Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 11 Hydref 2016.
Rwy’n croesawu safbwynt Llywodraeth Cymru o roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â throseddau casineb, a pharhau i arddel ymagwedd dim goddefgarwch, fel y dylai pob un ohonom, tuag at droseddau casineb. Mae'n briodol bod y fframwaith mynd i’r afael â throseddau a digwyddiadau casineb yn cwmpasu troseddau casineb o bob math, gan gynnwys hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd ac oedran. Ni all fod unrhyw hierarchaeth o gasineb ac mae’n rhaid i ni fod yn gwbl benderfynol wrth fynd i'r afael â’r holl droseddau o'r math hwn. Yr her i ni yw sicrhau bod y bwriadau a'r canllawiau yn y fframwaith yn trosi’n gamau gweithredu cadarnhaol a newid mewn bywyd go iawn i bobl yn ein cymunedau ledled Cymru. Mae gan bob un ohonom mewn bywyd etholedig a chyhoeddus gyfrifoldeb a dyletswydd gofal o ran sut yr ydym yn cynnal ein hunain a'r ffordd yr ydym yn dewis cyfathrebu. Mae gan yr hyn sy’n eiriau’n unig i un person y potensial i achosi poen ac, mewn rhai achosion, ysgogi casineb mewn un arall.
Cefais fy nychryn, ond yn anffodus nid fy synnu, i gael gwybod dros y penwythnos am gynnydd mewn ymosodiadau homoffobaidd ers pleidlais refferendwm yr UE ym mis Mai. Mae ffigurau a ryddhawyd gan yr elusen Galop yn dangos bod ymosodiadau homoffobaidd wedi cynyddu 147 y ymhlith y bobl a holwyd yn yr un cyfnod o dri mis yn dilyn pleidlais Brexit eleni o'i gymharu â'r un adeg y llynedd. A dim ond y bobl a holwyd yw hyn, y bobl a oedd yn teimlo eu bod yn gallu rhannu eu profiadau. Gallai'r gwir ffigurau fod hyd yn uwch fyth—