Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 11 Hydref 2016.
Ie, wel rwy’n ddiolchgar am yr ymyriad gan yr Aelod. Gadewch i mi atgoffa'r Aelod o'r ystadegau hyn: roedd 1,574 yn ymwneud â hil; 319 yn ymwneud â rhywioldeb; 240 ag anabledd; 90 â chrefydd; a 25 â thrawsrywedd. Dyma’r niferoedd ‘bach’ y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt o ran u gyfran fach o droseddau casineb. Gadewch i mi atgoffa'r Aelod hefyd am y refferendwm, gan ei fod hefyd yn diystyru’r posibilrwydd bod y refferendwm wedi cael unrhyw effaith o gwbl ar droseddau casineb. Yn wyneb y cynnydd diweddar mewn hiliaeth yn dilyn canlyniadau refferendwm yr UE, mae'n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio i fynd i'r afael â’r anoddefgarwch hwn. Yn y mis yn dilyn refferendwm yr UE—ni all yr Aelod wadu’r rhain; maen nhw’n ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref—bu cynnydd o 72 y cant yn nifer yr atgyfeiriadau i’r ganolfan genedlaethol ar gyfer adrodd a rhoi cymorth ar droseddau casineb a ariennir gan Lywodraeth Cymru, o gymharu â'r atgyfeiriadau yn 2015. Yr unig beth cyffredin a ddigwyddodd oedd refferendwm yr UE. Ni allwch ddadlau â’r rhaglen honno.
Gan fod yr Aelod bellach yn arweinydd ar raglen UKIP, efallai yr hoffai, pan soniodd am bobl sy'n awgrymu bod UKIP yn denu pobl hiliol i’w rengoedd ac ati—efallai yr hoffai’r arweinydd yn awr gyfeirio yn ôl at adroddiad yn y cyfryngau lle mae un o'i Aelodau ef, aelod presennol, yn beio lleiafrifoedd ethnig am y problemau sbwriel a hylendid yma yng Nghaerdydd. Nawr, beth y mae’r Aelod am ei wneud ynglŷn â hynny yn ei ddatganiad ar droseddau casineb?
Gadewch i mi atgoffa Aelodau—mae hon yn ddadl bwysig i’w chael yn ystod wythnos troseddau casineb cenedlaethol, a dylem ni i gyd ddod at ein gilydd i sicrhau gwlad groesawgar i bawb. Rwy'n gobeithio y bydd Neil Hamilton a Michelle Brown yn myfyrio ar eu sylwadau heddiw ac yn ystyried eu goblygiadau ar gyfer y cymunedau ehangach y maen nhw’n eu cynrychioli yma yn awr. Rwy'n falch o gael y cyfle i siarad ynglŷn â’r materion hyn yn ystod wythnos troseddau casineb ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau o bob plaid i fynd i'r afael â chasineb o bob math, ni waeth ble y mae’n digwydd.