Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 12 Hydref 2016.
Wel, nid yw popeth yn y rhaglen lywodraethu, dylwn ddweud hynny, ond mae’r targed hwnnw’n parhau. Ond mae’n anhygoel o anodd, ni fyddwn yn oedi rhag dweud hynny. O ran y gyllideb garbon, rwy’n cyfarfod â fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet ar hyn o bryd i drafod sut y mae pob un o’u portffolios, ar draws y Llywodraeth, yn helpu i leihau ein hallyriadau. Mae’r broses o gyllidebu carbon yn bwysig iawn, ac rydym yn amlwg wedi dechrau ar y gyntaf o’r cyllidebau hynny, ond mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo ac rwyf am dawelu meddwl yr Aelod.