Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n ddiolchgar i chi am yr ateb hwnnw, ond rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi y gall rheoliadau, mewn rhai achosion, fod yn rhwystr i arferion ffermio effeithlon a thwf busnes. Felly, yng ngoleuni adroddiad ‘Hwyluso’r Drefn’ y Llywodraeth flaenorol, a wnewch chi ymrwymo i werthuso’r costau sydd ynghlwm wrth reoliadau ffermio yng Nghymru ac edrych ar ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru leddfu’r rheoliadau, a thrwy hynny ostwng eu cost i ffermwyr, cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd?