Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch i chi am y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am lansiad y strategaeth ddoe. Roedd yn ddiwrnod prysur i chi ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2016 gyda digwyddiadau yn Hafal, y Samariaid ac eraill. Byddwch wedi clywed, hefyd, yr araith ysbrydoledig gan Nigel Owens, yn siarad am gael gwared ar y stigma a siarad yn agored am faterion iechyd meddwl, y mae angen i ni i gyd ei wneud. A gaf fi ofyn iddo, o ran cydnerthedd cymunedol, pa ran a chwaraeir gan fentrau megis Maesteg yn dod yn dref sy’n ystyriol o ddementia, plwyf Mynydd Cynffig a rhai o'r eglwysi yn ymuno â'i gilydd i ddod yn blwyfi sy’n ystyriol o ddementia, y mudiad siediau dynion— roedd yr un gyntaf yn y DU yn Nhondu yn fy etholaeth i, ond mae nawr ym Maesteg ac yn lledaenu ledled y wlad—a gwaith hyrwyddwyr ym maes iechyd meddwl, fel Mark Williams ym Mro Ogwr, sy’n hyrwyddo iechyd meddwl amenedigol, a grybwyllir yn y strategaeth hon, a hefyd iechyd meddwl dynion yn ogystal? Onid yw’n iawn y bydd y bobl hyn a'r sefydliadau hyn yn tanategu llwyddiant y strategaeth hon?