5. 4. Datganiad: Cyllid yr UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 11 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:44, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Fel pawb arall, croesawaf y datganiad cyn belled ag y mae'n mynd, ac nid yw hynny’n bell iawn. Credaf fod cytundeb eang ymhlith y bobl yma a bod y cwestiynau pwysig eisoes wedi eu gofyn. Rwy’n cefnogi’r hyn a ddywedodd Adam Price a Nick Ramsay. Mae'r datganiad yn hunan-longyfarchol iawn, wrth gwrs, ac yn mynegi i ba raddau y mae’r cronfeydd hyn wedi helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu llewyrch economaidd Cymru, yng ngeiriau'r datganiad. Ond, fel y nodais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, mae’r cynnydd hwn mewn cyflogaeth wedi mynd law yn llaw â gostyngiad cymharol i gyflogau o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Roedd gen i ddiddordeb mawr i glywed yr hyn a ddywedodd Adam Price am werth ychwanegol gros o’i gymharu â rhannau eraill o Ewrop sydd mewn cyflwr tebyg i’r gorllewin a'r Cymoedd. Ymddengys i mi nad yw'r rhaglen hon mewn gwirionedd wedi perfformio cystal ag y gallai fod wedi’i wneud.

Rwyf yn croesawu, wrth gwrs, y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwarantu’r penderfyniadau gwariant sydd wedi eu gwneud ac a fydd yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod ariannu hwn, ac yn sicr rwy’n cefnogi'r hyn y mae Mr Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei ddweud am ddychwelyd cymhwysedd i'r Siambr hon ac i Lywodraeth Cymru, ar ôl i ni adael yr UE, o ran materion amrywiol na allwn eu rheoli ar hyn o bryd. Yn amlwg, am y tro, mae'r penderfyniadau gwariant sydd wedi eu gwneud yn parhau i fod yn ddarostyngedig i reolau'r UE, ond mae'n rhaid i ni gofio mai arian trethdalwyr Prydain yw’r cyfan, yn y bôn, er ei fod yn dod trwy brism yr UE. Pan fyddwn yn gadael yr UE, gennym ni a ni yn unig fydd y cyfle i benderfynu ar ein blaenoriaethau ac i wneud ein rheolau ein hunain ynghylch sut i wario’r arian hwn, yn amodol, wrth gwrs, ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i ni drwy fformiwla Barnett, rhywbeth arall y credaf y bydd yn rhaid i ni ei drafod eto, o ystyried perthynoledd yr incwm a nodais yn gynharach heddiw, ac a nodwyd gan Adam Price.

Felly, nid oes gennyf lawer iawn i’w ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd eisoes. O ran y pwyllgor monitro rhaglenni, wrth gwrs, rwyf wrth fy modd yn croesawu Julie Morgan i’w gadeirio. Wrth i ni weld dyrchafiad anhygoel cyn-Brif Foneddiges arall yr ochr draw i’r Iwerydd, pwy a ŵyr lle y gallai ei gyrfa wleidyddol ei harwain o fan hyn? Gallai Cymru, maes o law, gael menyw yn Brif Weinidog a gorau po gyntaf, ddywedwn i, yn hynny o beth.

Credaf fod y datganiad braidd yn angharedig trwy beidio â thalu teyrnged i Jenny Rathbone am ei hymrwymiad cydwybodol i'r swydd pan oedd hithau’n gadeirydd ar y pwyllgor hwn, a thybed a yw hynny oherwydd ei datganiad ei bod wedi ei diswyddo o ganlyniad i ddiwylliant ar frig Llywodraeth Cymru nad yw'n caniatáu am ddadl neu fyfyrio trwyadl ar y defnydd gorau o arian cyhoeddus.