Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 11 Hydref 2016.
Wel, roedd ef yn aelod o'r Blaid Geidwadol unwaith, yn y 1980au, ac os edrychwch chi ar yr ystadegau—a gallaf roi’r graffiau iddo ar hyn—cynyddodd anghydraddoldeb yn sylweddol—yn sylweddol—yn y 1980au o’i gymharu ag unrhyw ddegawd arall. Dyna pryd y dechreuodd pobl golli hyder mewn gwleidyddiaeth, pan welsant anghydraddoldeb yn cynyddu. Gallaf ddweud wrtho, os edrychwn ni ar y lefel o gyflogaeth yng Nghymru, ei bod yn uwch nag erioed, yn llawer uwch nag yr oedd pan yr oedd ef yn y Llywodraeth. Mae diweithdra yn 4.1 y cant, yn llawer is nag yr oedd pan yr oedd ef yn y Llywodraeth. 13.7 y cant yw diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru; 14.1 yw cyfradd y DU. Roedd y gostyngiad yng Nghymru bron i 5 y cant dros flwyddyn. Dyna Twf Swyddi Cymru i chi, a'r ffordd y mae'n gweithredu mewn gwirionedd. Felly, cyn belled ag y mae niferoedd yn y cwestiwn, rydym ni’n gwybod bod yr economi yn symud i'r cyfeiriad cywir.
Mae'n iawn i ddweud mai’r her yw sicrhau ein bod yn codi incwm pobl. Y ffordd i wneud hynny yw gwneud yn siŵr eu bod yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn dod â swyddi sy'n talu'n dda i mewn gan fuddsoddwyr sy'n dod o dramor, ond hefyd bod y gallu a’r hyder ganddynt i sefydlu eu hunain mewn busnes a llwyddo yn y dyfodol. Nid oedd yr un o'r pethau hyn ar waith pan yr oedd ef yn aelod o'r Blaid Geidwadol. Ni wnaeth unrhyw blaid fwy i ddryllio ein heconomi, i godi diweithdra a chreu mwy o anghydraddoldeb na'r blaid yr oedd ef yn aelod ohoni ar un adeg.