<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:41, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, am gofnodi ei chadarnhâd o leiaf fod y targed 40 y cant yn dal yno, gan nad oedd yn rhan o’r rhaglen lywodraethu. Ond fe fydd hi’n gwybod bod adroddiad diweddar Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn dweud ein bod, yn anffodus, yn annhebygol iawn o gyrraedd ein targed i leihau 40 y cant, ac nid wyf yn siŵr sut y gallwn wneud hynny o dan Ddeddf yr amgylchedd gan nad yw’r cyfnod o amser ar gyfer pennu cyllidebau carbon dros dro, a fydd yn ddull pwysig o gyrraedd y targed hwnnw, i fod i ddod i ben tan 2018. Felly, o ystyried nad oes gennym unrhyw fath o gynllun i leihau allyriadau ac o ystyried ei bod hi newydd ddweud wrthyf nad oes ganddi unrhyw fanylion o’i blaen, sut y gallwn fod yn ffyddiog y bydd y targed hwnnw ar gyfer 2020 yn cael ei gyflawni?