Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, ar 4 Hydref, rhoddwyd gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru am arllwysiad cerosin o'r biblinell wrth ochr yr A48 ger Nantycaws.
Yn syth ar ôl y digwyddiad, defnyddiodd y gwasanaeth tân ac achub freichiau cyfyngu arllwysiad olew mewn argyfwng ar Nant Pibwr a sefydlodd Cyfoeth Naturiol Cymru ganolfan gydgysylltu aml-asiantaethol. Roedd contractwyr glanhau arbenigol a gyflogir gan y gweithredwr, Valero, ar y safle erbyn prynhawn dydd Mawrth i ddechrau ar y gwaith o gael gwared ar yr olew o’r nant. Yn ôl Valero, amcangyfrifwyd bod 140,000 litr wedi dianc o biblinell y brif linell. Fodd bynnag, mae dros ddwy ran o dair o hyn wedi ei glirio erbyn hyn gan gontractwyr arbenigol Valero. Mae cyfres o freichiau cyfyngu arllwysiad olew yn parhau i fod ar waith wrth gael gwared ar yr olew. Mae Valero a'i gontractwyr yn cynnal yr ymateb glanhau gyda chyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â monitro’r effeithiau amgylcheddol posibl, ynghyd â Dŵr Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Gaerfyrddin. Mae pobl wrth gwrs yn pryderu am eu dŵr yfed. Mewn erthygl ddoe yn y ‘Western Mail’ am yr arllwysiad cerosin yn Nantycaws, dywedwyd yn anghywir bod Dŵr Cymru wedi cadarnhau ddydd Gwener bod effaith ar gyflenwadau dŵr, pryd y dylai fod wedi dweud eu bod wedi cadarnhau nad oedd unrhyw effaith ar gyflenwadau dŵr cyhoeddus. Camgymeriad oedd hwn, a chysylltodd Dŵr Cymru â’r golygydd ddoe i gywiro hyn cyn gynted ag y bo modd, ac argraffwyd y cywiriad yn rhifyn heddiw o’r papur newydd. Rwyf ar ddeall bod yr holl gyfryngau perthnasol eraill wedi cael gwybod mai camgymeriad ar ran y papur newydd oedd hwn a rhoddodd Dŵr Cymru neges hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn lliniaru unrhyw lefelau pryder diangen.
Nid yw pedwar o'r 12 eiddo lleol sy'n tynnu dŵr o gyflenwadau preifat yn yr ardal gyfagos yn defnyddio eu cyflenwadau am y tro fel rhagofal. Mae Dŵr Cymru wedi darparu dŵr potel a bydd yn parhau i wneud hynny ar gais. Mae Dŵr Cymru hefyd wedi cynnig cysylltu’r eiddo hynny dros dro i'r rhwydwaith cyflenwad dŵr cyhoeddus. Mae un eiddo wedi derbyn y cynnig hwn. Cynghorwyd lleill i gysylltu â swyddog cyswllt Valero a fydd wedyn yn cydgysylltu â Dŵr Cymru ar eu rhan os byddant yn dymuno cae eu cysylltu â’r cyflenwad dŵr.
Cynhaliwyd arolygon ecolegol cychwynnol ar yr afon i asesu arwyddocâd niwed lleol i ecoleg yr afon a chynhaliwyd asesiad o farwolaeth pysgod hefyd. Ymddengys bod yr effeithiau ecolegol wedi eu cyfyngu i adran fach o Nant Pibwr ac nid oes unrhyw arwydd o effaith arwyddocaol i lawr yr afon ar Afon Tywi.
Bydd gwaith ar y safle i fonitro ac adfer yr effaith tymor hwy bosibl yn parhau, a bydd nifer o dyllau turio yn cael eu drilio o amgylch y pwynt rhyddhau er mwyn gallu monitro'r effeithiau ar ddŵr daear. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor ar y tywydd a hydroleg ac yn goruchwylio'r cynigion ar gyfer adfer a gyflwynwyd gan y gweithredwr.
Ddydd Sadwrn ymwelais â Nantycaws i weld y gwaith sy'n cael ei wneud i leihau effeithiau'r arllwysiad olew fy hun. Cyfarfûm ag Emyr Roberts, prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, a'i dîm lleol, a diolchais i staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y ganolfan digwyddiadau yn Cross Hands am eu gwaith o gydgysylltu'r ymateb. Cyfarfûm hefyd ag uwch gynrychiolwyr a chontractwyr y gweithredwr, Valero, i weld y gwaith adfer yr oedden nhw wedi ei roi ar waith.
Er y dylai digwyddiad o'r fath gael ei atal yn y lle cyntaf, wrth gwrs, rwyf yn fodlon ar yr ymateb a’r ymdriniaeth o’r digwyddiad. Mae cyflymder yr ymateb wedi cyfyngu lledaeniad y cerosin ac wedi osgoi effeithiau ehangach. Rwyf yn cael diweddariadau rheolaidd ar y sefyllfa a byddaf yn parhau i fonitro cynnydd.
Er mwyn i Valero osod piblinell newydd, bydd yn anffodus yn angenrheidiol cau’r A48 i'r ddau gyfeiriad o fin nos 14 Hydref tan yn gynnar dydd Llun 17 Hydref. Bydd yr holl draffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd y ffordd dargyfeirio traffig swyddogol trwy Langynnwr. Er fy mod yn cydnabod y bydd hyn yn peri anghyfleustra i bobl a busnesau yn y gorllewin, dylai cau’r ffordd ar y penwythnos leihau'r effaith ar y cyhoedd sy'n teithio a chaniatáu i’r gwaith angenrheidiol gael ei gwblhau yn gyflym i adfer y biblinell a selio’r rhan dan sylw.
Ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y rheoleiddwyr perthnasol, yn ymchwilio i achos y toriad i’r biblinell a'r digwyddiad o lygredd yn y drefn honno, ac yn cymryd camau priodol o dan eu pwerau.