Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 11 Hydref 2016.
Nid yw fy mhlaid yn erbyn datganoli trethi incwm fel y cyfryw, yr hyn yr ydym ni yn ei erbyn yw datganoli treth incwm heb refferendwm, fel yr addawyd i ni cyn 2011. Ond, gan symud i’r dyfodol a'r cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig, onid yw braidd yn siomedig bod y grŵp cynghori ar Ewrop y mae'r Prif Weinidog wedi ei benodi, o 20 aelod, yn cynnwys llawer o wleidyddion ac academyddion, ond ychydig iawn o bobl â phrofiad busnes ymarferol? Cyn belled ag y gallaf ei ddeall o edrych ar yr enwau, ychydig iawn o’r bobl deilwng hyn oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd. Yn wir, yr unig un y gallaf ei nodi yn bendant yw fy ffrind anrhydeddus dros Ogledd Cymru, Nathan Gill. Oni fyddai'n synhwyrol, felly, i gael mwy o bobl sy’n gweld Brexit fel cyfle yn hytrach na rhywbeth i'w ofni yn y grŵp hwn?