er rwyf mewn cryn benbleth, y mae’n rhaid i mi ddweud, achos nid yn aml rwy’n sefyll i siarad am rywbeth sydd yn ddim byd i’w wneud efo ni yma yng Nghymru. Rydym ni’n sôn am brosiect seilwaith i Loegr yn unig. Dyna beth yw HS2. Wrth gwrs, os bydd y peth yn cael ei basio, byddwn ni i gyd yn talu amdano fe, ond nid ydym ni’n gwneud y penderfyniad yn y fan hon. Mae’r penderfyniad yn cael ei wneud mewn lle arall. Felly, rwyf mewn cryn dipyn o benbleth, gallaf ddweud.

Beth y buaswn i yn ei ddweud yw, os yw’r prosiect HS2 yma yn mynd yn ei flaen, dylem ni gael yma yng Nghymru y cyllid canlyniadol Barnett i adlewyrchu’r ffaith yna, achos mae yna gynifer o brosiectau mawr, gan gynnwys rheilffyrdd, sydd wedi digwydd yn Lloegr o’r blaen ac nid ydym ni wedi cael yr arian canlyniadol Barnett o hynny—megis y llinell Jubilee, megis Crossrail. Nid oes dim byd wedi dod i lawr i’r fan hon fel arian canlyniadol o hynny. Wedyn, os yw’r prosiect yma yn mynd yn ei flaen, ein gobaith ni yn y Blaid yw y byddwn ni’n cael arian sylweddol—sylweddol yn nhermau Cymru, beth bynnag—fel cyllid canlyniadol Barnett.

Yn y bôn, dywedodd rhywun rywbryd, os ydych chi eisiau mynd o Lundain i Birmingham 20 munud ynghynt, wel daliwch y trên cynnar, onid efe? Daliwch y trên cynharach. Nid oes yn rhaid gwario miliynau ar drên fel hyn. Wedi dweud hynny, mae angen arian i’w fuddsoddi mewn gwell cysylltiadau yma yng Nghymru. Ac fe wnaf achub ar y cyfle i sôn am hynny achos yr acen yn y lle yma yw sôn am effaith prosiectau ar Gymru. Mae’n ddirfawr amlwg bod angen gwella cysylltiadau rhwng de a gogledd Cymru. Mae yna sawl prosiect yn yr arfaeth. Wrth gwrs, rydym ni hefyd yn sôn am yr angen i drydaneiddio’r brif reilffordd i Abertawe. Mae hynny o dan fygythiad, wedi pleidlais Brexit. Mae yna nifer o gynlluniau i wella ffyrdd de-gogledd, gogledd-de, yn ogystal â gwella’r rheilffyrdd gogledd-de, de-gogledd, sydd angen buddsoddiad ynddyn nhw rŵan. Buaswn i hefyd yn licio gweld ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, er enghraifft, er mwyn i ni allu sôn am brosiectau sy’n debygol o ddigwydd o fewn ffiniau Cymru, achos dyna’r peth y dylem ni fod yn dadlau arno fo yn y lle hwn yn gyson.

Mae pobl wastad yn mynd i ddweud, ‘O le y buasech chi’n cael y pres?’ Wel, os yw HS2 yn mynd i gael ei adeiladu, fel rydw i wedi dweud eisoes, rydym ni’n mynnu arian canlyniadol Barnett o hynny, achos nid yw wastad yn digwydd, o bell ffordd. Dyna pam y gwnaethom ni lansio, yr wythnos hon, y NICW—ein NICW ni, ontefe? Ein comisiwn seilwaith cenedlaethol a fydd yn arf ac yn gorff a fydd yn galluogi benthyca ar raddfa eang; benthyca pan fydd yn rhad i wneud hynny, fel y mae o ar hyn o bryd; ac yn gorff lled braich i ddenu buddsoddiad enfawr er mwyn inni allu gwireddu rhai o’r dyheadau sydd gennym ni. Mae yna tua £40 biliwn o brosiectau isadeiledd yn y ‘pipeline’ yma yng Nghymru, ac nid oes yna ddim ‘prospect’ gan yr un ohonynt i weld golau dydd ar hyn o bryd. Mae’n rhaid inni feddwl yn llawer iawn ehangach ac yn llawer iawn mwy mentrus ynglŷn â sut rydym yn mynd i’r afael â’r angen i wella ein hisadeiledd ni.

I droi at y terfyn, rydym ni wedi cael dadl gan UKIP ar ysgolion gramadeg, sydd yn bod yn Lloegr ac nid yng Nghymru, ac rydym ni’n cael dadl heddiw ar HS2 sydd yn brosiect isadeiledd i Loegr, nid yng Nghymru. Beth nesaf? Beth fydd pwnc nesaf dadl UKIP yn y lle hwn? Dadl ar gynllun datblygu gwledig Wiltshire, efallai? Diolch yn fawr.