<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 11 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:49, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, yn y flwyddyn 2000, roedd Cymru yn ail o'r gwaelod yn y tablau cynghrair ymhlith y gwledydd a rhanbarthau Lloegr yn y DU o ran enillion wythnosol gros. Yn y cyfamser, mae enillion wedi cynyddu 55 y cant yn yr Alban, 51 y cant yng Ngogledd Iwerddon, ond dim ond 46 y cant yng Nghymru. Felly, mae gennym ni’r fraint ddigysur erbyn hyn o fod ar waelod y tablau cynghrair hynny. Bu gennym Lywodraethau Llafur un ai yng Nghaerdydd neu yn San Steffan am naill ai’r holl gyfnod hwnnw neu’r rhan fwyaf ohono. A ydych chi a'ch plaid yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am yr hanes hwn o fethiant?