Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n falch fod Plaid Cymru wedi dewis iechyd meddwl fel pwnc ar gyfer y ddadl yr wythnos hon, wythnos pan gafodd diwrnod iechyd meddwl ei nodi ar draws y byd. Mae ffigurau’n dangos y bydd salwch meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar o bobl yn ystod eu bywydau, ac erbyn 2020, bydd y problemau sy’n gysylltiedig â salwch meddwl yn ail i glefydau’r galon fel prif gyfrannwr i’r baich clefyd yn fyd-eang. Dyna pam y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth fawr i’r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
Yr wythnos diwethaf, pleser oedd mynychu digwyddiad ‘Mae angen i ni siarad’ yn adeilad y Pierhead, cynghrair o elusennau iechyd meddwl y trydydd sector a sefydliadau proffesiynol sy’n ymgyrchu dros wella mynediad at therapïau seicolegol i bobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru. Roedd ‘Mae angen i ni siarad’ yn nodi cost problemau iechyd meddwl yng Nghymru, yr amcangyfrifir ei bod yn £7.2 biliwn y flwyddyn. Ac mae’r gost sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael yn y gweithle bron yn £1.2 biliwn y flwyddyn yn unig, ac mae hynny’n cyfateb i £860 am bob person sy’n cael ei gyflogi yn y gweithlu yng Nghymru. Ac er bod y ffigyrau hyn yn wirioneddol syfrdanol, mae’r gost i Gymru’n uwch byth, gan fod pob unigolyn sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn unigolyn: mam neu dad neu fab neu ferch; person cariadus sy’n dioddef, yn aml yn anweledig ac ar ei ben ei hun. Ni ellir gorbwysleisio gwerth diwrnodau a enwir megis Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, a dadleuon fel hon. Mae stigma yn dal i fodoli ar y pwnc, ac er bod anafiadau corfforol megis torri coes yn ddealladwy, mae’n wir y gall effeithiau parlysol posibl problemau iechyd meddwl achosi her dawel i ni i gyd.
Wrth siarad am broblemau iechyd meddwl yr wythnos hon yn fy swyddfa, cafodd hunangofiant cricedwr Lloegr, Jonathan Trott, a oedd newydd ei gyhoeddi ei ddwyn i fy sylw. Roedd Trott yn gricedwr rhyngwladol hynod o lwyddiannus a chwaraeai dros Loegr, fel y bydd llawer o bobl yn gwybod rwy’n siŵr, cyn cyrraedd y penawdau newyddion yn 2013 pan ddychwelodd adref o Awstralia ar ôl prawf cyntaf cyfres y Lludw. Mae’r chwaraewr criced hwn, sydd i’w weld yn eithriadol o iach ac ar anterth ei bwerau yn ysgrifennu:
Nid oeddwn wedi cysgu, nid oeddwn wedi bwyta ac nid oeddwn wedi gallu atal y cur yn fy mhen.
Roedd yn dweud ei fod wedi gorfod ffonio’i dad i ddweud wrtho nad oedd yn gallu ymdopi mwyach a’i fod yn hedfan adref.
Ni ddywedodd hynny, meddai, ond gwyddwn y byddai’n siomedig.
Ac ysgrifennodd:
Roeddwn wedi siomi’r dyn roeddwn fwyaf o eisiau ei wneud yn falch ohonof.
Mae ei ddefnydd o iaith yn ddadlennol ac yn dorcalonnus. Yn ddiddorol, mae ei ddisgrifiad o’i salwch sy’n gysylltiedig â gorbryder a’i benderfyniad amlwg a chyhoeddus i ddisgrifio ei sefyllfa fel salwch sy’n gysylltiedig â gorbryder yn hytrach nag iselder wedi achosi dadl ynddo’i hun. Dywedodd cyn-gapten Lloegr, Michael Vaughan, ei fod yn teimlo ei fod wedi cael ei dwyllo ychydig bach, gan ddweud:
Pan glywaf chwaraewyr yn siarad am orweithio, rwy’n tybio mai esgus yw hynny.
Mae enghraifft gyhoeddus Jonathan Trott, a gamddeallwyd gan ei gyd-chwaraewyr, ac a oedd i’w weld yn llwyddo ym mhob ffordd, yn rhybudd clir i ni o’r stigma sy’n parhau i chwyrlïo fel niwl diharebol Baker Street yn ‘Sherlock Holmes’. Mae’n dal i amgylchynu materion iechyd meddwl. Mae naw o bob 10 o bobl sydd â salwch meddwl yn canfod bod stigma a gwahaniaethu yn gallu bod yn rhwystr i weithgareddau bob dydd, a dyna pam y mae un o themâu canolog ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ yn ymwneud â newid agweddau at iechyd meddwl yn ddiwylliannol, a pham y mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar wahaniaethu ar sail iechyd meddwl yn y rhaglen lywodraethu.
Cefais fy nghalonogi o glywed datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar ail gynllun cyflawni strategaeth drawslywodraethol 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’. Rwy’n cydnabod bod yna feirniadaeth, ac er bod Mind Cymru yn croesawu’r cynllun, soniodd eu cyfarwyddwr, Sarah Moseley, am eu pryderon fod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu tanariannu’n sylweddol, ond eto, yn 2015-16, mae’r gyllideb ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn £587 miliwn, i fyny o £389 miliwn yn 2009-10. Mae hyn yn cyfateb i 11.4 y cant o gyfanswm cyllideb y GIG yng Nghymru, y maes unigol mwyaf o wariant y GIG yng Nghymru. Fel y dywedodd y Gweinidog iechyd ddoe, dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, rydym wedi cyhoeddi dros £22 miliwn o arian newydd ar gyfer ystod o ddarpariaethau newydd ar draws pob oedran. Mae’r cynllun cyflawni yn nodi maes blaenoriaeth sy’n anelu i sicrhau bod plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn gwella’n gynt. Ddoe roeddwn yn ffodus i fynychu dathliadau pen-blwydd Childline yn 30 oed yn y Senedd gyda’r Fonesig Esther Rantzen, ac mae’n werth nodi bod NSPCC Cymru, wrth roi sylwadau ar y ddarpariaeth, yn croesawu’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar flaenoriaethu’r mater hwn. Dylai buddsoddiad ychwanegol diweddar mewn gwasanaethau i blant a’r glasoed yng Nghymru barhau, ac mae’n bwysig fod llai eto o oedi cyn cael mynediad at wasanaethau. Mae’n drueni, felly, fod Plaid Cymru wedi canolbwyntio eu cynnig newydd ar eu diddordeb arferol mewn pwerau i wleidyddion, yn wahanol i welliant y gwrthbleidiau sy’n mynd i’r afael â’r pwnc hwn. Fel y cyfryw, rwy’n croesawu’n fawr—