Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n meddwl bod llawer eisoes wedi cael ei ddweud yn rymus iawn yn y ddadl hon, ac wedi’i gynnwys, felly nid wyf yn mynd i sôn am y meysydd sydd wedi cael sylw eisoes. Rwyf am gyfyngu fy sylwadau, yn eithaf byr, i gefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl yn y gweithle.
A gaf fi ddechrau drwy ganmol y bwriad sy’n sail i’r cynnig hwn gan Blaid Cymru? Ond rwy’n credu bod trydydd argymhelliad y cynnig yn gwyro oddi wrth yr hyn a ddylai fod yn brif fyrdwn y ddadl. Gallem dreulio misoedd lawer neu fwy mewn dadleuon cyfreithiol â Llywodraeth y DU dros gymhwysedd y weinyddiaeth ddatganoledig hon i ddeddfu ar faterion cyflogaeth. Ac mae’r dadleuon hynny’n sicr yn ganolog wrth fynd i’r afael, er enghraifft, â chymhwyso darpariaethau’r Ddeddf Undebau Llafur 2016 lechwraidd yma yng Nghymru i wasanaethau cyhoeddus datganoledig, ond nid ar hynny y dylem fod yn canolbwyntio wrth i ni sôn am faterion iechyd meddwl yn y gweithle.
Wrth gwrs, mae gennym gyfraith cyflogaeth eisoes sy’n darparu diogelwch i weithwyr rhag gwahaniaethu dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, er fy mod yn deall amheuon y cynigydd ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth y DU i hynny. Mae ‘A yw’r ddeddfwriaeth yn ddigon cryf?’ yn gwestiwn y gellir ei ofyn bob amser, wrth gwrs, ond efallai mai ‘A yw’r ddeddfwriaeth yn cael ei chymhwyso’n effeithiol yn y gweithle?’ ddylai’r cwestiwn fod. Un peth rwyf wedi’i ddysgu yn ystod yr oddeutu 30 mlynedd a dreuliais yn aelod gweithredol ac yn drefnydd undeb llafur, yw y gallwch roi cymaint o ddeddfwriaeth ag y dymunwch ar waith, ond ni fyddwch byth yn rhoi terfyn ar wahaniaethu o unrhyw fath yn y gweithle, oni bai eich bod yn mynd i’r afael â’r diwylliant o ragfarn yn y gwaith ac yn sicrhau bod mecanweithiau cymorth cadarn ar waith ar gyfer dioddefwyr gwahaniaethu. Dyna pam rwy’n llwyr o blaid y gwelliant gan Jane Hutt, sy’n cydnabod rôl bwysig cyflogwyr yn cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith.
Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn ei ddatganiad yn y Siambr hon ddoe wedi cyfeirio at gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau a sefydliadau i gydnabod na ddylai salwch meddwl fod yn rhwystr i weithio’n effeithiol. Ceir rhai enghreifftiau gwych o gwmnïau mawr yng Nghymru, fel Admiral a Dŵr Cymru, sy’n darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl cynhwysfawr i’w gweithwyr, nid yn unig i’w helpu yn eu hymgysylltiad â chwsmeriaid, ond hefyd i gefnogi cydweithwyr yn y gweithle. Mae’r cwmnïau hyn yn gweld codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl fel rhan annatod o’u strategaethau iechyd a diogelwch.
Rwyf hefyd yn awyddus i gydnabod y rôl bwysig y mae undebau llafur yng Nghymru yn ei chwarae yn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl yn y gwaith, ond hefyd drwy fod ar y blaen yn darparu’r gefnogaeth gadarn honno yn y gweithle. Rwy’n arbennig o falch o’r gwaith a wnaed gan fy undeb fy hun, Unsain Cymru, sydd wedi trefnu cyrsiau hyfforddiant i benodi hyrwyddwyr iechyd meddwl er mwyn eu galluogi i roi cymaint o gymorth â phosibl i gydweithwyr sy’n dioddef o straen, gorbryder ac iselder.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy’n ddiolchgar o fod wedi cael cyfle i siarad yn y ddadl hon ac i gefnogi’r gwelliant gan Jane Hutt, a fyddai, fel y dywedais, yn gwneud hwn yn gynnig y gallai’r holl Siambr ei gefnogi yn fy marn i, a byddai’n darparu’r ysgogiad ar gyfer mynd i’r afael â materion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn ein gweithleoedd.