Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 11 Hydref 2016.
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad? Yn naturiol, mater pwysig iawn—band eang cyflym iawn. Mae wedi bod yn destun nifer o sylwadau gan bobl yn fy ardal i. Yn naturiol, rydym ni’n croesawu bod yna gynnydd yn y gwaith gerbron, ac wrth gwrs rydym ni wedi cael darpariaeth gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r sefyllfa fesul sir yn ogystal. Wrth gwrs, fel y mae’r Gweinidog wedi dweud eisoes, mae’r prosiect yma wedi bod yn hir ac yn gymhleth ac erys sawl her i’w datrys.
Rhai o’r rheini—o edrych ar y tabl o’r ddarpariaeth mynediad i fand eang yn ein gwahanol siroedd ni, rŷm ni’n gweld, yn llefydd fel Ceredigion, mai dim ond 60 y cant o’r tai sydd â mynediad i fand eang yng Ngheredigion. Ym Mhowys, nid yw’r sefyllfa fawr gwell: 65 y cant, yn y fan honno, o dai sy’n cael mynediad i fand eang cyflym iawn. Buaswn i’n gobeithio, pan fydd yr adolygiad yma’n dod i weld faint o waith sydd yn dal i’w wneud—fel rydych chi’n ei ddweud yn fan hyn, yn 2018 ac ymlaen o hynny—y bydd yna adolygiad o’r niferoedd o’r cartrefi yn ein hardaloedd mwyaf gwledig ni sydd yn cael problemau ar hyn o bryd o ran cael mynediad i fand eang, achos mae o’n fater i’w resynu braidd bod y ffigurau yna mor isel yn y siroedd yna, o gysidro bod yna gynnydd da iawn mewn llefydd eraill.
Yn troi at yr ochr fusnes i bethau, yn naturiol, mae’n dda i ddweud, dros y blynyddoedd, fod BT wedi cael arian sylweddol o gronfeydd Ewropeaidd, felly, o ERDF—rhywbeth fel £250 miliwn dros y blynyddoedd. Mae busnes yn deall bod angen buddsoddiad fel yna, ond hefyd beth na all busnes ei weld—y rheini sydd wedi bod yn siarad efo fi, ta beth—ydy bod eu costau nhw fel busnes hefyd wedi dyblu ac yn gallu bod yn uchel iawn, jest er mwyn iddyn nhw gael mynediad i fand eang cyflym iawn. Nawr, rwy’n deall bod hynny, wrth gwrs, y tu allan i unrhyw fuddsoddiad y mae’r Llywodraeth yma’n ei wneud i gynllun Superfast Cymru, ond dyna beth sy’n pryderu busnesau allan yn y fan yna. Rwyf wedi cael sawl cyfarfod dros y misoedd diwethaf ynglŷn ag argaeledd band eang cyflym iawn, a phan mae o’n dod gerllaw, y gost gynyddol i’r busnes—maen nhw’n gorfod talu lot amdano fo. I’r perwyl yna, buaswn i’n gofyn i’r Gweinidog, yn ogystal â’r diweddariad ar y pwyntiau ar sut rydym ni’n mynd i wella’r sefyllfa yng Ngheredigion a Phowys i bobl yn yr ardaloedd hynny, a fyddai’r Gweinidog yn fodlon cyfarfod â rhai arweinyddion busnes sydd wedi bod yn dwyn eu cwynion lleol i mi yn ardal Abertawe, un o’r dyddiau yma, er mwyn i ni allu rhoi sicrwydd i’n busnesau ni sydd yn dibynnu yn gynyddol ar y dechnoleg yma, fod yna sicrwydd am y ffordd ymlaen ynglŷn â’r ddarpariaeth ac ynglŷn â’r costau. Diolch yn fawr.