Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 11 Hydref 2016.
Mae’r Aelod yn sôn am Gwm Gwaun—nid wyf yn gwybod am unrhyw lwybr yng Nghwm Gwaun. Rwy’n gwybod fod yna broblem ynglŷn â Threfdraeth i Lwyngwair, os mai dyna beth mae’n sôn amdano. Ynglŷn â Threfdraeth i Lwyngwair, mae’r gwaith yn symud ymlaen ar hynny. Ynglŷn a’r mater mae wedi ei godi, a gaf i felly ysgrifennu ato fe gyda mwy o fanylion er mwyn ei fod yn gallu sicrhau bod y manylion ar gael i’w etholwyr?