Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 11 Hydref 2016.
Felly, ar eich pwynt cyntaf, wrth gwrs nid gwledig yn unig yw hyn, dim ond bod y rhan fwyaf o ardaloedd lle nad oes cyflwyno masnachol yn wledig. Ond rydych yn gywir i nodi lle yn eich etholaeth eich hun lle na fu cyflwyniad masnachol, er, yn rhyfedd, mae triongl yng nghanol Abertawe nad oedd ganddo hynny ychwaith. Ond mae’n rhyw fath o gyffredinolrwydd ei fod, ar y cyfan, lle nad oes crynhoad o boblogaeth.
O ran y ffermwyr, mewn gwirionedd mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau eisoes wedi siarad am gael data am faint o ffermwyr sydd heb eu cysylltu yng Nghymru. Nid yw’r data hynny gennym mewn gwirionedd, oherwydd nid dyna sut yr ydym yn eu casglu, ond rydym yn gwneud darn o waith ar hyn o bryd i gael y data ar union faint o ffermwyr nad ydynt wedi eu cysylltu. Nid oes gennym y data i wybod hynny. Ond byddwn yn dweud hyn: yn gyntaf oll, mae pawb wedi ei gynnwys yn y broses o gyflwyno, ac mae blwyddyn arall i fynd, fel yr wyf wedi ei ddweud, ar gyfer pawb arall. Hefyd, mae gennym y ddau gynllun, y cynllun Allwedd Band Eang Cymru a'r cynllun cysylltedd gwibgyswllt, felly os yw pobl eisiau buddsoddi ynddo yn awr, gallant wneud hynny, ac fe wnawn ni eu helpu. Ceir graddfa symudol o ran faint o arian y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i’w helpu â hynny, yn dibynnu ar ba welliannau yn eu cyflymder cysylltu y maent yn eu cael.
Rwy’n cydnabod y problemau yr ydych yn sôn amdanynt, ac maen nhw gan bawb, a dyna pam yr ydym am i bobl fanteisio arno. Felly, dyna pam mae gennym y cynlluniau hynny. Rydym hefyd yn gweithio gyda chymunedau i ddod at ei gilydd fel y gallant eu cael fel cynllun cymunedol yn ogystal.
O ran pam nad ydym yn mynnu bod BT yn gwneud hynny, yr ateb syml i hynny yw oherwydd nad yw yn y contract. Roedd yn gontract a gafodd ei dendro a wnaed drwy gaffael Ewropeaidd. Mae'r contract fel ag y mae. Dyna’r hyn y gwnaeth BT dendro amdano. Enillon nhw'r contract. Tendrodd Airband ar gyfer y 2,000 o safleoedd busnes, ac enillon nhw'r contract hwnnw, felly maen nhw’n rhoi eu technoleg i mewn iddo.
Mae ein cynlluniau gwibgyswllt ac ABC, fodd bynnag, yn defnyddio unrhyw dechnoleg sydd ar gael i gyrraedd y safle. Felly, ni fydd y 4 y cant olaf yr wyf bob amser yn siarad amdano yn ôl pob tebyg yn ffibr cebl. Gallai fod, ond mwy na thebyg na fydd—bydd yn fwy na thebyg yn lloeren neu’n dechnolegau digidol eraill. Ni ddylid drysu rhwng hynny â'r broses o gyflwyno 4G a 5G a'r seilwaith symudol, nad ydynt wedi'u datganoli i Gymru. Er fy mod yn cael cyfarfodydd cyson gyda gweithredwyr rhwydwaith ffonau symudol, nid oes gennyf unrhyw bŵer drostynt, felly rydym yn syml ond yn eu hannog i wneud eu gorau ac yn rhoi llawer o bwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod gennym signal daearyddol yng Nghymru yn ogystal â signal o ran poblogaeth.