Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 11 Hydref 2016.
Weinidog, rwy’n meddwl ei bod yn amlwg iawn—yn wir rwy’n credu y byddai pob Aelod yma, gobeithio, yn cytuno â hyn—fod camddealltwriaeth yn aml yn digwydd ac yn achosi problemau pan nad oes gennym y lefel o integreiddio y gallai fod gennym yn ein cymunedau, ac nid ydym yn ddigon effeithiol wrth ddod â gwahanol rannau o'r gymuned at ei gilydd. Yn sicr, yn fy mhrofiad i, o gael fy ngeni a'm magu yn y Pil yng Nghasnewydd, cymuned amlethnig iawn, mae'n ychwanegu llawer iawn i brofiad bywyd, tyfu i fyny mewn cymuned o'r fath, oherwydd mae amrywiaeth mor fawr o ddiwylliant, cerddoriaeth, dawns, bwyd, ac mae'n wirioneddol addysgiadol a diddorol i siarad â phobl eraill am eu cefndiroedd, eu cefndiroedd teuluol a rhannau o'r byd y maent yn gwybod llawer amdanynt. Felly, rwy’n credu bod dwyn pobl at ei gilydd o wahanol rannau o'r gymuned yn cyfoethogi bywyd yn fawr, dyna yw eu barn nhw, yn gyffredinol, ond efallai na wneir digon i geisio cyflawni’r integreiddio hynny a dod â gwahanol rannau o'n cymdeithas at ei gilydd.
Pan fo gennym ddulliau effeithiol o wneud hynny, rwy’n credu y dylem eu dathlu a’u datblygu. Yn hynny o beth, hoffwn sôn am ŵyl Maendy yng Nghasnewydd, sydd ers nifer o flynyddoedd, wedi gwneud gwaith da iawn wrth ddod â gwahanol rannau o gymuned amlethnig Maendy at ei gilydd. Mae cymunedau Asiaidd sylweddol ym Maendy, llawer o newydd-ddyfodiaid o'r Undeb Ewropeaidd, dwyrain Ewrop a thu hwnt, cymunedau o India’r Gorllewin, a llawer o rai eraill. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n ychwanegol at bobl o Iwerddon—a fy mam fy hun, fel y perthynas a grybwyllwyd gan Darren Millar, a ddaeth draw i Gasnewydd o Iwerddon. Felly, mae llawer iawn o bobl o wahanol gefndiroedd yn dod at ei gilydd, ac mae Gŵyl Maendy wir yn caniatáu i bobl ddod at ei gilydd ac i’r integreiddio hwnnw ddigwydd.
Felly, hoffwn dalu teyrnged i drefnwyr Gŵyl Maendy. Ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, maen nhw wedi datblygu ar y digwyddiad cychwynnol. Mae gorymdaith bob blwyddyn, bob haf, ac mae gŵyl yn dilyn. Mae'n gyfuniad o gerddoriaeth, dawns, bwyd a diod, celf a diwylliant yn gyffredinol, ac mae'n llwyddiannus iawn, iawn. Wrth gwrs, nid yw'n digwydd heb lawer o waith, ac mae'r gwaith o drefnu digwyddiad y flwyddyn nesaf yn dechrau yn syth ar ôl i’r ŵyl ddod i ben, yn ystod yr haf. Felly, tybed a allai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y mae’n gweithio, nid yn unig gyda Gŵyl Maendy, ond gyda sefydliadau tebyg ar hyd a lled Cymru sy'n trefnu digwyddiadau o’r fath, fel y gellir eu datblygu ymhellach a'u gwneud yn fwy effeithiol fyth. A hoffwn wahodd y Gweinidog i Ŵyl Maendy yr haf nesaf yng Nghasnewydd. Byddwn yn falch iawn pe byddai’n derbyn y gwahoddiad hwnnw wrth iddo gyfrannu ar y ddadl hon yn nes ymlaen.