Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 11 Hydref 2016.
Ie. Rwy'n hapus iawn i gydnabod y gyfres o gyfeiriadau a wnaethoch at eich etholaeth, lle mae gwaith gwirioneddol yn cael ei wneud. Byddwch yn cydnabod bod gennym uchelgais i Gymru fod yn genedl sy’n gyffredinol ystyriol o ddementia, ac mae hynny'n golygu mwy o gymunedau ystyriol o ddementia ac ymagwedd ehangach y mae angen inni ei chymryd fel cymdeithas. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â chydnabod bod nifer o'r problemau sy'n wynebu dynion yn ymwneud â'u hanallu neu eu hamharodrwydd i siarad neu i fod yn agored am heriau, sy'n cael eu mewnoli ac yna yn y pen draw yn mynd yn broblem fwy nag y dylai fod fel arall. Rwy'n hynod o falch o gydnabod y mudiadau gwirfoddol sy'n digwydd, gan annog dynion yn arbennig i ddod o hyd i'r lle i gael y sgwrs honno, i fod yn fwy agored ac mewn gwirionedd i gael ffordd well o ymdrin â'r heriau y bydd llawer ohonom yn eu hwynebu ar wahanol adegau yn ein bywyd.
Rwy'n falch iawn o ymdrin â'r pwynt a godwyd gennych ynglŷn â stigma, ac nid dim ond Nigel Owens—mae pwynt ehangach yma am y byd chwaraeon, lle mae cyfle mewn gwirionedd i estyn allan, nid yn unig at ddynion, ac i gydnabod pobl sy'n cyflawni ar lefel uchel a'r heriau y maen nhw’n eu hwynebu, ac iddynt fod yn agored i siarad am eu profiadau eu hunain, ac am sut y gall hynny fwydo i mewn i chwaraeon yn y gymuned ar gyfer dynion a menywod, hefyd. Felly, mae llawer i ni fod yn gyffrous amdano, ac i harneisio’r manteision y gallwn eu cael ar gyfer yr holl wahanol rannau hynny o'n cymuned a'r cyrhaeddiad gwahanol sydd gan wahanol bobl, oherwydd weithiau nid yw'r neges yn cael ei chyflwyno'n fwyaf effeithiol gan wleidydd.