Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 11 Hydref 2016.
Nid wyf yn bwriadu, Lywydd, ailadrodd y dadleuon ynghylch gaeaf o anfodlonrwydd 1979, a arweiniodd at yr holl doriadau a ddigwyddodd yn y 1980au; rydym ni yma i siarad am yr unfed ganrif ar hugain, nid yr ugeinfed. Ond, gan edrych ymlaen at y dyfodol, er na wnaiff y Prif Weinidog dderbyn ei gyfrifoldeb am yr hanes hwn o fethiant, onid yw’n amlwg bod angen i ni greu economi fenter yng Nghymru nawr, awdurdodaeth treth isel, o siarad yn gymharol, ac economi lle mae gennym ni reoleiddio cymesur? Mae'r cyfle y mae Brexit yn ei gynnig i ni yn rhoi’r dulliau i ni ar gyfer cyflawni’r hyn y mae ef a minnau ei eisiau, sef mwy o ffyniant i bobl Cymru.