Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch am y tri chwestiwn. Rwyf yn hapus i ymateb. Rwyf am ateb yn gyntaf eich cwestiwn am ofalwyr. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, rydym yn sôn am ofalwyr ym mhob rhan o’n gwahanol strategaethau ac nid dim ond yn yr un yma ychwaith. Maen nhw’n cael eu crybwyll yn benodol yn rhan o faes blaenoriaeth 4, ond nid dyna'r unig un o'r 10 maes blaenoriaeth lle mae gofalwyr yn berthnasol. Byddwn yn cyfeirio yn ôl at y ffaith fod gan ofalwyr hawl statudol i gael asesu a diwallu eu hanghenion gofal a chymorth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, nid yw’n ymwneud yn unig â gweld y strategaeth ar ei phen ei hun a dweud nad oes digon o sôn am ofalwyr, oherwydd ein bod yn cydnabod, ym mhob rhan o hyn, er mwyn trin y defnyddiwr gwasanaeth unigol gydag urddas a pharch, mae angen i chi hefyd ddeall y cyd-destun y mae’r gofal hwnnw yn cael ei ddarparu ynddo. Mae'r teulu a’r ffrindiau sy'n darparu’r gofal anffurfiol neu ffurfiol o'u hamgylch yn rhan o hynny. Felly, mae eu hanghenion gofal a chefnogaeth hefyd yn rhan o'r hyn y mae angen i ni eu hystyried. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhan o ble yr ydym yn gweld hyn. Nid yw'n fater bod gofalwyr wedi eu hanghofio—dim o gwbl.
Rwyf am ymdrin â'r pwynt a wnewch am hunanladdiad, oherwydd, wrth gwrs, lansiwyd ail gam 'Beth am Siarad â Fi 2: Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru 2015-2020' ym mis Gorffennaf 2015, ac mae'n cymryd ymagwedd wedi'i thargedu’n fwy na'r strategaeth flaenorol. Felly, yn arbennig, rydym yn ceisio nodi grwpiau penodol o bobl agored i niwed. Felly, ar gyfer rhywun nad yw'n mynychu apwyntiadau, mae pwyntiau risg yn hynny o beth sy’n cael eu codi mewn gwirionedd. Yr her yw rhywun sydd ddim wir yn hysbys i'r gwasanaethau—mae'n wirioneddol anodd. Mae hynny wir yn anodd ei atal. Yr her yn y fan yma yw deall y bobl hynny sydd wir o bosibl yn agored i niwed, a ddylai fod yn flaenoriaeth uwch a sut i helpu i gefnogi'r rheini. Mae hynny'n benodol yn rhan o'r strategaeth 'Beth am Siarad â Fi 2'. Roeddwn yn falch iawn, ddoe, o gael cyfle i drafod hynny gyda Samariaid Cymru, pan siaradais yn lansiad eu hadroddiad effaith yng Nghymru. Ceir llif cadarnhaol iawn o waith ac rydym mewn gwirionedd yn gweld hunanladdiadau yn lleihau yng Nghymru, nad yw'n duedd yr ydym yn ei gweld ym mhob rhan arall o'r DU. Ond does dim hunanfodlonrwydd ynglŷn â ble yr ydym ni a dyna pam mae gennym strategaeth benodol yn y maes hwn i fod yn fwy rhagweithiol o ran deall pwy sydd mewn perygl.
Yn olaf, ar eich pwynt ynglŷn â staff, mae pwynt teg yn y fan yma ynghylch cydnabod pwy yr ydym eu hangen ar gyfer gweithlu’r dyfodol i gyflawni'r amcanion sydd gennym mewn gwirionedd, a gweledigaeth yr wyf yn meddwl y byddai pobl o amgylch y Siambr hon yn credu ynddi. Mae'n ymwneud wedyn â sut yr ydym yn ei chyflawni. Ond er fy mod wedi trafod a nodi’r ystod o arian parod yr ydym yn ei wario a’r buddsoddiad ychwanegol yr ydym wedi ei wneud, y galw mwyaf ar yr adnodd hwnnw mewn gwirionedd yw cyflogau. Arian ydyw—a’r aelodau staff y mae’r arian hwnnw yn eu caffael. Felly, pan fyddwch yn gweld y cam ymlaen a wnaed yn y gwasanaeth cyn-filwyr GIG Cymru, mae hynny oherwydd bod gennym mewn gwirionedd fwy o staff i ddarparu'r gwasanaeth a dyna pam y mae amseroedd aros yn sylweddol well na rhannau eraill o'r DU sydd â gwasanaeth tebyg. Pan fyddwn yn sôn am CAMHS, mae bron y cyfan o hynny yn mynd ar gyfer staff, a dyna ble yr ydym yn gweld o'r diwedd amseroedd aros yn lleihau, oherwydd ein bod wedi cael yr adnodd o staff ar waith sydd mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â'r heriau o fewn y gwasanaeth.