Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 11 Hydref 2016.
Mae UKIP yn cefnogi’r cynnig a'r gwelliannau, ond ar ddechrau fy nghyfraniad byr, hoffwn ymdrin â’r myth yr ydym wedi ei glywed sawl gwaith yn y ddadl heddiw ynghylch dylanwad Brexit ar nifer yr achosion o droseddau casineb. Wel, does dim pwynt mynd yn ôl dros y dadleuon ar y niferoedd yn syth ar ôl y refferendwm, oherwydd bod Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu wedi rhyddhau data ar gyfer y cyfnod ers y refferendwm, hyd at ddiwedd mis Awst. Mae Mark Hamilton—dim perthynas—prif gwnstabl cynorthwyol yn dweud,
‘Rydym wedi gweld gostyngiadau parhaus yn yr adroddiadau am droseddau casineb i heddluoedd ac mae’r adroddiadau hyn bellach wedi dychwelyd i lefelau a welwyd yn flaenorol yn 2016. Am y rheswm hwn, byddwn yn dychwelyd at ein gweithdrefnau adrodd blaenorol ac ni fyddwn bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’r heddluoedd ddarparu diweddariadau wythnosol.’
Felly, os oedd cynnydd sydyn yn syth ar ôl y refferendwm, mae wedi diflannu.