Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 11 Hydref 2016.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw? Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn dweud yn eich datganiad bod gwelliannau i gyfraddau cyflogaeth ers 2000 yn un o lwyddiannau mawr y cronfeydd strwythurol. Byddwn i’n cytuno eu bod wedi chwarae eu rhan, ynghyd ag elfennau eraill. Byddwn i’n awgrymu bod polisi economaidd Llywodraeth y DU, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi chwarae rhan hefyd, ynghyd â'r cronfeydd strwythurol hynny. Fodd bynnag, a ydych yn cydnabod, fel y dywedodd Adam Price yn ei sylwadau yn gynharach, er bod cyfraddau diweithdra y gorllewin a'r Cymoedd wedi gwella, diolch byth, bod gan y rhanbarth hwnnw lefel annerbyniol o isel o hyd o werth ychwanegol crynswth, o'i chymharu â gweddill y DU? Mae'n sefyllfa nad yw wedi gwella cymaint ag y dylai yn dilyn cylchoedd olynol o gyllid strwythurol, ac yn sicr, nid yw’n cyflawni proffwydoliaeth Rhodri Morgan, y cyn-Brif Weinidog, a ragfynegodd y byddai un cylch o’r gronfa strwythurol yn ddigon, ac y byddai gennym economi fwy cynaliadwy ledled Cymru yn y dyfodol.
A gaf i ofyn sut yr ydych yn bwriadu defnyddio cronfeydd yr UE sy'n weddill i ddatblygu economi leol fwy cynaliadwy a all gefnogi ei hun yn well yn y Gorllewin a'r Cymoedd, ac, yn wir, yng ngweddill yr ardaloedd a gefnogir? Rwyf innau, fel yr ydych chi, yn croesawu ymrwymiad cadarn Llywodraeth y DU i warantu cyllid ar gyfer yr holl gronfeydd buddsoddi a strwythurol Ewropeaidd a gymeradwywyd cyn i'r DU adael yr UE. Pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â natur y warant honno, ac yn bwysicaf oll, ynglŷn â’i hyd? Nawr, rwyf yn gwerthfawrogi, wrth gwrs, nad ydych chi, mewn sawl ffordd, yn rheoli hyn—mater i Lywodraeth y DU ydyw. Ond rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallem gael ryw syniad, cyn gynted â phosibl, o'r math o gymorth a fydd, yn y pen draw, yn disodli cronfeydd yr UE pan fyddwn yn gadael, o ran ateb y DU.
Croesawaf y ffaith bod Trysorlys y DU wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bennu sut y caiff cyllid yr UE ei wario yng Nghymru. Byddai’n rhyfedd iawn pe na byddai hynny’n wir. Cawsom ddadl yn ddiweddar ar y rhaglen lywodraethu yma, a buom yn siarad am bwysigrwydd cyflawni, felly mae cyflawni, a manteisio i'r eithaf ar yr hyn sy’n weddill o’r cronfeydd Ewropeaidd, hyd at 2020, yn dod yn bwysig iawn.
Gwnaethoch chi sôn am fonitro. A gaf i longyfarch Julie Morgan ar ei phenodiad i’w swydd newydd ar bwyllgor monitro Cymru? Rwy'n gobeithio y cewch chi fwy o lwc nag y cafodd Jenny Rathbone yn ystod ei chyfnod hi mewn swydd debyg. Nid yw'n waith hawdd, Julie, ond yr ydym yn sicr yn cydnabod ei bod yn swydd y mae’n rhaid ei gwneud.
A gaf i adleisio sylwadau cynharach Adam Price gan ddweud y byddai'n dda pe gallai’r Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd gael gwell gafael ar graffu ar wariant y cronfeydd strwythurol? Clywais y sylwadau a wnaed ynghylch lleihau nifer y cyfarfodydd. Pa un a yw’r cyfarfodydd yn fyrrach, yn hirach neu’n amlach, rwy’n credu y byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Cynulliad hwn ei hun yn craffu’n fwy ar yr hyn sy'n digwydd yn y cyfarfodydd hynny, oherwydd yn amlwg, mae swydd bwysig iawn yn cael ei gwneud, a bydd ei phwysigrwydd yn cynyddu wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod 2020 hwn. Felly, byddai’n ddefnyddiol iawn pe gallech ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu, neu sut yr ydych yn credu y gallem wella prosesau craffu, a pha un a fyddech yn fodlon i ni wneud hynny yma, er fy mod yn gwerthfawrogi ei fod yn un o bwyllgorau Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ac nid yn un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Dau gwestiwn cyflym iawn i gloi. Nid yw Horizon 2020, Ysgrifennydd y Cabinet, yn cael ei drafod yn uniongyrchol yn y datganiad heddiw, ond serch hynny mae’n agwedd bwysig iawn. Pan oeddwn ar y Pwyllgor Cyllid yn y pedwerydd Cynulliad, gwnaethom edrych ar y gwariant a oedd ynghlwm wrth raglen Horizon 2020. Byddai'n dda pe gallem gael rhywfaint o eglurder o ran sut yr ydych yn rhagweld y bydd hynny’n parhau yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Ac, yn olaf, pan edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar y cyfleoedd cyllido, roeddem yn credu bod lle i hyrwyddo’r sector creadigol yng Nghymru, ac nid wyf yn credu bod hyn wedi ei grybwyll heddiw. A wnewch chi ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu defnyddio gweddill y cyfnod hwn o gronfeydd strwythurol i gefnogi’r sector creadigol yn well yng Nghymru, gan ei fod yn sector sy’n chwarae rhan bwysig iawn wrth hybu a darparu ar gyfer economi Cymru?