8. 7. Dadl: Mynd i’r Afael â Throseddau Casineb — Cynnydd a Heriau

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 11 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:14, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Nid wyf i’n siŵr pa un a fydd gwerth gwneud, Lywydd, ond, serch hynny, dywedais yn fy araith nad yw troseddau casineb i gael eu cymeradwyo na’u goddef o gwbl ac y dylid cosbi’r rhai sy’n gyfrifol yn ddifrifol. Y cyfan y gwnes i oedd cyfeirio at y ffigyrau yn yr adroddiad, y cyfeiriodd y Gweinidog ei hun ato yn ei araith, a’u gwneud yn destun craffu ystadegol. Beth sydd o'i le ar hynny?