Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 11 Hydref 2016.
Fy nealltwriaeth i, Weinidog, yw nad oedd hwn yn gontract i gysylltu cymunedau gwledig yn unig, oherwydd rwy’n cofio fod man gwan Penylan yn fy etholaeth i yn un o fuddugoliaethau cynnar y contract hwn. Gan nad ydynt bellach yn fy nhrafferthu i ynglŷn â’r mater hwn, gallaf gymryd yn ganiataol eu bod yn awr yn bobl hapus iawn.
Ond yn ddiweddar, ymwelais, gyda'r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, â Cheredigion—yn ystod y bythefnos diwethaf—ac roedd ffermwyr yno yn bryderus iawn nad oedd ganddynt fawr o gysylltedd o gwbl, sydd, ar gyfer cymunedau gwledig, yn broblem enfawr. Mae sut mae disgwyl iddynt redeg eu busnes a chyflwyno eu cynigion taliad sylfaenol ar-lein pan nad oes ganddynt mewn gwirionedd unrhyw gysylltiad yn eu cartrefi yn amlwg yn broblem fawr ar gyfer eu busnesau, yn enwedig pan fydd technoleg newydd yn cael ei defnyddio fwyfwy i alluogi ffermwyr i fod yn fwy effeithlon. Er enghraifft, yn Seland Newydd rwy’n deall eu bod yn defnyddio technoleg synhwyrydd mesurydd porfa i archwilio pob blewyn o laswellt ar dir pobl i sicrhau eu bod yn cyfeirio eu hanifeiliaid i’r darn iawn o laswellt. Felly, rydym yn amlwg yn mynd i fod angen y math hwnnw o dechnoleg yn y dyfodol yma yng Nghymru, gyda'r holl heriau a ddaw yn sgil Brexit.
Felly, rwyf braidd yn aneglur pam mae’r ffaith nad yw technoleg ddi-wifr wedi'i datganoli mewn rhyw ffordd yn ein hatal rhag mynnu gyda BT eu bod, yn yr ail gytundeb hwn, yn defnyddio'r cysylltiadau di-wifr sydd ganddynt erbyn hyn, ers iddynt gymryd EE drosodd, oherwydd mae'n hollol glir ei bod yn mynd i fod bron yn amhosibl cysylltu pob fferm anghysbell unigol ym mhob rhan o Gymru, neu mae'n mynd i fod yn hynod ddrud. Does bosib nad yw technoleg ddi-wifr yn mynd i fod yn ffordd llawer mwy effeithlon o wneud hynny. Ond mae technoleg wedi symud ymlaen cymaint yn y pum mlynedd diwethaf, ers i chi lofnodi contract gyda BT, fel ei bod yn ymddangos ein bod mewn perygl o golli cyfle. Nid wnaethoch sôn yn eich datganiad bod rhyngrwyd cymunedol Airband yn darparu atebion di-wifr ar gyfer tua 2,000 o safleoedd busnes. Pam, felly, nad yw'n bosibl i fynnu gyda BT eu bod yn defnyddio atebion di-wifr i gysylltu'r cymunedau mwy anghysbell? Byddai hynny'n eu galluogi i gael eu cysylltu yn llawer cyflymach, ac yn amlwg nid ydynt yn mynd i fod yn gallu rhedeg y busnesau gwledig hyn yn y dyfodol oni bai eu bod wedi eu cysylltu. Felly, byddwn yn ddiolchgar am rywfaint o arweiniad ar hynny.