Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 12 Hydref 2016.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon, gan ein galluogi i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am gymorth meddygol ar gyfer salwch meddwl ac amcangyfrif fod un o bob pedwar ohonom yn dioddef problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, mae’n amlwg fod angen i ni roi blaenoriaeth uchel i iechyd meddwl.
Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn troi at y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun i helpu i leihau’r stigma sy’n dal i fod yn gysylltiedig â salwch meddwl. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae’n wirioneddol annifyr fod yn rhaid i bobl sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael ddelio hefyd â stigma, aflonyddu a diffyg dealltwriaeth lwyr. Mae arolwg a gynhaliwyd gan Amser i Newid wedi gweld bod stigma a gwahaniaethu yn hollbresennol, gydag yn agos at naw o bob 10 defnyddiwr gwasanaethau yn sôn am ei effaith negyddol ar eu bywydau. Mae dwy ran o dair wedi rhoi’r gorau i wneud pethau oherwydd stigma a dwy ran o dair wedi rhoi’r gorau i wneud pethau oherwydd eu bod ofn stigma a gwahaniaethu. Pa mor aml y clywsom am bobl sy’n dioddef o iselder yn cael eu gorchymyn i ymwroli neu fod angen iddynt roi’r gorau i lyfu clwyfau, ac i ddod at eu coed? Nid yw hyn yn dderbyniol. Mae’r agweddau hyn yn atal pobl sy’n dioddef o salwch meddwl rhag siarad allan neu rhag ceisio cymorth hyd yn oed. Mae llawer gormod o bobl yn cael eu gwneud i deimlo cywilydd a’u bod wedi’u hynysu ac yn ddi-werth o ganlyniad i’w problemau iechyd meddwl. Mae gennym i gyd ran i’w chwarae i’w gwneud yn haws i bobl â phroblemau iechyd wneud ffrindiau, gweithio a byw bywyd hollol lawn.
Yn ogystal â mynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu, mae’n rhaid i ni sicrhau triniaeth amserol i unrhyw un sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Profwyd bod mynediad cynnar at therapïau siarad fel therapi gwybyddol ymddygiadol yn gwella adferiad ac yn lleihau’r angen am wasanaethau mwy acíwt. Mae Mind yn argymell na ddylid aros yn hwy na 28 diwrnod am atgyfeiriad am driniaeth gyntaf, a phan fydd rhywun yn wynebu argyfwng iechyd meddwl, mae’n rhaid i’r amser aros fod yn fyrrach.
Wrth gwrs, os ydym i wella gwasanaethau iechyd meddwl, rhaid i ni sicrhau bod yr arian cywir yn ei le. Problemau iechyd meddwl yw tua chwarter yr holl broblemau iechyd, ac eto 11.4 y cant o gyllideb GIG Cymru a wariwn ar iechyd meddwl. Yn Lloegr, lle nad yw’r gyllideb iechyd meddwl yn cael ei neilltuo, maent yn gwario 11.9 y cant o gyllideb y GIG ar iechyd meddwl. Mae un bwrdd iechyd lleol, Aneurin Bevan, yn gwario dros 17 y cant yn fwy na’r dyraniad a neilltuwyd ar ei gyfer fel mater o drefn. Mae PricewaterhouseCoopers, yn eu hadolygiad o’r trefniadau neilltuo cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, yn datgan nad yw’r dyraniad o arian a neilltuwyd yn seiliedig ar asesiad cadarn o anghenion gofal iechyd. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i newid y trefniadau neilltuo arian.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am roi’r cyfle hwn i gynnal y ddadl hon. Rwy’n croesawu ac yn cefnogi eu galwad i addysgu pobl ifanc am faterion iechyd meddwl. Fodd bynnag, ni allwn gefnogi datganoli cyfraith cyflogaeth ac felly byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch.