– Senedd Cymru am 5:59 pm ar 5 Hydref 2016.
Y ddadl fer yw’r eitem nesaf ar yr agenda. Rydw i’n galw ar Huw Irranca-Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf cafwyd cyfarfod yn neuadd gymunedol Heol-y-cyw a ddenodd lond y neuadd o bobl. Rwy’n dyfalu bod yna dros 150 o bobl yn bresennol oherwydd, yn ogystal â bod pob sedd yn llawn, roedd pobl yn sefyll yn yr eiliau ac o gwmpas y waliau. Daeth pobl hen ac ifanc i fynegi eu pryderon am dân a oedd wedi llosgi ar safle South Wales Wood Recycling Ltd yn Heol-y-cyw, gan achosi i fwrllwch trwchus annymunol lifo ar draws y pentref a’r ardaloedd cyfagos. Fe’i gwelais gyntaf pan edrychais i lawr cwm Llynfi yn gynnar un bore o fy nghartref sawl milltir i ffwrdd ym Maesteg—cwmwl trwchus o fwg, a oedd yn amlwg iawn o ben y bryn. Roedd fel ‘Groundhog Day’ a meddyliais yn syth, ‘Mawredd, tân pren arall yn union fel yr un ger Y Goetre-hen yn gynharach yn y flwyddyn’. Yn wir, yn gynharach, ym mis Mawrth y flwyddyn honno, roeddwn wedi gyrru i lawr cwm Llynfi isaf i mewn i fwrllwch trwchus gwyn tebyg a oedd yn arafu’r traffig bron i stop. Roedd gwaelod y cwm i gyd wedi’i lyncu gan gwmwl o fwg drewllyd a wnâi i chi beswch, mwg a oedd yn hofran ac yn setlo ar lawr y cwm. Bu’n rhaid i drigolion Betws, Shwt a’r Goetre-hen gerllaw ddioddef y gwaethaf o hyn am ddyddiau, ond roedd pobl mor bell i ffwrdd â Phen-y-bont ar Ogwr yn sôn am ei effeithiau.
Yr hyn sy’n cysylltu’r ddau dân yw cwmni o’r enw South Wales Wood Recycling. Mae’r trigolion eisiau gwybod beth sy’n digwydd, a minnau hefyd. Mae’r ymchwiliadau yn mynd rhagddynt, felly ni fydd dim rwy’n ei ddweud heddiw yn peryglu’r ymchwiliadau hynny ac unrhyw gamau gweithredu cysylltiedig. Fodd bynnag, fe fyddaf yn drylwyr wrth fynegi pryderon fy etholwyr a gofyn am roi camau gweithredu ar waith fel eu Haelod Cynulliad. Ac fel deddfwr yn Senedd Cymru, fe fyddaf yn benodol wrth awgrymu gwelliannau i’r gyfundrefn gyfreithiol a rheoleiddiol gyfredol.
Dyma hanfod y mater: mae cwmni South Wales Wood Recycling, cwmni sydd â chanolfan ailgylchu yn Heol-y-cyw yn fy etholaeth i, wedi cael tri thân bellach mewn pentyrrau o fiomas neu wastraff pren halogedig dros y flwyddyn ddiwethaf, mewn tri lleoliad gwahanol. Gellid ystyried bod un tân yn ddigwyddiad anffodus, ond tri? Wel, mae hyn yn creu pryderon sylweddol. Dechreuodd y tân cyntaf yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd y llynedd a llosgodd am fwy na dau fis. Gwyliais hyn ar y newyddion gyda diddordeb a phryder, ond ‘mae Casnewydd yn bell o Ogwr a, wel, mae’n siŵr mai un digwyddiad ar ei ben ei hun yw hwn’.
Roedd yr ail ym mis Mawrth, fel y dywedais, rhwng y Goetre-hen a Llangynwyd yng nghwm Llynfi isaf, filltir neu ddwy o fy nghartref. Nid oedd hwn yn safle a oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosesu neu storio biomas na gwastraff pren yn ôl yr hyn roeddwn i a’r bobl leol eraill yn ei ddeall, ac yn lleol mae’r bobl leol yn pryderu nad oedd y tân hwn a’r tân yn Heol-y-cyw yn llosgi biomas o gwbl—hynny yw, coed glân, gwyryfol—ond gallai fod, yn lle hynny, yn wastraff pren halogedig o safon isel o goed wedi’u prosesu a’u hailgylchu, ac yn cynnwys plastigau a PVC a deunyddiau eraill. Rydym yn aros i gael gwybod, ond mae’r pryderon iechyd yn glir.
Pan aeth y deunydd ar safle Llynfi ar dân ym mis Mawrth, gorchuddiwyd y cwm isel hwn gan fwg a mwrllwch trwchus annymunol a chyfoglyd am ddyddiau, gan achosi ofn gwirioneddol ynghylch yr effeithiau ar iechyd. Dangosodd cynghorwyr lleol, fel Martyn Jones, arweiniad gyda thrigolion lleol a gweithio’n agos gyda mi a Chris Elmore AS ac eraill i geisio datrys hyn er mwyn annog y gwahanol asiantaethau, gan gynnwys y gwasanaeth tân, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdod lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gydlynu eu hymateb yn well ac yn hollbwysig, i gyfathrebu’n effeithiol â’r trigolion.
Yn y pen draw, chwaraeodd yr awdurdod lleol rôl allweddol yn cysylltu rhwng asiantaethau a chyda thrigolion lleol. Ond wedyn cyfarfu’r Cynghorydd Jones a minnau a’r Aelod Seneddol lleol, Chris Elmore, ag uwch staff Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd â chyfrifoldebau dros drwyddedu a rheoliadau amgylcheddol a gorfodi, ac yn fwy diweddar, gyda’r awdurdod lleol, sydd â chyfrifoldebau cynllunio ac iechyd yr amgylchedd. Roeddem eisiau deall beth oedd wedi arwain at y ffaith fod gwastraff pren yn bresennol ar safle Llynfi a heb hysbysu’r trigolion, heb hysbysu cynrychiolwyr etholedig nac unrhyw asiantaethau rheoleiddio. Roeddem eisiau gwybod a oedd gwaith i waredu deunyddiau ar safle Llynfi wedi cael ei awdurdodi. Ond roedd y cyfarfod hwn hefyd yn caniatáu i ni ailadrodd rhai o bryderon y trigolion ynglŷn â gweithrediad y prif safle prosesu nifer o filltiroedd i ffwrdd yn Heol-y-cyw—materion yr oedd trigolion a chynghorwyr lleol fel Gary Thomas ac Alex Owen wedi eu dwyn i’n sylw ninnau hefyd. Nid oeddem yn sylweddoli ar y pwynt hwnnw y byddai trydydd tân yn digwydd cyn hir ar yr union safle hwnnw yn Heol-y-cyw. Unwaith eto, yn y tân yn Heol-y-cyw, cafodd ymladdwyr tân eu hanfon, roedd yr awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol, ac roedd y trigolion, yn ddealladwy, yn ofni am eu hiechyd a’u diogelwch a’u cartrefi. Gorfodwyd rhai, fel gyda’r tân yn gynharach yng nghwm Llynfi, i adael eu cartrefi tra bod eraill ag anableddau a phroblemau symudedd, yn methu gadael, ond bu’n rhaid iddynt ddioddef y mwg cyfoglyd erchyll y tu mewn a’r tu allan i’w cartrefi—roedd yn mynd i bob man. Ac unwaith eto, er gwaethaf gwaith rhagorol y gwasanaethau brys, ar gost fawr i’r trethdalwr, gadawyd y trigolion mewn mwrllwch yn llythrennol, a hefyd mewn mwrllwch o ddryswch ynglŷn â, ‘Sut y gallai hyn ddigwydd eto?’
Roedd cynghorwyr lleol, fel Alex, sy’n ymladdwr tân ei hun, ac sydd wedi bod yn ymateb yn uniongyrchol i’r digwyddiadau hyn, a minnau, Chris Elmore ac eraill yno yn gofyn unwaith eto ar ran y trigolion, ‘Sut y digwyddodd hyn? Pwy sy’n gyfrifol? Pwy sy’n cyfathrebu â thrigolion?’ Daw hynny â ni at y cyfarfod gorlawn yn neuadd gymunedol Heol-y-cyw yr wythnos diwethaf—roedd Suzy Davies a chyd-Aelodau eraill yno—a lle i sefyll yn unig. Yn y cyfarfod hwnnw, clywsom drigolion lleol yn honni bod pentyrrau o wastraff pren yn rheolaidd yn uwch na’r uchder a’r dimensiynau a ganiateir, yn groes i ganiatadau cynllunio a’r drwydded amgylcheddol. Dyna a ddywedodd y trigolion. Roeddent yn dweud bod hwn yn drychineb a oedd yn sicr o ddigwydd.
Mae’r ymchwiliad yn parhau i bennu’r achosion, ac mae’n rhaid i ni adael i’r ymchwiliadau hynny gwblhau eu gwaith, ond gadewch i mi droi at gyfrifoldeb ehangach cyfarwyddwyr y cwmni, South Wales Wood Recycling. Mae datganiadau i dawelu meddyliau wedi ymddangos ar y wefan ar ôl y digwyddiad, ond maent wedi bod yn absennol fel arall, ac nid ydynt yn chwarae eu rhan yn ymgysylltu â’r gymuned, i esbonio beth sy’n digwydd a helpu i roi tawelwch meddwl.
Ond deallaf eu bod yn barod iawn i weithredu mewn ffyrdd eraill. Deallaf eu bod yn llogi arbenigwyr cyfreithiol o’r radd flaenaf i herio gorchmynion gorfodi a hysbysiadau atal, gan greu gwaith i’r awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth iddynt geisio oedi a chymylu’r ffeithiau. Ac yn y cyfamser, mae’r arian ar gyfer ailgylchu yn llifo i mewn, ac oes, fel y gŵyr Ysgrifennydd Cabinet, mae yna arian mewn gwastraff. Mae yna arian mewn ailgylchu. Yn wir, mae miliynau os nad biliynau i’w wneud. Mae’r data diweddaraf yn awgrymu bod diwydiant ailgylchu DU gyfan yn werth £23.3 biliwn yn 2015, i fyny 15 y cant o’r flwyddyn flaenorol.
Yn y sector ailgylchu pren, mae ffortiwn i’w wneud wrth i wastraff pren o wahanol raddau gael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi i brosiectau biomas ac ynni ac i’w ddefnyddio fel cynnyrch wedi’i ailgylchu fel sglodfwrdd a chynhyrchion gwerth ychwanegol megis ar gyfer trin llwybrau ceffylau a llwybrau cyhoeddus, a thomwellt gardd. Mae gwerth net cyhoeddus South Wales Wood Recycling wedi cynyddu’n aruthrol o £313,651 yn 2013 i £1,303,675 yn 2015. Mae ganddynt gynlluniau i ehangu. Mae’r cwmni hwn yn anelu’n uchel, mae’n ymddangos.
Rydym angen i gwmnïau ailgylchu lwyddo. Rydym eisiau iddynt wneud yn dda mewn gwirionedd, fel ein bod yn cludo llai i safleoedd tirlenwi, yn gwastraffu llai a’u bod yn ein helpu i ddod yn Gymru ac yn fyd mwy cynaliadwy. Ond mae’n rhaid iddynt wneud hyn yn iawn. Mae angen i unrhyw gwmni sy’n rhan o hyn ofalu am eu cymunedau, nid eu helw’n unig. Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni adael i unrhyw ymchwiliadau i’r gweithgareddau hyn gwblhau eu gwaith. Ond gadewch i ni fod yn glir hefyd: bydd unrhyw gwmni, beth bynnag am yr un yma, nad yw’n dangos parch at eu cymunedau lleol neu unrhyw gwmni sy’n dangos difaterwch neu hyd yn oed dirmyg tuag at eu cymunedau yn eu gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu yn cael ei dwyn i gyfrif yn y pen draw. Rhaid iddynt gael eu dwyn i gyfrif. Mae i unrhyw gwmni o’r fath apelio pob her, gan wybod bod hyn yn oedi’r broses am fisoedd, a llogi bargyfreithwyr drud i glymu clymau am asiantaethau gorfodaeth tra bo’r arian yn parhau i lifo i mewn yn rhwbio wynebau’r trigolion yn y baw.
Rwyf am weld cwmnïau ailgylchu gwastraff cyfrifol yng Nghymru sy’n gwneud yr hyn sy’n iawn i’r blaned ac i’w cymunedau. Felly, rwy’n dweud wrth gyfarwyddwyr South Wales Wood Recycling Ltd, ‘Rydych yn edrych yn hynod o anghyfrifol a di-hid ar hyn o bryd. Mae gennych waith caled i gael pobl leol yn ôl ar eich ochr, ac rwy’n un ohonynt.’ Yn y cyfamser, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf rai awgrymiadau penodol, ac rwy’n gwybod y byddwch wedi eich cyfyngu rhag sôn am fanylion y digwyddiadau hyn a’r cwmni hwn oherwydd yr ymholiadau a’r ymchwiliadau sy’n parhau, ond rwy’n credu bod mwy y gallwn ei wneud fel deddfwrfa fan hyn.
Gallwn roi mwy o rym yn nwylo cyrff rheoleiddio a gorfodi ac yn nwylo pobl leol, ac rwy’n fwy na pharod i helpu i fwrw ymlaen â hyn. Mae gennym y pwerau yng Nghymru eisoes dros sawl maes perthnasol o ran rheoli gwastraff, tirlenwi, cynllunio, gorfodaeth amgylcheddol a mwy. Mae pwerau eraill wedi’u cadw’n ôl ar hyn o bryd a byddai angen i ni weithio gyda Llywodraeth San Steffan, ond rwyf fi a chydweithwyr llywodraeth leol yng Nghymru ac eraill yn awyddus i weithio gyda chi i dynhau’r drefn reoleiddiol a deddfwriaethol fel bod y cwmnïau rheoli gwastraff ac ailgylchu da yn cael eu gwobrwyo a’r rhai gwael yn cael eu dal, eu cosbi a’u gwahardd rhag gweithredu os bydd angen.
Felly, dyma rai awgrymiadau penodol. Yn gyntaf, gadewch i ni sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen bach, am gyfnod penodol i adolygu’r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer rheolaethau trwyddedu a chynllunio gweithrediadau gwastraff ac ailgylchu, ac edrych ar y posibiliadau ar gyfer ymestyn fframwaith cyfraith droseddol yn y maes hwn. Yn ail: ceisio cryfhau yn sylweddol y cosbau ariannol am dorri amodau trwyddedau cynllunio a thrwyddedau amgylcheddol, sydd mor ddi-nod ar hyn o bryd nes eu bod yn aml yn cael eu hystyried yn bitw a dibwys gan y troseddwyr a dweud y gwir. Dylai pen uchaf y cosbau i’r rhai sy’n mynd ati’n fwriadol i dramgwyddo neu’n tramgwyddo dro ar ôl tro achosi embaras ariannol a phersonol eithafol i gyfarwyddwyr cwmni unigol yn ogystal â pherchnogion neu gyfranddeiliaid. Yn drydydd: archwilio ffyrdd o osod cosbau’n uniongyrchol yn erbyn cyfarwyddwyr a enwyd a pherchnogion cwmnïau, gan gynnwys y posibilrwydd o atal neu wahardd unigolion sy’n euog o droseddau a ailadroddir neu droseddau difrifol rhag cael swyddi mewn sectorau cysylltiedig o’r diwydiant—enwi a chywilyddio am drosedd gyntaf neu drosedd lai, ond eu rhwystro rhag cael swyddi o’r fath am droseddau difrifol neu droseddau a ailadroddir. Yn bedwerydd: cyflwyno cynigion i symleiddio a gwella’r broses o gydlynu ymchwiliadau rhwng sefydliadau megis asiantaethau gorfodi ac awdurdodau cynllunio. Bydd gwella’r broses o rannu data gwybodaeth ac arbenigedd cyfreithiol yn helpu i gydbwyso cyfiawnder.
Pump: datblygu ffyrdd newydd o gael gwared yn gyfan gwbl ar rannau o’r broses hon o achosion cyfreithiol a barnwrol, sy’n gostus i’r trethdalwr ac yn llyncu amser asiantaethau gorfodi, yn rhwystredig i drigolion ac eraill yr effeithir arnynt gan broblemau parhaus. Er enghraifft, os yw cwmni yn parhau i weithredu’n anghyfreithlon neu’n groes i amodau trwyddedau wrth apelio gorchymyn atal, maent yn gwybod eu bod yn ceisio drysu pobl. Mae hefyd yn beryglus i asiantaethau gorfodi, sy’n gwybod y gallent wynebu costau cyfreithiol uwch byth a hawliadau am golledion gweithredol hyd yn oed os ydynt yn aflwyddiannus. Gadewch i ni ddod o hyd i ffordd i wneud gorchymyn atal ar bapur yn orchymyn atal yn ymarferol ac unioni’r cydbwysedd o blaid yr asiantaethau gorfodi a’r bobl leol. Mae cyfreithwyr a bargyfreithwyr corfforaethol yn ceisio sathru ar Weinidogion a chynghorwyr a etholwyd yn ddemocrataidd a phobl leol. Gadewch i ni gael y cydbwysedd yn iawn.
Chwech: ymestyn hysbysiadau atal a phwerau gorfodi eraill i gwmpasu caniatadau sy’n bodoli eisoes, nid troseddau newydd a datblygiadau newydd yn unig, fel bod modd gorfodi hysbysiadau atal a chosbau eraill ar weithrediadau presennol lle maent yn groes i amodau trwyddedu neu gynllunio. A saith: archwilio’r posibilrwydd o ymestyn cyfraith droseddol i gwmpasu meysydd newydd a gwmpesir ar hyn o bryd gan gyfraith gynllunio a chyfraith amgylcheddol, megis risg ddifrifol i amwynder, a chaniatáu i awdurdodau lleol bennu’r hyn yw’r risg ddifrifol honno. Byddai hyn yn caniatáu i Ddeddf Enillion Troseddau 2002 gael ei chymhwyso i dorri amodau, fel bod modd atafaelu elw a wneir drwy ymddygiad troseddol i’r cyhoedd.
Nawr, mae yna rai argymhellion ymarferol, deddfwriaethol a rheoleiddiol a fyddai’n gwneud gwahaniaeth hirdymor go iawn, ymhell y tu hwnt i’r trafferthion uniongyrchol yn fy etholaeth fy hun. Ond i ddychwelyd yn olaf at South Wales Wood Recycling, mae’n ymddangos i’r preswylwyr fod y cwmni naill ai wedi tyfu’n rhy gyflym a thu hwnt i’w allu i reoli ei weithrediadau’n effeithiol neu mae wedi mynd yn farus. Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen i gyfarwyddwyr y cwmni hwn ddatrys y problemau hyn eu hunain ar fyrder neu bydd angen i’r Llywodraeth a’i hasiantaethau gorfodi roi camau cadarn ar waith i’w datrys er mwyn atal gweithgareddau sy’n niweidio’r bobl a’r cymunedau rwy’n eu cynrychioli ac sydd ar hyn o bryd yn dioddef yn sgil ei bresenoldeb. Felly, rwy’n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, y gwelwch werth yn fy nadleuon a fy argymhellion ar gyfer newid y ffordd rydym yn dwyn gweithredwyr i gyfrif yn ein rheoliadau a’n deddfwriaeth. Mae angen i ni adfer y cydbwysedd o blaid gweithredwyr da, yr asiantaethau gorfodi a chynllunio a’r bobl rydym yn eu cynrychioli. Rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â chi a chyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ar unrhyw adeg i fwrw ymlaen â’r materion hyn. Diolch.
A allwch gadarnhau eich bod wedi caniatáu munud yr un i Caroline Jones a Suzy Davies?
Gallaf yn wir, bos.
Iawn. Iawn, fe fyddaf yn hael. Caroline Jones felly.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw am gyflwyno’r ddadl fer hon ac am gytuno i roi munud o’i amser i mi. Diolch byth, i fy etholwyr yn Ne Corneli a’r ardaloedd cyfagos, mae cwmni South Wales Wood Recycling wedi tynnu cynlluniau ar gyfer creu safle yn y pentref yn ôl. Mae’r cwmni wedi wynebu pob math o broblemau gyda thanau yn eu cyfleusterau ym Mhen-y-bont a Chasnewydd a gafodd effaith niweidiol ar iechyd trigolion sy’n byw ger y safleoedd ac yn yr ardaloedd cyfagos. Fodd bynnag, mae yna hefyd effeithiau iechyd cudd o’r math hwn o gyfleuster. Mae effeithiau iechyd o lwch pren, y mae ymgynghorwyr South Wales Wood Recycling eu hunain yn ei ddisgrifio fel rhai sydd â’r potensial i fod yn sylweddol dros ben yn destun pryder mawr iawn i drigolion lleol. Mae’r cwestiwn yn codi, felly: pam y mae cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru yn caniatáu i safleoedd fel y rhain gael eu hadeiladu yn y lle cyntaf?
Mynychais gyfarfodydd cyhoeddus yng Ngogledd Corneli a Phorthcawl ac roedd y nifer a oedd yn bresennol ar y ddau achlysur yn 150 o bobl a 220 o bobl fan lleiaf. Roedd y dystiolaeth ffeithiol a ddarparwyd ynglŷn â’r effaith ar iechyd yn destun pryder enfawr. Rwy’n gobeithio, wrth ymateb i’r ddadl, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal adolygiad o’r canllawiau cynllunio a’r caniatadau amgylcheddol ar gyfer y math hwn o gyfleuster. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Suzy Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Huw, am gyflwyno’r ddadl fer hon heddiw. Yn amlwg, rydym wedi bod yn cael trafodaethau cyfochrog â’r cyrff unigol a grybwyllwyd gennych, felly nid ailadroddaf unrhyw beth rydych wedi’i ddweud ar wahân i annog Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried rhai o’r awgrymiadau a gyflwynodd Huw Irranca-Davies. Un o’r pwyntiau a nodwyd wrthyf oedd y gellid bod wedi cynnwys rhai o’r rhain yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ddiweddar, ac rwy’n ystyried hynny’n gyfle a gollwyd i ryw raddau, ond rwy’n sylweddoli nad chi oedd yr Ysgrifennydd Cabinet a oedd yn arwain ar hynny.
Dau bwynt penodol; mae’n ddrwg gennyf, tri—pan nad yw achosion o dorri amodau rheoliadau yn y gorffennol wedi cael eu hystyried yn ddigon gwael i fod yn achosion troseddol, a oes achos i’w wneud y dylai swyddogion cynllunio allu ystyried hynny wrth ystyried a ddylid rhoi caniatâd cynllunio i wahanol safleoedd? Ar hyn o bryd, mae’r bar ar hynny yn arbennig o uchel. Yn ail—cymhelliad gwrthnysig awdurdodau lleol sy’n talu i bren gwastraff gael ei gymryd yn rhan o’u rhaglen ailgylchu, yn hytrach na thalu wrth i’r sglodion coed gael ei ddosbarthu.
Yn drydydd, tybed a allwch roi unrhyw gyfarwyddyd i ni ar hyn o bryd ynglŷn â sut y mae’r bobl yr effeithir ar eu hiechyd gan y gwenwynau sy’n cael eu cario ar y gwynt o danau o’r fath yn mynd i gael eu digolledu, oherwydd nid yw’n glir ar hyn o bryd a ydym yn siarad am gyd-achosion neu a fyddai unigolion, o dan unrhyw gynllun penodol, yn gallu gwneud hawliad ar gyfer afiechyd a brofwyd, drwy achosiaeth? Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i’r ddadl—Lesley.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno’r ddadl fer hon ac i Caroline Jones a Suzy Davies am eu cyfraniadau.
Mae’r ffordd y mae cymdeithas yn rheoli gwastraff wedi newid yn sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi creu goblygiadau i bobl, yr amgylchedd ac o ran rheoleiddio. Wrth i wastraff gael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi ac i fyny’r hierarchaeth wastraff, cafwyd manteision amgylcheddol sylweddol, ond mae hefyd wedi creu rhai risgiau amgylcheddol. Erbyn hyn rydym yn dibynnu llai ar dirlenwi, mae gennym fwy o wastraff sy’n cael ei gasglu ar wahân, ei ailgylchu a’i adfer, gyda llawer mwy o safleoedd yn didoli a phrosesu gwastraff cyn ei anfon i’w drin a’i waredu.
Mae’r safleoedd hyn yn rhan annatod o’r seilwaith sydd ei angen arnom i reoli ein gwastraff, a phan fydd cwmnïau a safleoedd gwastraff yn gweithredu’n dda maent o fudd cadarnhaol i’r amgylchedd, busnesau a chymdeithas yn gyffredinol. Maent yn helpu i warchod adnoddau gwerthfawr, creu swyddi a symud Cymru tuag at economi fwy cylchol.
Mae’r rhan fwyaf o’r diwydiant gwastraff yn gweithredu’n gyfrifol, a chyda’r newidiadau mewn rheoli gwastraff, mae’n bosibl y bydd angen i nifer o weithredwyr, gyda llawer ohonynt yn newydd i’r diwydiant, ddeall y gofynion rheoleiddio a’r rhagofalon ar gyfer rheoli gwastraff yn well. Mae yna ran fach o’r diwydiant hefyd sy’n methu cyrraedd y safonau gofynnol, neu’n gweithredu y tu allan i’r gyfraith, ac mae angen i ni roi camau cryf ar waith i atal y rhain rhag gweithredu ac i gael gwared arnynt o’r diwydiant.
Rydym yn gwybod o’n trafodaethau gyda’r Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol a’u hadroddiad ar gyfer y DU ar droseddau gwastraff fod gweithgaredd anghyfreithlon yn costio tua £569 miliwn y flwyddyn ac yn tanseilio gwaith cyfreithlon. Yn bwysicach fyth, mae’r gweithgareddau hyn yn niweidio ein hamgylchedd a’n cymunedau, ac rwy’n cymeradwyo pobl Heol-y-cyw am y ffordd y maent wedi ymdopi â’r digwyddiad. Rwyf hefyd yn meddwl y dylwn sôn am y tri chynghorydd lleol y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies atynt hefyd—Alex Owen, Martyn Jones a Gary Thomas—am y ffordd y maent wedi gweithio gyda’r gwasanaethau brys a’r rheoleiddwyr, ac wedi cefnogi eu hetholwyr a’u cymunedau.
Mae gennym drefn reoleiddio ddeuol ar gyfer awdurdodi gweithgareddau gwastraff. Mae trefn gynllunio awdurdodau lleol yn rheoli datblygiadau a defnydd tir, gan osod gofynion i ddatblygwr reoli symudiadau traffig, sŵn ac effeithiau eraill ar yr amgylchedd a’r gymuned leol. Ategir hyn gan y drefn drwyddedu amgylcheddol, sy’n diogelu’r amgylchedd ac iechyd pobl trwy reoli gweithrediadau o ddydd i ddydd ar safle. Mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o weithredwyr gwastraff gael trwydded amgylcheddol a gyhoeddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir cofrestru rhai gweithgareddau risg isel llai o faint fel rhai a eithrir rhag y drefn drwyddedu, ond ar gyfer gweithrediadau a drwyddedir neu weithrediadau a eithrir, gosodir amodau y mae’n rhaid i weithredwyr gydymffurfio â hwy wrth gyflawni eu gweithrediadau. Mae’r amodau hyn yn cynnwys rheolaethau ar fathau a meintiau o wastraff y gellir ei drin, uchder a gofod rhwng pentyrrau a’r rhagofalon tân er mwyn lleihau’r risg o dân.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoleiddio safleoedd o ddydd i ddydd ac am weithredu camau yn erbyn y rhai sy’n methu cyrraedd y safonau gofynnol neu sy’n gweithredu’n anghyfreithlon. Mae ganddynt bwerau i atal troseddu, rheoli a glanhau safleoedd, ac i atal neu gosbi gweithgarwch troseddol. Wrth gyflawni eu dyletswyddau rheoleiddio, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arolygu ac yn archwilio safleoedd i wirio cydymffurfiaeth. Cyflawnir y camau gorfodi drwy weithio gyda gweithredwyr a lle bo angen, drwy gyflwyno hysbysiadau cydymffurfio neu orfodi, neu gyhoeddi hysbysiadau atal ac atal dros dro. Mae ganddynt allu hefyd i amrywio neu ddirymu trwydded.
Rwy’n cefnogi ac yn annog sefydliadau i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda gwasanaethau tân ac achub Cymru i nodi safleoedd risg uchel ac i dargedu rheoleiddio yn y safleoedd hyn. Ym mis Mai eleni, cyhoeddwyd canllawiau ganddynt ar atal a lliniaru tân. Defnyddir y canllawiau i addasu trwyddedau a datblygu gofynion atal tân ar gyfer trwyddedau newydd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd ac mae’n parhau i fonitro, gydag eraill, yr achos o storio naddion pren yn anghyfreithlon yn hen orsaf bŵer cwm Llynfi. Mae South Wales Wood Recycling Ltd yn gweithredu nifer o safleoedd. Mae ganddynt ddau gyfleuster trwyddedig ar gyfer storio pren gwastraff lle mae tanau wedi digwydd. Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i’r cwmni ac wedi rhoi camau cyfreithiol ar waith. Er mwyn osgoi peryglu’r camau hyn, Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn gallu rhoi sylwadau ar weithgareddau penodol y cwmni. Rwy’n cydnabod y pryderon difrifol am safleoedd sy’n perfformio’n wael, a’r angen i sicrhau bod safleoedd yn cael eu gweithredu a’u rheoleiddio’n dda.
Bûm yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar gryfhau eu pwerau gorfodi i fynd i’r afael â throseddau gwastraff a pherfformiad gwael yn y diwydiant gwastraff. Y llynedd, cyflwynwyd pwerau gennym i’w gwneud yn haws i’r rheoleiddiwr atal trwyddedau a rhoi camau ar waith i gael gwared ar risg o lygredd difrifol. Rydym wedi cyflwyno pwerau i’w gwneud yn haws i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud cais i’r Uchel Lys am waharddeb i orfodi cydymffurfiaeth â hysbysiadau gorfodi ac atal.
Byddaf yn cyflwyno mwy o bwerau newydd i alluogi rheoleiddiwr i roi camau cadarn ar waith i atal troseddwyr. Byddaf yn darparu pwerau i Cyfoeth Naturiol Cymru gloi gatiau safle, er mwyn atal mynediad yn gorfforol ac atal mwy o wastraff rhag dod i mewn i’r safle. Bydd pobl sy’n cadw gwastraff, neu’n caniatáu i wastraff gael ei gadw ar eu tir yn anghyfreithlon yn cael eu gwneud yn gyfrifol am symud gwastraff oddi ar y tir hwnnw. Byddaf yn adolygu darpariaethau ar gyfer prawf person addas a phriodol newydd er mwyn sicrhau bod gweithredwyr yn gymwys ac yn ddiogel yn ariannol i weithredu cyfleusterau.
Byddaf hefyd yn ymgynghori yn gynnar y flwyddyn nesaf ar adolygiad o’r drefn eithrio. Bydd yr adolygiad yn edrych yn fanwl ar storio deunyddiau fflamadwy ac yn darparu gwelliannau pellach i dynhau’r gyfundrefn reoleiddio. Rwy’n edrych yn ddifrifol iawn ar y posibilrwydd o ddarparu cosbau sifil, megis cosbau ariannol amrywiadwy ac ymrwymiadau gorfodi, i gyd-fynd â’r cosbau troseddol o fewn y drefn drwyddedu. Byddaf yn trafod y mater gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn ystyried sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno’r Bil treth gwarediadau tirlenwi ym mis Ebrill 2018. Bydd cynigion yn y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i dalu treth am warediadau anghyfreithlon, a fydd yn darparu arf ataliol cryf pellach yn erbyn gweithgaredd anghyfreithlon.
Mae’r system cyfiawnder yn fater a gadwyd yn ôl, felly nid oes gennyf bwerau i ddiwygio cosbau ariannol am dorri amodau cynllunio a thrwyddedau amgylcheddol. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae deddfwriaeth gwastraff eisoes yn ennyn y gosb uchaf. Ar dditiad, gall hyn olygu dirwy ddigyfyngiad neu ddedfryd o hyd at ddwy flynedd yn y carchar. Er bod lefel y dirwyon a osodwyd gan y llysoedd yn hanesyddol wedi bod yn isel, ac efallai nad ydynt wedi gweithredu fel ataliad neu gosb ddigonol, yn 2014, cyhoeddodd y Cyngor Dedfrydu ganllawiau i lysoedd troseddol ar ddedfrydu troseddau amgylcheddol. Am y tro cyntaf, darparwyd tariff i ddangos y lefel briodol o gosbau, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd a throsiant ac elw’r sefydliad dan sylw. Mae’r canllaw dedfrydu eisoes wedi cael effaith amlwg ar ddedfrydu troseddau gwastraff. Ar gyfer achosion mwy difrifol o weithgarwch anghyfreithlon, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried defnyddio Deddf Enillion Troseddau 2002 i adennill arian a gafwyd yn anghyfreithlon. Maent wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn defnyddio’r pwerau hyn, sy’n gweithredu fel cosb gref ac fel ataliad i droseddwyr eraill.
Rwy’n cytuno bod angen gwneud mwy er mwyn gwella perfformiad y sector ac i gael gwared ar yr elfen ddiegwyddor o’r diwydiant. Byddaf yn parhau i ystyried yr opsiynau i gryfhau camau rheoleiddio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r diwydiant i sicrhau bod hyn yn digwydd. Wrth gwrs, rwy’n hapus i gyfarfod â Huw Irranca-Davies i drafod ei syniadau’n fwy manwl, ac rwy’n gobeithio y bydd y newidiadau deddfwriaethol rwyf wedi’u hamlinellu, a’r camau a roddais ar waith, yn tawelu meddwl yr Aelodau sy’n bresennol a’r holl etholwyr fy mod yn mynd i’r afael â’r mater hwn. Byddaf hefyd yn sicrhau bod yr holl bwyntiau rydych wedi’u crybwyll yn cael sylw gan Cyfoeth Naturiol Cymru a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod pan fyddwn yn cyfarfod. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.