Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 11 Hydref 2016.
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad? Os caf ddechrau gyda CAMHS, rwy’n croesawu'n fawr iawn y buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i CAMHS, ac rwy'n falch iawn ein bod yn dechrau gweld rhywfaint o gynnydd, ond, fel y gwyddoch eich hun, mae rhestrau aros yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel. Roedd yn rhywbeth y tynnodd y comisiynydd plant sylw ato gerbron pwyllgor y plant yr wythnos diwethaf, ac rydym hefyd yn gwybod bod meysydd o amrywiad rhanbarthol sydd yn broblemus. A gaf i ofyn—rydym ran o'r ffordd drwy'r rhaglen erbyn hyn—sut yn union mae Llywodraeth Cymru yn monitro hyn a hefyd yn monitro unrhyw amrywiadau rhanbarthol?
Yn ystod lansiad effaith y Samariaid ddoe, dysgwyd am eu rhaglen ysgolion arbrofol, DEAL, darparu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando mewn ysgolion, sy'n ffordd o geisio gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc mewn lleoliad ysgol, ac rwy’n croesawu'r ymrwymiad yn y cynllun i edrych ar fentrau o’r fath. Ai dyna’r math o fenter y byddech yn gobeithio ei chyflwyno ledled Cymru, ac a fyddwch yn gallu trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i weld a allai hynny fod yn bosibl?
Os caf symud ymlaen at ddementia, fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn hyrwyddwr o'r angen am strategaeth dementia gydag adnoddau llawn ar gyfer Cymru. Dementia, rwy’n credu, yw’r her fwyaf y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn ei hwynebu ar hyn o bryd yng Nghymru, ac rwy’n credu y dylai fod ar yr un lefel â chyflyrau fel canser. Rwy'n falch iawn bod yr ymrwymiad i gynllun strategol dementia yn parhau i fod yn y cynllun a gyhoeddwyd gennych ddoe.
Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau, fodd bynnag. Un o'r meysydd o bryder yr wyf wedi’i nodi o'r blaen yw y bydd y mater gweithwyr cymorth, er mor dderbyniol yr ydynt, yn cael ei wneud ar sail y clystyrau meddyg teulu—lleiafrif o un gweithiwr cymorth dementia fesul dau glwstwr meddygon teulu yng Nghymru. Byddai hynny'n caniatáu cyfanswm o ddim ond 32 ledled Cymru. Hyd yn oed ar sail ein cyfraddau diagnosis presennol, er mwyn i bawb gael gweithiwr cymorth dementia byddai angen tua 370 ohonynt. Felly, hoffwn ofyn a yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn fodlon parhau i’w adolygu, ac a yw hynny'n rhywbeth y byddwch yn edrych arno ymhellach pan fydd y cynllun hwn yn mynd allan i ymgynghoriad.
Yn yr un modd â chyfraddau diagnosis, maen nhw ar hyn o bryd yn 43 y cant yng Nghymru, sef y gyfradd isaf yn y DU ar hyn o bryd. Y targed ar gyfer 2016 yw 50 y cant. Mae'r Gymdeithas Alzheimer yn credu y dylai'r ffigur fod yn nes at 75 y cant. Byddai y tu hwnt i amgyffred pe byddai 50 y cant o bobl gyda chanser yng Nghymru ddim yn cael diagnosis. Felly, a yw hynny hefyd yn rhywbeth y byddwch yn parhau i’w adolygu'n gyson, ac yn ceisio cyflwyno targedau mwy uchelgeisiol ar ei gyfer wrth i amser fynd yn ei flaen?
Yn olaf, nid yw unrhyw gynllun ond cystal â’r modd y’i gweithredir mewn gwirionedd ar lawr gwlad. Mae'r cynllun cyflawni canser wedi cael ei sbarduno gan Lywodraeth Cymru gyda llwyddiant sylweddol. A wnewch chi edrych ar ba fecanweithiau y gallwn eu rhoi ar waith i sicrhau bod y cynllun dementia yn cael ei sbarduno ar lefel uwch gan Lywodraeth Cymru? Diolch.