<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:35, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr eglurhad hwnnw. Wrth gwrs, mae un set o reoliadau y mae Llywodraeth Cymru yn edrych arni yn ymwneud â pharthau perygl nitradau. Nawr, ni fyddwch yn synnu fy mod wedi cael cryn ohebiaeth ar y mater hwn, a bod pryderon difrifol ynglŷn â’r cynigion hyn a allai osod beichiau enfawr ar ffermwyr ac a allai, o ganlyniad i hynny, orfodi llawer ohonynt allan o fusnes oherwydd y goblygiadau ariannol, a bydd ffermwyr yn ystyried hyn yn ergyd arall i’r gymuned amaethyddol. Rwy’n sylweddoli bod y cynigion hyn ar gam ymgynghori ar hyn o bryd, ond sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r ffermwyr yr effeithir arnynt er mwyn sicrhau eu bod yn deall cost ac effaith y rheoliadau hyn ar eu busnesau, ac a wnewch chi gadarnhau pa un a fydd unrhyw gymorth ariannol ar gael i ffermwyr a fydd yn wynebu costau ychwanegol o ganlyniad i gydymffurfio ag unrhyw reoliadau newydd?