Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch i chi am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Byddaf yn cadw at ymdrin â'r cwestiynau. Mae eich cwestiwn am therapïau seicolegol—nodais yn fy natganiad ac yn rhannol wrth ateb Rhun ap Iorwerth a'i gyfres o gwestiynau, wrth gwrs, fod yr arian yr ydym yn sôn amdano yn mynd i gael ei fuddsoddi yn bennaf mewn staff i ddarparu'r therapïau, a dyna'r pwynt ynglŷn â sut yr ydym yn dymuno gweld gwelliant yn ansawdd y gofal ac yn yr amseroedd aros eu hunain hefyd. Rydym yn gwybod bod angen mwy o gapasiti. Ac ar yr un pryd, fodd bynnag, nid yn unig drwy ehangu'r capasiti sydd gennym, mae angen i ni edrych—ac mae hyn yn rhan o'r cwestiwn yn CAMHS yn ogystal—a hefyd gwneud yn siŵr bod y llwybr cywir yn bodoli fel bod gan y bobl nad ydynt angen y gofal arbenigol hwnnw ffurf briodol o ofal mewn rhan arall o'r system, fel bod hynny’n golygu y gall ac y bydd pobl sydd wir angen mynediad at gymorth therapiwtig arbenigol yn ei dderbyn. Dyma pam hefyd yr ydym wedi newid safonau ein hamseroedd aros. Mae ein safonau amseroedd aros bellach yn llymach nag mewn rhannau eraill o'r DU. Rydym wedi haneru'r amser y mae'n ei gymryd mewn gwirionedd i gael gweld rhywun i gael asesiad, ac yna'r amser y mae'n ei gymryd i ddechrau ymyrraeth therapiwtig hefyd. Felly, rydym mewn gwirionedd yn symud i gael system fwy heriol, gan gydnabod bod cael gafael ar therapi pan fo rhywun angen hynny, yn aml yn fwy pwysig ac, mewn gwirionedd, rydych yn aml yn cael gwell canlyniad y cynharaf y bydd y mynediad hwnnw yn cael ei ddarparu, a dyna pam yr ydym yn gwneud y buddsoddiad sylweddol yr wyf wedi’i amlinellu eisoes.
O ran lleoliadau y tu allan i'r ardal ar gyfer plant, rydym yn glir iawn bod gennym uchelgais i weld nifer y lleoliadau—nid yn unig ar gyfer plant ond hefyd ar gyfer oedolion, yn ogystal, ond roeddech yn gofyn yn benodol am blant—yn gwella, felly mae angen i ni wneud llai o ddefnydd o’r lleoliadau preswyl hyn i blant. Rydym eisiau gweld mwy a mwy o’r gofal hwnnw’n cael ei ddarparu mewn lleoliad lleol, mewn lleoliad cymunedol, ac, yn aml, bydd y canlyniadau yn well. Mae mewn gwirionedd yn fater o pan fo gan rywun anghenion lefel uchel penodol iawn yn golygu y byddent angen lleoliad y tu allan i'r ardal, a bydd hynny’n rhan o'r gwaith y mae angen i ni ei wneud, er mwyn deall pwy sydd angen cael y lleoliad hwnnw mewn gwirionedd ac wedyn gwneud yn siŵr bod lle addas ar gael ar eu cyfer. Ac weithiau efallai na fydd hwnnw yng Nghymru—gall hynny fod y peth iawn i’r person hwnnw ei wneud, ond nid dyna'r dewis a ffefrir gennym ni nac yr un y mae gwasanaethau yn ei gydnabod y byddent yn dymuno ei gael.
O ran eich pwyntiau am y bond lles a rhagnodi cymdeithasol, bydd y Gweinidog iechyd y cyhoedd a minnau yn rhoi mwy o fanylion i Aelodau pan fydd gennym fwy o ddata i’w rhoi i chi, ac yn arbennig, ar y bond lles, sut y gallai hwnnw edrych, yr hyn y bydd yn ei olygu i gymunedau, ac, o ran rhagnodi cymdeithasol, hefyd, mae'n mynd ar draws cyfrifoldebau’r ddau ohonom, oherwydd mae llawer o hyn sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd a sut yr ydym yn cael pobl i fod yn egniol ac i ymgysylltu, a chydnabod bod llawer o hyn yn ymwneud ag ymdeimlad cyffredinol unigolyn o les, a gall rhagnodi cymdeithasol helpu hynny a helpu canlyniadau iechyd corfforol hefyd, mewn gwirionedd.
Mae gan y gymuned meddygon teulu ledled Cymru diddordeb gwirioneddol yn hyn, ac mae Dr Richard Lewis, gynt o’r BMA, sydd bellach yn arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol, yn arwain darn o waith ar hyn, ac rwy'n wirioneddol ffyddiog y bydd pobl nid yn unig yn cytuno â’r syniad, ond wedyn yn cytuno, gobeithio, â ffordd symlach o ddeall beth yw rhagnodi cymdeithasol a sut i wireddu hynny i ddinasyddion unigol a’r meddygon teulu eu hunain.
Ac, yn olaf, ynghylch Amser i Newid Cymru, mae'n mwynhau cefnogaeth drawsbleidiol. Rydym wedi parhau i'w ariannu. Byddwn yn adolygu cyflwyno Amser i Newid Cymru, yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni, a byddwn wedyn yn edrych ar yr hyn y byddwn yn ei wneud nesaf, gan fod yr ymgyrch i roi terfyn ar stigma a gwahaniaethu yn erbyn pobl ag iechyd meddwl—rydym wedi gwneud camau gwirioneddol ar sail drawsbleidiol yng Nghymru y gallwn fod yn falch ohonynt, ond ni ddylai neb gymryd arno bod hyn wedi ei gwblhau. Mae mwy i ni ei wneud o hyd, felly byddwn yn parhau i fod angen ymgysylltu â’r trydydd sector a'r cyhoedd yn gyffredinol am yr hyn y mae angen i ni ei wneud i newid y naratif ar iechyd meddwl sydd yn rhan arferol o fywyd bob dydd.