Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch. Roeddwn i'n mynd i ddweud nad ydych chi’n cyfeirio at ffigurau sy'n benodol i Gymru, rwy’n tybio. Un peth yr ydym yn ei wybod yw y bu cynnydd sydyn ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae pethau wedi arafu rhywfaint, fel y dywedais yn fy araith yn gynharach. Dyna’r wybodaeth a adroddwyd sy'n dod yn ôl atom ni. Ond, mae'n rhaid i chi dderbyn bod rhai pobl, nid llawer, wedi defnyddio sefyllfa Brexit i danio casineb rhwng cymunedau yng Nghymru, ac nid oedd hynny'n dderbyniol.