Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 11 Hydref 2016.
Rwy’n ddiolchgar i’r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn broblem i gerddwyr yng nghwm Abergwaun, ac er gwaethaf ymrwymiadau cadarnhaol gan Weinidogion blaenorol, ac er bod astudiaeth dichonoldeb wedi cymryd lle yn 2012-13, mae’r Gweinidog presennol wedi gofyn am astudiaeth arall i adeiladu pont droed. Rwy’n siŵr eich bod chi’n gyfarwydd â’r rhan yna o’r dref a’i bod hi’n bwysig i wella diogelwch yn y rhan yna. Felly, pa sicrwydd y gall eich Llywodraeth chi ei roi i bobl yn yr ardal yna y bydd pont droed mewn gwirionedd yn cael ei hadeiladu i’r gymuned leol yn ystod y Cynulliad hwn, yn hytrach na chael ymrwymiadau i astudiaethau dichonoldeb diddiwedd, a pha gyllid a fydd ar gael i brojectau fel hyn?