Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Symudaf yn syth at y cwestiynau a godwyd gan yr Aelod. Ein cynlluniau ar gyfer defnyddio gweddill y cronfeydd Ewropeaidd sydd ar gael i ni yn ystod y rhaglen 2014-20 yw cyflawni'r rhaglen a gytunwyd ar lefel y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Roedd hyn yn cynnwys dysgu’r gwersi o gylch 2007-13. Roedd yn cynnwys sicrhau bod gennym gymysgedd briodol o bartneriaid y sector preifat, sector cyhoeddus a'r trydydd sector a chynlluniau ar y bwrdd. Roedd yn cynnwys sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y bobl hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, oherwydd dyna lle y dangosodd y rhaglen gynharach fod ymyraethau yn arwain at greu’r gwerth mwyaf. Rwy'n hapus i ddweud unwaith eto i mi groesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddai'n gwarantu’r cronfeydd strwythurol hyn ar gyfer y cyfnod 2014-20 cyfan. Dyna fesur pwysig i roi hwb i hyder ymhlith ein partneriaid. Trafodais y mater â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ystod fy nghyfarfod ag ef ar 28 Medi. Gwnaethom grybwyll bryd hynny mewn ffordd ragarweiniol iawn sut y bydd y mathau hyn o arian yn cael eu defnyddio ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
A gaf i ddweud o fy safbwynt i y bydd yn bwysig iawn sicrhau ein bod, yn ein trafodaethau â Llywodraeth y DU, yn sefydlu nifer o reolau sylfaenol pwysig? Yn gyntaf, bod cymwyseddau sydd wedi eu lleoli gyda’r Cynulliad Cenedlaethol, ond sydd wedi eu harfer drwy'r Undeb Ewropeaidd, yn dychwelyd i'r Cynulliad hwn pan nad ydym bellach yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Nid ydynt yn mynd i Lundain ac wedyn yn cael eu trosglwyddo. Maen nhw eisoes wedi eu datganoli yma a phan na fyddwn yn eu harfer mwyach drwy'r Undeb Ewropeaidd byddan nhw’n dychwelyd yma i ni eu harfer. Efallai bydd yn synhwyrol mewn rhai achosion i ail-gronni rhai o'r cyfrifoldebau hynny er mwyn i ni eu harfer ar y cyd yn y Deyrnas Unedig. Ond mae hynny'n benderfyniad i ni ei wneud yn hytrach na’i fod yn cael ei ragdybio ar ein rhan. Cyllid yr Undeb Ewropeaidd yw'r unig gyllid sydd gennym yng Nghymru a gawn ar sail yr anghenion sydd gennym yng Nghymru, a chaiff yr anghenion hynny eu cydnabod drwy lyfr rheolau, a hwnnw’n llyfr yr ydym weithiau yn ystyried ei fod braidd yn anhyblyg ac yn anodd ei ddefnyddio, ond serch hynny, mae yna lyfr rheolau a gallwn ddadlau neu gael gafael ar gyllid yn unol â’r rheolau hynny. A bydd angen system reolau arnom o ran sut yr ydym yn cyflawni'r cyfrifoldebau hyn pan fyddant yn dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Felly, mae’r Aelod yn llygad ei le i dynnu sylw at yr angen i gael y mathau hyn o drafodaethau ac i drefnu’r materion hynny, oherwydd byddant yn bwysig iawn yn y dyfodol.
O ran cyfarfodydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni, gadewch i mi ddweud unwaith eto: nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru o gwbl o ran sut y mae'r Pwyllgor yn cyflawni ei gyfrifoldebau. Nid yw’r rhaglen fonitro wedi'i sefydlu ar gais Llywodraeth Cymru. Mae'n ofyniad y cyllid strwythurol yn rhan o'n cytundeb â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n gweithredu, unwaith eto, yn unol â’r llyfr rheolau hwnnw. Rwy'n falch iawn o allu gwneud datganiad heddiw er mwyn i Aelodau allu gofyn cwestiynau a chraffu ar sut y caiff y cyfrifoldebau hyn eu cyflawni.
Mae'r pwyntiau terfynol y gofynnodd Nick Ramsay yn eu cylch yn ymwneud â Horizon 2020. Maen nhw’n cael eu cynnwys o dan yr un gwarantu a gyhoeddwyd gan y Canghellor wythnos neu ddwy yn ôl. Mae Cymru yn elwa’n dda iawn ar Horizon 2020. Erbyn mis Mehefin eleni, bu 93 o geisiadau o Gymru i Horizon 2020, a sicrhaodd gwerth £36 miliwn o gyllid ar gyfer ymchwil yng Nghymru. Felly, mae croeso mawr i’r warant honno. Mae'r sector creadigol yn chwarae ei ran mewn ystod o wahanol raglenni Ewropeaidd ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau wedi clywed yr hyn a ddywedwyd am ei bwysigrwydd yn y cyfnod sy'n weddill gennym i wneud defnydd o'r cronfeydd hynny.