Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 11 Hydref 2016.
Nid ailymladd y refferendwm yw diben y grŵp; mae’r canlyniad yn eglur. Diben y grŵp yw cynghori’r Llywodraeth—nid gwneud penderfyniadau, ond cynghori’r Llywodraeth—ar ffyrdd posibl ymlaen. Er enghraifft, edrych ar fodelau fel Norwy—a ellir addasu hwnnw? A oes modelau eraill? Dyma'r pethau y mae angen i ni eu hystyried. Mae Nathan Gill yn aelod o'r grŵp hwnnw. Mae'n ASE, dyna pam mae yn y grŵp, ac mae’n rhywun sydd wedi cyfrannu'n helaeth at waith y grŵp hyd yn hyn, ac mae'n rhywun a all ddod â’i brofiad yn Ewrop a’i ddefnyddio i effaith dda yn ein grŵp.