Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 12 Hydref 2016.
Mae’r Aelod yn gywir—rydym yn amlwg yn ymgynghori ar hyn o bryd. Yn wir, ddydd Llun diwethaf, 10 Hydref, cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn Sir Benfro i drafod hyn, gyda ffermwyr lleol o Sir Benfro hefyd, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi clywed ei fod yn gyfarfod cadarnhaol iawn. Credaf fod ffermwyr yn awyddus iawn i ystyried y ffordd orau o atal gormod o lygredd nitrad mewn dyfrffyrdd, ac roeddent yn hapus iawn i gyflwyno eu barn. Yn amlwg, bydd yr holl safbwyntiau yn cael eu hystyried. Felly, rwy’n falch iawn eich bod wedi derbyn cryn dipyn o ohebiaeth, a byddwn yn annog eich etholwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.