Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n falch iawn o gael siarad yn y ddadl bwysig yma heddiw. Rwyf am ganolbwyntio ar sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gallu helpu o safbwynt gofal iechyd meddwl, ond hefyd sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gallu cael effaith andwyol yn y maes yma. Gan ddechrau efo’r gwasanaeth iechyd, yn anffodus rydym yn cynnal y ddadl hon tra bod ymchwiliad arall yn digwydd i ofal iechyd meddwl yn ardal Betsi Cadwaladr. Mae’n bwysig cofio pam y bu i’r bwrdd fynd i fesurau arbennig, er gwaethaf gwaith rhagorol y rhan fwyaf o’r staff rheng flaen. Roedd sgandal Tawel Fan yn erchyll, ac mae’n dangos yr angen clir i wella’r ffordd y mae cleifion iechyd meddwl yn cael eu trin o fewn yr NHS.
Mae yna ddiffyg gwasanaethau yn y gogledd, a diffyg gwlâu yn sicr. Mae hyn wedi arwain at sefyllfa lle, rhwng Ebrill a Gorffennaf y flwyddyn yma, dros gyfnod o ddim ond pedwar mis, fe anfonwyd 91 o gleifion o ardal Betsi i Loegr i dderbyn triniaeth—91, a hynny ar gost o bron £1 miliwn, heb sôn am yr effaith ar yr unigolion. Wythnos diwethaf hefyd, cafwyd hanes un claf a oedd wedi derbyn triniaeth yn ardal Betsi eisoes, ond yn gorfod mynd wedyn i dderbyn triniaeth yn Essex oherwydd prinder gwlâu, gan fod uned Hergest ym Mangor yn llawn. Yn wir, mae’r uned honno wedi bod yn llawn bob mis heblaw am un ers mis Hydref y flwyddyn diwethaf.
Mae hyrwyddo iechyd meddwl da yn gyfrifoldeb i bob un o’r gwasanaethau cyhoeddus, ac mae pob gwasanaeth yn gallu cyfrannu at hyn. Er enghraifft, mae angen i adrannau cynllunio ac amgylcheddol hyrwyddo mynediad at lefydd gwyrdd, agored, ac i deithio llesol, sef y pwnc y buom yn ei drafod yn gynharach. Mae yna dystiolaeth bendant fod mynediad at fannau gwyrdd, hyd yn oed o fewn ein dinasoedd, yn cael effaith bositif ar iechyd meddwl. Fe wnaed astudiaeth gan ysgol feddygol Exeter a oedd yn profi hyn, ac mae yna astudiaeth a wnaed yn yr Iseldiroedd, drwy holi dros 300,000 o bobl, yn dangos nifer o bethau—er enghraifft, bod cysylltiad positif rhwng llai o salwch meddwl a mwy o lefydd gwyrdd. Roedd y cysylltiad cryf ar gyfer anhwylder pryder ac iselder, ac roedd y cysylltiad cryfaf ar gyfer plant a phobl o statws economaidd-gymdeithasol is.
Mae gan y gwasanaethau cyhoeddus hefyd ddyletswydd i ofalu am eu gweithwyr eu hunain. Mae straen yn fwy o broblem mewn meysydd sector cyhoeddus fel addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn. Mae aelodau’r gwasanaethau brys yn wynebu risg hyd yn oed yn fwy, ond eto maent yn llai tebygol o chwilio am help. Ond, o’r holl wasanaethau cyhoeddus sydd angen codi eu gêm, mae un gwasanaeth yn sefyll allan ac angen ei feirniadu yn galed, sef yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r ganolfan waith. Mae yna le i gredu bod y DWP yn gwneud problemau iechyd meddwl yn waeth. Mae ymchwil trwyadl iawn gan Mind yn tanlinellu’r problemau. Mae tair gwaith yn fwy o sancsiynau budd-dal wedi’u cyflwyno i bobl efo problemau iechyd meddwl na’r nifer a gafodd eu cefnogi i fynd i mewn i waith. Mae cymryd rhan yn y Rhaglen Waith wedi gwaethygu problemau. Mae canfyddiadau Mind yn erchyll. Er enghraifft, roedd 83 y cant yn dweud eu bod eu hunan-barch nhw yn waeth, ac roedd 76 y cant yn dweud eu bod yn teimlo’n llai parod i weithio ar ôl bod i un o’r cynlluniau a oedd i fod i’w hannog i fynd yn ôl i waith. Roedd 86 y cant yn dweud eu bod nhw angen mwy o help, a bu’n rhaid i un o bob pedwar fynd i’r ysbyty tra’n mynychu rhaglenni nôl i waith—sefyllfa hollol annerbyniol. Mae diwygio lles wedi cael effaith anghyfartal ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae’r asesiadau yn methu â rhoi ystyriaeth i anghenion y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl—yn yr asesiad ei hun, ac yn sicr o ran y straen y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn ei wynebu wrth wneud y prawf asesiad incwm.
Yn anffodus, mae’r straen o gwmpas methu asesiad gallu i weithio, ac wedyn y broses apêl hirwyntog, wedi arwain at nifer o hunanladdiadau trasig. Mae arferion a diwylliant yr Adran Gwaith a Phensiynau o dan sawl Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud pobl yn sâl, a dylai’r Cynulliad yma anfon neges glir i ddweud bod sefyllfa felly’n warthus ac yn annerbyniol. Rhaid inni bwysleisio bod angen stopio niweidio pobl cyn bod modd inni eu helpu nhw.